Fframwaith Cwricwlwm i Gymru

Fframwaith CiG - Yr Hanfodion.pdf
Cydrannau hanfodol a gorfodol

Mae Fframwaith Cwricwlwm i Gymru yn ddatganiad clir o'r hyn sydd, yn ein barn ni, yn bwysig mewn addysg eang a chytbwys. Wrth ei wraidd y mae ein dyhead ar gyfer pob plentyn a pherson ifanc yng Nghymru, fel y'i diffinnir gan bedwar diben y cwricwlwm. Er mwyn gwireddu'r weledigaeth hon, mae'n rhaid i ysgolion gynllunio, mabwysiadu a gweithredu cwricwlwm sy'n bodloni gofynion cwricwlwm a nodir mewn deddfwriaeth, a darparu'r dysgu y mae'n ei ddiffinio. Er mwyn cefnogi ysgolion i wneud hyn, mae'r canllawiau yma’n nodi dull gweithredu clir i lywio'r broses o wneud penderfyniadau am y cwricwlwm.

Mae’r Fframwaith yn rhoi cyfle i bob ysgol yng Nghymru gynllunio ei chwricwlwm ei hun o fewn dull cenedlaethol sy’n sicrhau lefel o gysondeb. Mae'n annog ysgolion i ddatblygu eu gweledigaeth eu hunain ar gyfer eu dysgwyr o fewn cyd-destun y pedwar diben a'r dysgu a ddiffinnir ar lefel genedlaethol. Mae'n rhoi lle i ymarferwyr fod yn greadigol a datblygu dysgu ystyrlon drwy ystod o brofiadau a chyd-destunau sy'n diwallu anghenion eu dysgwyr.

Mae angen dealltwriaeth gyffredin a chyfeiriad strategol ysgol gyfan i holl elfennau hanfodol a gorfodol y Fframwaith er mwyn llywio'r gwaith o gynllunio a darparu.

Dyma i chi ddolenni at yr arweiniad cenedlaethol ar yr elfennau hanfodol a mandadol.

Deddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021

Mae'r Ddeddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021 yn nodi pedwar diben y cwricwlwm o dan y gyfraith. Mae hefyd yn nodi'r elfennau gorfodol canlynol sydd, ag eithrio Saesneg, yn rhychwantu continwwm dysgu 3 i 16 oed:

  • sgiliau trawsgwricwlaidd llythrennedd, rhifedd a chymhwysedd digidol

  • enwau'r meysydd dysgu a phrofiad (Meysydd)

  • addysg cydberthynas a rhywioldeb

  • crefydd, gwerthoedd a moeseg

  • Cymraeg

  • Saesneg – o 7 oed. Gall penaethiaid a darparwr addysg feithrin a ariennir/nas cynhelir arfer eu disgresiwn wrth benderfynu a fyddan nhw’n cyflwyno Saesneg i ddysgwyr rhwng 3 a 7 oed, ac i ba raddau. Diben hyn yw hwyluso'r broses o drochi dysgwyr y blynyddoedd cynnar yn y Gymraeg. Felly, disgwylir y bydd ysgolion cyfrwng Saesneg a dwyieithog yn parhau i gynnwys Saesneg yn eu cwricwla.

Mae'r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru gyhoeddi tri chod y mae'n rhaid iddyn nhw fod yn sail i'r cwricwlwm a'r trefniadau asesu ym mhob ysgol a lleoliad sy'n ddarostyngedig i'r Ddeddf. Mae hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru adolygu'r codau yn barhaus a'u diweddaru yn ôl yr angen. Y codau yw:

Mae'r Ddeddf yn gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i wneud darpariaeth mewn perthynas â threfniadau asesu. Bydd y Rheoliadau yn ei gwneud yn ofynnol i benaethiaid a darparwyr eraill wneud trefniadau asesu fel rhan o'r broses o gynllunio a datblygu eu cwricwlwm a'u rhoi ar waith, ac i adolygu a diwygio eu trefniadau asesu fel rhan o'u prosesau hunanfyfyrio a gwella'r cwricwlwm. Yn gysylltiedig â hyn, o dan adran 57 o'r Ddeddf, bydd Gweinidogion Cymru yn cyfarwyddo penaethiaid a darparwyr addysg eraill i gymryd camau penodol i hybu a chynnal dealltwriaeth o gynnydd.