Dylunio Cwricwlwm Uwchradd
Dylunio Cwricwlwm Uwchradd
Cwricwlwm ysgol yw popeth y mae dysgwr yn ei brofi er mwyn cyflawni’r pedwar diben. Nid dim ond yr hyn yr ydym yn ei addysgu, ond sut yr ydym yn ei addysgu ac yn hollbwysig, pam yr ydym yn ei addysgu.
Beth yw Dylunio Cwricwlwm? Mae dylunio cwricwlwm yn broses. Mae’r egwyddorion a’r ystyriaethau pwysig a ddylai lywio’r broses honno’n cynnwys datblygu:
gweledigaeth ar gyfer y cwricwlwm mewn ysgol
strwythur cwricwlwm er mwyn gwireddu’r weledigaeth honno.
Mae dylunio cwricwlwm yn cymryd amser, rhaid rhoi sylw gofalus i drefniadaeth a dilyniannu.
Mary Myatt
Er nad oes unrhyw gynllun penodedig na 'ffordd orau' o’i wneud, un ffordd o’i wneud yn anghywir yw trwy ddylunio cwricwlwm sy’n gyfres o wybodaeth anghysylltiedig.
Lucy Crehan
Mae cwricwlwm cydlynol yn un lle mae profiadau dysgu, gwybodaeth a sgiliau yn cael eu rhoi mewn trefn a’u plethu gyda’i gilydd fel bod myfyrwyr yn ffurfio dealltwriaeth ddofn o fewn a rhwng y pynciau amrywiol a’r parthau gwybodaeth.
Tom Sherrington
Cyfle i wneud gwahaniaeth...
Os ydym am wireddu’r cyfleoedd a gynigir gan y rhaglen ddiwygio, rhaid i ni feddwl yn ddwys am ddiben a thynnu sylw at faterion sy’n ymwneud â chynllunio’r cwricwlwm, addysgeg ac asesu y mae’n rhaid mynd i’r afael â hwy.
Bydd hyn yn gofyn am broses o gydweithio, archwilio a dysgu a all adeiladu sylfeini cadarn ar gyfer newid gwirioneddol i bob person ifanc ym mhob ysgol a phob dosbarth ar draws Cymru.
Wrth lywio drwy'r daith hon, mae angen i ni atgoffa ein hunain o'r nod terfynol a'n cyrchfan; bod dysgwyr yn cael gwell darpariaeth sydd yn y pen draw yn arwain at safonau gwell.
Graham Donaldson