Catrin Angharad a ddaeth draw i weithio gyda ni yn Ysgol Cymerau. Fe fuodd hi yn gweithio gyda ddisgyblion blwyddyn 5 a 6 ar greu y geiriau newydd. Fel ysgol, fe ddewisom yr alaw 'Fflat Huw Puw' ar gyfer y gweithdai.
Hanes Largo o dre' Pwllheli sydd i eiriau Catrin Angharad a ni'r disgyblion. Fe wnaethom ni elwa o'r gweithdai, a chael profiadau cerddorol gwerthfawr gyda Catrin. Roedd hi'n braf cael gweithdai cerdd wyneb-yn-wyneb am y tro cyntaf er amser.
Largo
Mae sŵn yn Nhrwyn y Garreg, sŵn chwibianu,
Largo yn pysgota, ar noson ym Mhwllheli.
Fe weindiodd ei wialen – a choeliwch chi?
Mor-forwyn ddela’r byd a ddaeth o donnau’r lli.
LARGO! LARGO! Paid ag wylo,
Torraist ti dy galon dros fôr-forwyn dirion.
O! Gwrandwch chi ar rybudd Jesreel Jôs
A pheidio colli’ch pen dros unrhyw eneth dlos.
Cododd Largo’r forwyn ar ei gwch,
Syllodd ar ei chynffon a’i wyneb o fel bwch.
Tynnodd Largo’r worm o’r perm – am stŵr!
Fe gafodd gusan hir a’i thaflu’n ôl i’r dŵr.
LARGO! LARGO! Paid ag wylo,
Torraist ti dy galon dros fôr-forwyn dirion.
O! Gwrandwch chi ar rybudd Jesreel Jôs
A pheidio colli’ch pen dros unrhyw eneth dlos.
Gwaeddodd Largo arni, “Tyrd yn ôl!”
Tyrd mewn pram i’r pictiwrs, mi ‘drychai ar dy ôl.
Mi awn i’r siop i brynu ffrog laes ddel
Ond gwaeddodd hi “Ffarwel!” a llithro dan y swel.
LARGO! LARGO! Paid ag wylo,
Torraist ti dy galon dros fôr-forwyn dirion.
O! Gwrandwch chi ar rybudd Jesreel Jôs
A pheidio colli’ch pen dros unrhyw eneth dlos.
Gan Catrin Angharad a Disgyblion Blynyddoedd 5 a 6 Ysgol Cymerau