Proses o Ddylunio Cwricwlwm

Proses o Ddylunio Cwricwlwm

Dylai’r pedwar diben fod yn ddyhead ac yn nod terfynol ar gyfer y cwricwlwm a gynllunir gan ysgolion. Yn y pen draw, nod cwricwlwm ysgol yw cefnogi ei dysgwyr i ddod yn ddysgwyr uchelgeisiol, galluog sy'n barod i ddysgu gydol eu bywydau; gyfranwyr mentrus, creadigol sy’n barod i chwarae rhan lawn mewn bywyd a gwaith; ddinasyddion egwyddorol, gwybodus yng Nghymru a’r byd; unigolion iach, hyderus sy'n barod i fyw bywyd cyflawn fel aelodau gwerthfawr o gymdeithas.



Mae'r siart-lif uchod yn nodi camau posib a all arwain at roi’r cwricwlwm newydd ar waith yn llawn yn eich sefydliad ac fe allwch ei ddefnyddio i adlewyrchu ar ble ydych chi yn y broses ar hyn o bryd a nodi eich camau nesaf. Mae camau 1 i 3 yn ystyriaethau strategol sy’n mynnu cyfeiriad ysgol gyfan a fydd wedyn yn gallu llywio’r cynllunio cyndlynus yn y MDaPh a sicrhau ehangder a dilyniant yn y cwricwlwm ar draws yr ysgol.


Mae dylunio’r cwricwlwm yn dechrau gyda datblygu gweledigaeth – y ‘pam’ – sef Cam 1 ar y diagram. Dylai’r pedwar diben a datblygu gweledigaeth fod yn fan cychwyn ac yn ddyhead ar gyfer dyluniad cwricwlwm. Dyma fydd y llinyn aur drwy’r dyluniad cyfan.


Mae ‘beth’ fydd yn cael ei ddysgu a’i addysgu yn cael ei ystyried yng ngham 2 a 3 a’i roi ar waith yng ngham 4 a 5. Mae angen dealltwriaeth gyffredin ysgol gyfan a chyfeiriad strategol ar gyfer holl gydrannau gorfodol fframwaith y cwricwlwm. Yn ystod gwaith cam 3 bydd angen deialog rheolaidd gydag Arweinwyr Canol ac ymarferwyr i ystyried gwahanol ddulliau o ddylunio’r cwricwlwm a chynllunio’r Meysydd Dysgu a Phrofiad er mwyn rhoi strwythur ysgol gyfan yn ei le ar gyfer eich cwricwlwm chi.


Y cam nesaf yw ‘sut’ – sef cynllunio, yr addysgeg a’r asesu i sicrhau bod cyfeiriad strategol dylunio’r cwricwlwm yn cael gwir effaith ar arferion yr ystafell ddosbarth a datblygu dysgwyr tuag at wireddu’r 4 Diben. Nid yw’r broses yn sefydlog nac yn llinol – bydd ganddoch chi eich dulliau eich hun o gynllunio’ch cwricwlwm ac mae’n debygol o fod yn broses gylchol o dreialu, arfarnu a gwella. Sut bynnag y bydd ysgolion yn gweithredu mae'n rhaid i'r broses hon arwain at godi safonau.


Ystyriaethau

Sut y bydd eich cwricwlwm yn:

  • galluogi eich dysgwyr i gyflawni'r pedwar diben ac yn eu paratoi ar gyfer dysgu parhaus, gwaith a bywyd?

  • meithrin disgwyliadau uchel ac yn galluogi pob dysgwr i gyflawni ei lawn botensial?

  • cynnig addysg eang a chytbwys, sy'n galluogi eich dysgwyr i greu cysylltiadau rhwng y gwahanol feysydd dysgu a phrofiad (Meysydd), a chymhwyso'u dysgu mewn sefyllfaoedd newydd ac mewn perthynas â materion mwy cymhleth?

  • cefnogi cynnydd ar hyd continwwm dysgu, a sut rydych yn gweithio gydag eraill i sicrhau cysondeb yn y cyfnodau pontio ar hyd continwwm 3 i 16?

  • cefnogi iechyd a lles eich dysgwyr, gan gynnwys eu hiechyd meddwl a'u lles?

  • cefnogi datblygiad gwybodaeth eich dysgwyr sy’n sylfaen i fod yn ddinesydd gwybodus?

  • cydnabod hunaniaeth eich dysgwyr, eu hiaith/ieithoedd, eu gallu a'u cefndir, a'r cymorth gwahanol y gall fod ei angen arnyn nhw o ystyried eu hamgylchiadau penodol?

  • adlewyrchu amrywiaeth safbwyntiau, gwerthoedd a hunaniaethau sy'n llunio eich ardal leol a Chymru, a meithrin dealltwriaeth o'r byd ehangach?

  • ymgorffori cyd-awduro gyda dysgwyr, eu teuluoedd a'r gymuned ehangach?

  • galluogi eich dysgwyr i wneud synnwyr o'r profiad o dyfu'n hŷn yn y Gymru gyfoes ac o faterion a fydd yn bwysig yn y dyfodol, gan gynnwys lles, datblygu cynaladwy a dinasyddiaeth?

  • cefnogi eich dysgwyr i ymgysylltu’n feirniadol ag ystod o wybodaeth ac asesu ei gwerth a pha mor ddilys ydyw?

  • galluogi eich dysgwyr i feithrin dealltwriaeth o'u hawliau a hawliau eraill?