Addysgeg

Mae addysgeg yn cwmpasu mwy na’r ‘addysgu’ sy’n digwydd drwy ddulliau yn yr ystafell ddosbarth yn unig. Mae’n ymwneud â dethol y dulliau hynny’n ystyriol yng nghyd-destun dibenion y cwricwlwm ac anghenion a chyfnod datblygiadol y plant a phobl ifanc. Mae’n galw am gyfuno gwybodaeth a sgiliau damcaniaethol ac ymarferol â barn fanwl ynghylch yr hyn sydd ei angen i hybu dysgu effeithiol mewn cyd-destunau penodol. Mae wrth wraidd yr hyn sy’n gwneud athro neu athrawes ragorol.(‘Dyfodol Llwyddiannus’ tud.63)


Mae addysgeg wrth wraidd cwricwlwm. Wrth gynllunio eu cwricwlwm, dylai ysgolion ystyried y dulliau addysgegol y bydd angen iddyn nhw eu defnyddio i gefnogi dysgwyr i wireddu'r pedwar diben. Dylai ysgolion geisio datblygu gweledigaeth gref o ddysgu ac addysgu sy'n ystyried 'pam' a 'sut' yn ogystal â 'beth'. Bydd y weledigaeth hon yn cydnabod rôl hanfodol yr amgylchedd dysgu wrth gefnogi dysgu effeithiol.


Dylai ysgolion sicrhau bod gan ymarferwyr ddealltwriaeth ddofn a manwl o'r egwyddorion addysgegol a'r ymchwil sy'n sail iddyn nhw. Mae addysgeg effeithiol yn dibynnu ar ddealltwriaeth fanwl o ddatblygiad plant a phobl ifanc. Mae'n cynnwys archwilio a myfyrio ar y strategaethau addysgu a fydd yn cefnogi'r dysgu orau mewn cyd-destun penodol, ac ymchwilio i effaith hyn ar ddysgwyr.

Cwestiynau allweddol i ysgolion a lleoliadau eu hystyried

  1. Sut y byddwn yn creu diwylliant sy'n annog ymarferwyr i feithrin dealltwriaeth ddofn o addysgeg a'r sgil i ddewis y dull gweithredu addysgegol mwyaf priodol?

  2. Sut y byddwn yn sicrhau bod addysgeg y Cyfnod Sylfaen yn cael ei datblygu a’i ymestyn?

  3. Sut y bydd ein gweledigaeth ar gyfer dysgu yn adlewyrchu'r deuddeg egwyddor addysgeg?

  4. Pa amgylchedd dysgu y mae angen i ni ei greu i gefnogi ein gweledigaeth ddysgu'n llawn?

Dysgu Proffesiynol a Chydweithio

Dylai ysgolion sicrhau bod gan ymarferwyr ddealltwriaeth ddofn a thrylwyr o’r egwyddorion addysgegol a’r ymchwil y maent yn seiliedig arnynt. Mae addysgeg effeithiol yn dibynnu ar ddealltwriaeth fanwl o ddatblygiad plant a phobl ifanc ac mae'n cynnwys archwilio a myfyrio ar ba strategaethau addysgu fydd yn cefnogi dysgu orau mewn cyd-destun penodol, ac ymholi i mewn i effaith hyn ar ddysgwyr.