'Migl-di-Magl-di' ac 'Ar Lan y Môr' oedd yr alawon a ddewiswyd gennym ni yma Ysgol Abererch. Daeth Anni Llŷn draw atom ni ddisgyblion blynyddoedd 3, 4, 5 a 6 i gynnal gweithdy ar yr hen alawon, cyn mynd ati i greu geiriau newydd yn sôn am yr ysgol a'r ardal leol.
Fe wnaeth pawb fwynhau'r cyfle i weithio gyda cerddor a bardd. Roedd diwrnod y gweithdy yn hwyliog iawn, a chawsom berfformiad ar ddiwedd y dydd a oedd yn cynnwys symudiadau a oedd yn cyd-fynd gyda'r gân hefyd.
Ar Lan Afon Erch
Ar lan Afon Erch, mae plant yn chwarae,
Mae'r lle yn llawn a phawb yn ffrindia'.
Ar lan Afon Erch mae ngwreiddia' inna,
Does 'na nunlla gwell na adra.
Migldi Magldi Berch
Ffeind a difyr ydy'r afon,
Migldi magldi hei now now.
Taflu cerrig, chwarae'n wirion,
Migldi magldi hei now now.
Mynd am dro ar hyd hen lôn,
Migldi magldi hei now now.
Straeon mawr yn ôl y sôn,
Migldi magldi hei now now.
Cawrdaf cryfaf yn ei gadar,
Migldi magldi hei now now.
Mae yr awyr yn llawn adar,
Migldi magldi hei now now.
Cadair Cawrdaf, neu'r un dawal!
Migldi magldi hei now now.
Tyfu blodau gyda ffrindia'
Abereri, Aberi, Abererch.
Ar y traeth yn gwylio'r tonau,
Abereri, Abereri, Abererch.
Bodriala a Llwynhudol,
Abereri, Abereri, Abererch.
Cofiwch Prior - timau'r ysgol,
Abereri, Abereri, Abererch.
Anni Llŷn a Disgyblion Ysgol Abererch