Hanner tymor

Half term

Fel rydych yn gwybod, ein thema ar gyfer y tymor hwn yw 'Ar ein stepen drws'. Mae gwaith cartref yr hanner tymor wedi'i selio ar y thema hon. Gweler isod:

As you know, the theme for this term is 'On our door step'. The half term's homework is set on this theme. See below:

Hydref 2021.pdf
Dail - Cymraeg.pdf
Dail.pdf

Cystadleuaeth Llaeth y Llan / Llaeth y Llan competition:

Gallwch chi ddylunio ardal tu allan sy’n ymroddedig i hyrwyddo addysg awyr agored ac iechyd a lles disgyblion? Dylech ystyried yr isod yn eich dyluniad gorffenedig:

  • Defnyddio maint yr ardd yn glyfar – dydy maint yr ardd ddim yn gyfyngedig i fod yn fawr neu yn fach (nid yw maint yn bwysig) defnydd clyfar o'r ardal sydd yn bwysig.

  • Mannau eistedd a gweithfannau – ardal ar gyfer darllen/meddwl/sgwrsio/myfyrio

  • Ailgylchu ac uwchgylchu - metel, pren, plastig (beth am ddefnyddio pot iogwrt Llaeth y Llan?)

  • Tyfu a chynaliadwyedd - blodau, llysiau, perlysiau a choed ffrwythau

  • Diogelu bywyd gwyllt a'u cynefinoedd – trychfilod, draenogod, adar, pwll bywyd gwyllt, hyd yn oed ieir!

  • Peillio - annog gwenyn a gloÿnnod byw drwy blannu planhigion sy'n gyfeillgar i bryfed peillio.

  • Pŵer yn yr amgylchedd – goleuadau solar, cerfluniau gwynt ac ati

  • Compostio – pwysigrwydd lleihau gwastraff bwyd sy'n mynd i safleoedd tirlenwi

  • Arbed dŵr – storio dŵr glaw

  • Ymgorffori defnydd storio tu allan

Danfonwch eich syniadau yn ôl i'r ysgol ac fe ddewisiwn ni enillydd o’r Cyfnod Sylfaen a Chyfnod Allweddol 2. Pob lwc!

Can you design an outdoor space dedicated to promoting health and well-being? We would like you to use your imagination, be innovative and incorporate all your creative ideas, giving thought to using the following themes within your design:

  • Clever use of space - big or small areas (size doesn't matter here)

  • Seating areas and workstations – area for reading/thinking/chatting/meditating

  • Recycling and upcycling - metal, wood, plastic (even using a Llaeth y Llan yogurt pot)

  • Growing & sustainability - flowers, vegetables, foliage, fruit trees - absolutely anything in your space

  • Protecting wildlife and their habitats – bugs and ladybirds, hedgehogs, birds, pond life, even chickens !

  • Pollination - encouraging bees and butterflies by planting pollinator friendly plants

  • Power in the environment – Solar lights, wind sculptures etc

  • Composting – the importance of reducing food waste going into landfill

  • Saving water – rainwater storage

  • Incorporate storage solutions


Send your entries back to the school and we’ll choose a winner from the Foundation Phase and one from Key Stage 2.

Pob lwc!

Pori Drwy Stori: Calendr Dyna Dywydd

Pori Drwy Stori: My Weather Watch Calendar

Mae'r plant wedi derbyn calendr Dyna Dywydd i gwblhau dros hanner tymor. Defnyddiwch y calendr i gofnodi'r gwahanol fathau o dywydd yn ddyddiol dros y gwyliau. Bydd cofnodi mathau gwahanol o dywydd yn eich helpu i ddatblygu’u sgiliau mathemateg. Mae'r adnodd hwn yn rhan o raglen Pori Drwy Stori (BookTrust Cymru).

The children have received a Weather Watch Calendar to complete over half term. Use your calendar to record the different types of weather daily throughout the week. Recording different types of weather will help you to develop your mathematical skills. This resource is part of the Pori Drwy Stori programme by BookTrust Cymru.

Mwynhewch yr hanner tymor!

Enjoy the half term!