Eleni, penderfynodd ysgolion dalgylch Glan-y-Môr, gydweithio ar brosiect er mwyn creu geiriau newydd ar hen ganeuon neu alawon. Y bwriad oedd plethu'r hen a'r newydd, a byddai cyfle i'r disgyblion ddysgu mwy am hanes a chefndir y caneuon gwreiddiol, yn ogystal â chreu fersiwn newydd eu hunain o'r gân.
Roedd angen i'r geiriau newydd ddathlu'r filltir sgwâr. Roedd yn gyfle hefyd i'r disgyblion fod yn falch o'u Cymreictod.
Roedd pob ysgol yn gweithio gyda bardd, artist neu berson creadigol er mwyn creu'r geiriau newydd. Ambell dro, gwahoddwyd cyn-ddisgyblion i helpu gyda'r cyfansoddi.
Ar ddiwedd y prosiect, cafodd yr ysgolion gyfle i recordio'r caneuon, fel bod modd i ni wrando a mwynhau alawon ein gilydd.
Mae'r caneuon ynghyd â gwybodaeth amdanynt i'w gweld wrth glicio ar enwau'r ysgolion ar frig y dudalen -
Ysgol Abererch
Ysgol Bro Plenydd
Ysgol Chwilog
Ysgol Cymerau
Ysgol Glan-y-Môr
Ysgol Llangybi
Ysgol Pentreuchaf
Ysgol yr Eifl
Hybu balchder yn eu milltir sgwâr
Plethu'r hen a'r newydd - hybu Cymreictod wrth ddysgu am yr hen alawon, yn ogystal â'r rhai newydd
Ymarfer defnyddio'r Gymraeg ar lafar, mewn cyd-destunau gwahanol
Disgyblion yn dysgu mwy am eu milltir sgwâr
Disgyblion yn dysgu am ardaloedd ei gilydd wrth edrych a gwrando ar ganeuon ei gilydd