Dulliau o
Ddylunio Cwricwlwm
Mae hyblygrwydd i ddewis sut i strwythuro'r cwricwlwm, megis drwy ddull integredig, amlddisgyblaethol, rhyngddisgyblaethol neu ddisgyblaethol. Ar draws y continwwm 3 i 16, mae'n bwysig cynnig cyfleoedd eang a chytbwys i ddysgwyr. Dylai'r ddarpariaeth fod yn addasol, amlbwrpas a newidiol yn dibynnu ar y dysgwyr a'u cyd-destun.
Cwestiynau i ystyried addasrwydd modelau amrywiol ar gyfer ysgol:
Pa mor effeithiol fyddai’r model cwricwlwm a ddewiswyd wrth wneud cysylltiadau o fewn a rhwng gwybodaeth a sgiliau a MDaPh, ac ati?
Pa mor dda y mae’r model yn datblygu’r sgiliau trawsgwricwlaidd?
Pa mor dda y mae pob model yn datblygu dealltwriaeth ddofn o les, cynaliadwyedd, cydraddoldeb a newid yn yr hinsawdd?
A yw’r themâu neu’r cwestiynau mawr yn sicrhau dysgu cyfoethog a thrylwyr ar draws meysydd pwnc?
Sut mae sicrhau bod dilyniant yn cael ei ymgorffori yn y model cwricwlwm?
Sut ydym yn sicrhau bod dulliau amlddisgyblaethol neu ryngddisgyblaethol yn darparu dysgu cyfoethog a thrylwyr ym mhob un o’r pynciau cysylltiedig?
A fyddem yn mapio’r model hwn ar draws y cwricwlwm cyfan?
Sut allai’r model hwn effeithio ar ddilyniant dysgu o fewn meysydd?
Sut allwn ni ddarparu’r amser a’r lle i athrawon ymgymryd â chynllunio cydweithredol?
Sut ydyn ni’n cefnogi ein hathrawon i drosglwyddo o’r hen gwricwlwm i’r ‘Cwricwlwm i Gymru’ newydd?
A yw model penodol yn fwy addas i rai meysydd dysgu yn fwy nag eraill? Pam?
Sut mae pob dull yn edrych ar draws y continwwm 3-16?
Sut allem drefnu’r dysgu i sicrhau na chollir cysyniadau allweddol?
Sut ydym yn osgoi rhoi sylw arwynebol i rai cysyniadau allweddol?