5.11.21

Gwaith Cartref - 5.11.21 / Homework - 5.11.21:

Casglu Data / Collecting data

Yr wythnos hon, rydyn ni wedi bod yn trafod yr Hydref ac wedi bod allan yn dysgu yn yr awyr agored. Eich gwaith cartref yr wythnos hon yw mynd am dro bach i gasglu data. Beth am gasglu dail lliw gwahanol, brigau mawr a bach, gwahanol wrthrychau naturiol ayyb? Gallech gyflwyno eich data mewn unrhyw ffordd y dymunwch e.e. mewn tabl, diagram Venn, siart cyfrif neu graff. Gweler enghreifftiau isod;

This week, we have been discussing the Autumn and spending lots of time learning in the outdoors. Your homework this week is to go for a short walk to collect data. How about collecting different coloured leaves, different length sticks, different natural objects etc? You can present your work any way you wish e.g. in a table, Venn diagram, tally chart or graph. See examples below;

Yr Hydref / Autumn

Cliciwch ar y fideo isod i wrando ar gân Cyw 'Dawns y dail'. Ydych chi'n gallu darganfod prif nodweddion yr Hydref? Pa liw ydy'r dail? Beth sydd yn digwydd i'r dail yn ystod tymor yr Hydref? Pa anifeiliaid sydd yn y gân? Ydych chi'n gallu tynnu llun o goeden yn yr Hydref? Gweler enghreifftiau isod;

Click on the video below to listen to the Cyw song 'Dawns y dail'. Can you discover the main features of Autumn? What colour are the leaves? What happens to the leaves during Autumn? What animals are in the song? Can you draw a picture of a tree in the Autumn? See examples below;

Diolch