Mared Llywelyn Williams ddaeth draw atom ni yma yn y Ffôr. Fe fuom yn trafod pa alaw i'w dewis cyn dod at y penderfyniad o 'Dafarn yn Nolrhedyn' gan Mim Twm Llai oherwydd y cyswllt rhwng 'lle', a 'pentref' a 'chymuned'.
Mae'r geiriau newydd yn sôn am bentref y Ffôr, ei hanes a'r hyn sy'n ei diffinio heddiw, yn ogystal â beth mae'r pentref yn ei olygu i ni'r plant.
Pentref y Ffôr
Pennill 1
Lle bach diddorol yw pentra y Ffôr
Lle mae’r plant a’r adar yn canu’n un côr
Lle weithiau yn llwyd ac weithiau yn las
Y cymylau yn gwynnu, haul yn tywynnu
Morgrug bach prysur di’r ceir ar y lôn
A’r groesffordd enwog fel bynsan y Grog
A’r afon Erch yn byrlymu o hyd
Cydganwn am ein pentra clyd.
Cytgan
Dyma ni yn ein coch
Ac mi ganwn ni yn groch
Yn fan hyn fyddwn ni
Er mwyn fory
Ac fel cywion yn y nyth
Dyma’n adra ni am byth
La la la la.
Pennill 2
Gromlech sy’n llamu i’r gorffennol bell
Yn gadarn yn arw yn gadael ei hôl
Map John Evans yn grychau i gyd
Y sgwariau, dotiau a’r caeau plaen
Parablu bloeddio yn Pig Hotel
A drewdod a stem yn codi o’r tail
Y moch yn rhochian wel dyna ni sbri
A’r tyllau’n y wal yn adrodd stori.
Cytgan
Dyma ni yn ein coch
Ac mi ganwn ni yn groch
Yn fan hyn fyddwn ni
Er mwyn fory
Ac fel cywion yn y nyth
Dyma’n adra ni am byth
La la la la.
Pennill 3
Capel yn dalsyth ar gornel y stryd
Yn syllu ar drigolion drwy’r dydd
Draw dros y bont mae ein ffatri laeth
Pob cosyn o gaws yn gyforiog o faeth
O Hafod Lon i ben lôn Tŷ’r Gof
Mae’r enwau i gyd yn saff yn ein cof
Beirdd heddiw a ddoe’n ein gyrru ymlaen
Hen bentref y Ffôr sy’ mor annwyl i ni.
Cytgan
Dyma ni yn ein coch
Ac mi ganwn ni yn groch
Yn fan hyn fyddwn ni
Er mwyn fory
Ac fel cywion yn y nyth
Dyma’n adra ni am byth
La la la la.
Mared Llywelyn Williams a Disgyblion Ysgol Bro Plenydd