Fe groesawom Iestyn Tyne yn ôl yma i Ysgol Pentreuchaf ar gyfer y gweithdy er mwyn cyfansoddi ein geiriau. Yr alaw a ddewiswyd oedd 'Fuoch chi 'Rioed yn Morio?' .
Ni disgyblion blynyddoedd 3 a 4 fu wrthi yn cydweithio gydag o ar y geiriau; a'r geiriau hynny yn nodi llefydd gweladwy a pherthnasol i ardal yr ysgol. Roedd hi'n bwysig i ni orffen y gân fel gwahoddiad i'r Eisteddfod Genedlaethol a fydd yn dod i'r ardal yn 2023.
Roedd Iestyn yn gyn-ddisgybl yn yr ysgol, a braf oedd y cyfle i gydweithio gydag o ar y priosiect hwn. Defnyddiodd rai o'r disgyblion y geiriau er mwyn cystadlu yn un o gystadlethau Eisteddfod yr Urdd eleni hefyd.
Fuoch chi ym Mhentreucha'?
Fuoch chi ym Mhentreucha'?
Fuoch chi ym Mhentreucha'?
Ysgol llawn o ffrindia',
O Lithfaen, Llannor ac o Rhyd,
Pistyll, Boduan a Mela.
Fuoch chi ym Mhentreucha'?
Ardal llawn o liwia',
Tonnau'r mor a'r awyr las,
A'r bloda' yn y cloddia'.
Fuoch chi ym Mhentreucha'?
Gweld eira ar ben yr Wyddfa,
Y llwybr ar Dre Ceiri'n oer,
A'r Celtiaid ar y copa.
Fuoch chi ym Mhentreucha'?
Ymweld a phwmp y pentra',
Cewch ddysgu Cymraeg yn Nant Gwrtheyrn-
A mynd am dro yn y caeau.
Dewch i Bentreucha'!
Yma mae'r ysgol ora'!
Mi gewch chi groeso cynnes iawn
I'r Steddfod flwyddyn nesa'!
Iestyn Tyne a Disgyblion Ysgol Pentreuchaf