Yn Ysgol Llangybi, fe groesawom gyn-ddisgybl, sef Lleucu Fflur Jones atom ar gyfer cynnal gweithdy. Fe wnaethom benderfynu creu geiriau gan ddefnyddio chwedl leol 'Grasi' fel ysbrydoliaeth i ni.
Ond yn wahanol i'r gwreiddiol, roedd hon yn faled fodern, ar hen hen stori Grasi yn gadael i'r ffynnon orlifo gan greu llyn Glasfryn. Fe ddewisom ganu'r geiriau newydd ar alaw 'Deio i Dywyn'.
Baled Chwedl Grasi
Glywsoch chi am chwedl Grasi ?
Hen hen chwedl o Langybi
Stori am y dŵr a’r ffynnon
Stori am y dewin creulon.
Roedd yr haf yn boeth ac anodd
Doedd dim glaw ‘di bod ers misoedd
Roedd y ffermwyr oll yn cwyno
Fod y cnydau’i gyd yn gwywo.
Aeth y ffermwyr at y dewin
Oedd o’n fodlon helpu’r werin ?
Roedd y dewin eisiau Grasi
Doedd dim dewis arall ganddi.
Doedd ‘rhen Grasi ddim yn fodlon
I roi’r caead ar y ffynnon
A rhyw ddiwrnod daeth ei ffrindiau
Gan ei hudo draw i’r bryniau.
Heb y caead yno’i rwystro
Roedd y dŵr yn dal i lifo
O Garn Bentyrch lawr i Glasfryn
Ac roedd pobol wedi dychryn !
Roedd y dewin wedi gwylltio
Ar ôl gweld y dŵr yn llifo
Trodd y dewin Grasi’n dderyn
Alarch oedd hi am byth wedyn.
Dyna ddiwedd ar ein stori
Hanes merch o’r enw Grasi
Ar y llyn y mae yn nofio
Ac i’w chlywed weithiau’n crio.
Lleucu Fflur Jones a Disgyblion Blynyddoedd 4, 5 a 6 Ysgol Llangybi