Gweledigaeth
Datblygu Gweledigaeth Gytun
Nid syniad yw gweledigaeth ar y cyd ond grym yng nghalonnau pobl – ateb i ‘Beth ydym eisiau ei greu?’ (Peter Senge)
Datganiad syml yw gweledigaeth y mae’r holl randdeiliaid yn ei gario gyda nhw drwy’r holl brosesau meddwl dros amser ac mae’n gweithredu fel egwyddor arweiniol.
Gweledigaeth gytun er mwyn rhoi'r Cwricwlwm i Gymru ar waith
Gweledigaeth sy’n defnyddio’r pedwar diben fel y man cychwyn a’r dyhead ar gyfer dyluniad cwricwlwm yr ysgol.
Gweledigaeth sy’n cwmpasu pawb yng nghymuned yr ysgol fel dysgwyr; yn cynnwys disgyblion, athrawon, arweinwyr, llywodraethwyr a rhieni/gofalwyr.
Mae’r Cwricwlwm i Gymru yn rhoi pedwar diben eglur i ni ar gyfer addysg. Felly, mae gennym yn awr y cyfle i ofyn pam? Beth yw anghenion pob dysgwr ar gyfer ffynnu a chyfrannu at 21ain Ganrif sy’n newid yn gyson a datblygu’n dechnolegol? Ni fydd y weledigaeth bresennol o angenrheidrwydd yn cefnogi’r cwricwlwm newydd. Felly, pa wybodaeth, sgiliau a phrofiadau all ysgolion eu cynnig i ganiatáu dysgwyr ddatblygu’r pedwar diben? Mae cyfnod Covid wedi dod â heriau sydd wedi newid y ffordd mae ysgolion yn gweithio a gweithredu. Beth all ysgolion ddysgu o’r profiad hwn a pha gyfleoedd allwn ni eu datblygu ac adeiladu arnynt er mwyn creu gwytnwch newydd, mwy o annibyniaeth disgyblion, gwell creadigrwydd a dysgu digidol gwell?
Ar lefel weithredol, mae gofyn am newid diwylliannol trwy lunio ailddiffiniad cyffredin o lwyddiant. Dylai hyn gynnwys casgliad o ddangosyddion sy’n fwy eang a mwy ansoddol, wedi eu perchnogi gan bawb yn cynnwys y gymuned ehangach. Dros amser, bydd y dangosyddion hyn yn newid a datblygu wrth i ysgolion ennill gwell dealltwriaeth. Mae angen i’r gwaith o ddylunio gweledigaeth newydd, sy’n cynnwys cwricwlwm lleol o fframwaith cenedlaethol, ganiatáu ac ymgorffori penderfyniadau cydweithredol lleol. Mae angen i’r weledigaeth newydd adlewyrchu cwricwlwm fel proses sy’n brofiad ac a fydd yn esblygu yn hytrach nag fel cynnyrch terfynol.
Y Pedwar Diben
Dylai’r pedwar diben fod yn ddyhead ac yn nod terfynol ar gyfer y cwricwlwm a gynllunir gan ysgolion. Yn y pen draw, nod cwricwlwm ysgol yw cefnogi ei dysgwyr i ddod yn :
DATBLYGU GWELEDIGAETH A RHESYMEG
AR GYFER EICH CWRICWLWM
Cynllunio a chytuno ar resymeg ar gyfer eich cwricwlwm fydd un o'r agweddau pwysicaf i unrhyw ysgol.
Bydd yn drafodaeth flynyddol a fydd yn arwain at addasiadau a datblygiadau cwricwlaidd ar sail newidiadau o fewn eich cymuned.
Mae'n bwysig fod y rhesymeg wedi'i selio ar gyd-destun lleol yr ysgol a'i chymuned.
Adnabod ffactorau unigryw
eich ysgol chi
Dyma esiampl o ffactorau y gellid eu trafod gyda'ch rhanddeiliaid. Gellid ei addasu yn ol y gofyn. Wrth boblogi’r tabl uchod, byddwch yn adnabod y ffactorau allweddol sy’n gwneud eich ysgol chi yn unigryw. Byddwch yn trafod ac yn cytuno ar eich gwerthoedd ac yn ystyried beth sydd angen i chi ei wneud (eich ymddygiad) i sicrhau gwireddu hyn.
Wedi i chi adnabod a thrafod eich ffactorau unigryw, eich gwerthoedd a’ch ymddygiad gyda’ch rhanddeiliaid, byddwch yn barod i ystyried sut y mae’r rhain yn plethu gyda’r Pedwar Diben i lunio eich gweledigaeth.
Dolenni defnyddiol:
Datblygu gweledigaeth ar gyfer dylunio cwricwlwm:
Clipiau cryno ar gyfer athrawon a chymorthyddion:
http://cefnogaeth.gwegogledd.cymru/adnoddau-gwe/cwricwlwm-i-gymru/clipiau-cryno/