Dilyniant a Chynnydd
Dilyniant a Chynnydd
Mae cynnydd mewn dysgu yn broses o ddatblygu a gwella sgiliau a gwybodaeth dros amser. Mae hyn yn canolbwyntio ar ddeall beth mae'n ei olygu i wneud cynnydd mewn maes neu ddisgyblaeth benodol a sut y dylai dysgwyr ddyfnhau ac ehangu eu gwybodaeth a'u dealltwriaeth, eu sgiliau a'u galluoedd, a phriodoleddau a thueddiadau. Mae hyn yn allweddol er mwyn iddynt ymgorffori'r pedwar diben a symud ymlaen i wahanol lwybrau y tu hwnt i'r ysgol.
Y Pum Egwyddor Cynnydd:
ehangder a dyfnder gwybodaeth cynyddol
dyfnhau'r ddealltwriaeth o'r syniadau a'r disgyblaethau yn y meysydd;
mireinio sgiliau a soffistigeiddrwydd cynyddol wrth eu defnyddio a’u cymhwyso;
creu cysylltiadau a throsglwyddo’r dysgu i gyd-destunau;
cynyddu effeithiolrwydd y dysgwr
Bydd Disgrifiadau o Ddysgu yn y datganiadau ‘Yr Hyn sy’n Bwysig’ yn cyfeirio at gamau cynnydd o fewn y Meysydd Dysgu a Phrofiad ac yn cefnogi ymarferwyr i arwain dysgwyr tuag at gyflawni’r 4 diben. Maent yn bwyntiau cyfeirio ar gyflymder disgwyliedig y cynnydd, i lywio'r cwricwlwm, yr addysgu a'r dysgu.
Mae'n hanfodol bod dilyniant a chynnydd mewn dysgu nid yn unig yn adlewyrchu gwybodaeth a dealltwriaeth y maes ond hefyd yn adlewyrchu'r galluoedd a adlewyrchir yn y pedwar diben, eu sgiliau cyfannol, a'r sgiliau trawsgwricwlaidd.
Er mwyn gwneud cynnydd bydd yn ofynnol i ddysgwyr ailymweld â'r cysyniadau a amlinellir yn y datganiadau o'r hyn sy'n bwysig, gan ddatblygu dealltwriaeth fwy soffistigedig a chymhwyso'r rhain wrth iddynt symud ymlaen. O ganlyniad, nid yw hyn yn broses linol, nac yn symud o un pwnc i'r llall heb wneud cysylltiadau rhwng dysgu a datblygu dealltwriaeth o'r cysyniadau sylfaenol a rennir.
Cyd-ddealltwriaeth o ddilyniant a chynnydd
Mae angen cyfleoedd rheolaidd ar gyfer deialog broffesiynol rhwng yr holl ymarferwyr o fewn a rhwng ysgolion er mwyn myfyrio, rhannu a thrafod cynnydd dysgwyr a datblygu dealltwriaeth gyffredin o ddilyniant a sut beth yw dilyniant ar draws yr ysgol a’r clwstwr.
Bydd hyn yn helpu i sicrhau cwricwlwm cydlynol ac yn cefnogi ysgolion i werthuso a yw'r her a'r gefnogaeth i ddysgwyr yn addas.
Yn ôl y Ddeddf Cwricwlwm ac Asesu 2021 mae’n rhaid i’r Cod datganiadau o’r Hyn sy’n Bwysig a’r Cod Cynnydd i fod yn sail i’r cwricwlwm a’r trefniadau asesu ym mhob ysgol.