Yn Ysgol Glan-y-Môr, penderfynom ar y gân 'Harbwr Corc', gan J. Glyn Davies. Yr oedd hyn yn cyd-fynd gyda'r tasgau ar shantis y môr y buom yn eu hastudio yn y gwersi Cymraeg a Cherdd.
Ar dydd Iau, yr ugeinfed o Ionawr, cawsom ni ddisgyblion blwyddyn 7 gyfle i gymryd rhan mewn gweithdy rhithiol gyda un o gyn-ddisgyblion yr ysgol, sef Gruffudd Eifion Owen. Ar ddechrau'r gweithdy buom yn edrych ar beth yn union ydy cerdd barodi, a chawsom ddarllen cerdd barodi gan Gruff i Cynan (bardd arall o dref Pwllheli).
Erbyn diwedd y bore roeddem wedi creu dwy fersiwn gyda geiriau newydd ar y thema 'fy milltir sgwâr'. Mae'r geiriau yn dathlu tref Pwllheli.
Ar ben Ben Garn yr oeddwn ryw fore gyda’r dydd, gyda’r dydd,
o hogia bach, ryw fore gyda’r dydd;
yn gwylio’r dref o tannaf a’r llongau’n hwylio’n rhydd, hwylio’n rhydd,
o hogia bach, a’r llongau’n hwylio’n rhydd.
Mi welaf fynydd Carnguwch, a’r Eifl wrth fy nghefn, wrth fy nghefn,
o hogia bach, a’r Eifl wrth fy nghefn;
ac Asda a Home Bargains a thre’ heb fawr o drefn, fawr o drefn,
o hogia bach, a thre’ heb fawr o drefn.
Mae’r dref yn llawn ymwelwyr a mwg eu ceir mawr drud, ceir mawr drud
O hogia bach, a mwg eu ceir mawr drud
Ond mae hufen iâ a ffrindiau a stori ar bob stryd, ar bob stryd,
O hogia bach a stori ar bob stryd.
Mae’r brwyn llawn cyfrinachau a’r enwau’n llawn o hud, llawn o hud
O hogia bach, mae’r enwau’n llawn o hud.
A Llŷn a Bro Eifionydd yn fröydd gwerth y byd
O hogia bach, yn fröydd gwerth y byd.
Gan Gruffudd Eifion a Disgyblion Blwyddyn 7 Ysgol Glan-y-Môr
Ar lan y môr yr oeddwn yn mynd â’r ci am dro, ci am dro,
o hogia bach, yn mynd â’r ci am dro;
yn yfed sŵn y tonnau a’r haul yn deud ‘helo’, deud ‘helo’,
o hogia bach, a’r haul yn deud ‘helo’.
Hyd Winllan Lloyd yr aethom ac wedyn Lôn co’ bach, Lôn co’ bach,
o hogia bach, ac wedyn Lôn co’ bach;
cyn hwylio heibio’r harbwr yng nghwmni’r awyr iach, awyr iach,
o hogia bach, yng nghwmni’r awyr iach.
Mae siopau, ceir a chaffis a phobol lond y lle, lond y lle,
o hogia bach, a phobol lond y lle;
a sgrech y ffair a fferins a neiniau’n yfed te, yfed tê,
o hogia bach, a neiniau’n yfed tê.
Ar ben Ben Garn mae rhywun yn medru gweld yn bell, gweld yn bell,
o hogia bach, yn medru gweld yn bell;
cewch chwilio drwy’r holl ddaear, does ‘run golygfa well, golygfa well,
o hogia bach, does ‘run golygfa well!
Gan Gruffudd Eifion a Disgyblion Blwyddyn 7 Ysgol Glan-y-Môr