Asesu

Asesu

Mae asesu yn rhan annatod o'r broses ddysgu, gydag ymarferwyr yn gweithio gyda dysgwyr er mwyn helpu i adnabod eu cryfderau, meysydd iddyn nhw eu datblygu a'u camau dysgu nesaf. Mae 3 prif ddiben i asesu:

  • Cefnogi dysgwyr unigol yn barhaus o ddydd i ddydd

  • Pennu cynnydd dysgwyr unigol dros amser, llunio darlun ohono, a myfyrio arno

  • Deall cynnydd grwpiau er mwyn myfyrio ar arferion


Dylai asesiad ystyried:

  • lle mae dysgwyr o ran eu dysgu

  • lle mae angen iddynt fynd o ran eu dysgu

  • beth sydd angen ei wneud er mwyn iddynt gyrraedd yno, gan ystyried unrhyw rwystrau rhag dysgu


Ni fydd asesu yn ddigwyddiad unigol. Bydd yn barhaus ac yn rhoi darlun cyfannol o gyflawniadau dysgwyr ar hyd y continwwm 3-16. Bydd asesu yn llywio cynllunio ar gyfer y dyfodol er mwyn cefnogi cynnydd dysgwyr.


Mae partneriaeth ddysgu effeithiol gyda dysgwyr a rhieni yn bwysig.


Y dysgwyr yw prif berchnogion gwybodaeth asesu a dylent chwarae rhan allweddol yn eu proses o ddysgu. Mae asesu, cynllunio cwricwlwm ac addysgeg yn gyd-ddibynnol ac mae angen eu cynllunio ochr yn ochr â’i gilydd.


Newid...

Pam mae angen i ni newid?

  • Mae rhai prosesau asesu yn ddiangen ac nid ydynt yn cyd-fynd gydag egwyddorion Cwricwlwm i Gymru

  • Mae angen i asesu adlewyrchu’r newidiadau i’r weledigaeth, y cwricwlwm a’r addysgeg yn effeithiol.


Beth sydd angen i ni ei newid?

Mae angen i ni:

  • Gynyddu'r pwyslais ar asesu ffurfiannol effeithiol ac ar drafod ac asesu’r dysgu gyda dysgwyr.

  • Annog mwy o ddeialog broffesiynol rhwng yr holl staff o fewn ysgolion a rhwng ysgolion gyda ffocws ar: asesu er mwyn galluogi cynnydd disgyblion, sut i gynnal trafodaeth effeithiol am eu dysgu gyda dysgwyr a dulliau o gynllunio ac adolygu camau nesaf dysgwyr, a thrwy hynny ddyfnhau’r dysgu.

Sut ydym yn mynd ati i wneud y newidiadau hynny?

Mae angen i ni:

  • Gynnwys yr holl randdeiliaid wrth ddatblygu’r weledigaeth ar gyfer asesu a phwrpas y prosesau.

  • Gymryd amser i fyfyrio a chynllunio. Er enghraifft, y ffordd orau o ddefnyddio'r Datganiadau o’r hyn sy’n Bwysig, egwyddorion cynnydd a disgrifiadau dysgu i gynllunio prosesau asesu.

  • Ystyried yn ofalus y pwrpas/rheswm dros unrhyw asesu. Er enghraifft, a yw’n berthnasol? Pa ddefnydd a wneir o wybodaeth asesu?

PWY SYDD ANGEN BETH O ASESU?

Beth sydd ei angen ar ddysgwyr?

  • Adborth amserol am eu cynnydd presennol a chyfeiriad ar gyfer eu camau dysgu nesaf. Er enghraifft, ar ffurf adborth dyddiol gan oedolion, cyfoedion, hunan asesu yn y dosbarth a hefyd o asesiadau cyfnodol.

  • Dathlu ac atgyfnerthu llwyddiannau a chymhelliant ar gyfer dysgu pellach.

  • Perchnogaeth ar wybodaeth asesu a chwarae rhan ganolog mewn cynllunio ar gyfer cynnydd pellach:

    • cynyddu ehangder a dyfnder gwybodaeth;

    • dyfnhau’r ddealltwriaeth o’r syniadau a’r disgyblaethau o fewn meysydd;

    • coethni a soffistigeiddrwydd cynyddol wrth ddefnyddio a chymhwyso sgiliau;

    • creu cysylltiadau a throsglwyddo dysgu i gyd-destunau newydd;

    • cynyddu effeithiolrwydd fel dysgwr.


  • Dealltwriaeth dda o sut maen nhw'n dysgu ac yn datblygu fel dysgwyr hyderus, annibynnol.

  • Amgylchedd dysgu sy'n eu galluogi i asesu eu dysgu yn effeithiol, i drafod camgymeriadau neu gamdybiaethau yn hyderus ac i roi a derbyn adborth yn barchus.

Beth sydd ei angen ar ymarferwyr?

  • Gwybodaeth berthnasol, ymarferol, hygyrch y gellir ei defnyddio'n hyblyg i gynllunio ar gyfer dilyniant dysgwyr, yn ddyddiol yn y dosbarth ac o asesiadau cyfnodol.

  • Gwneud defnydd da o asesu ffurfiannol a sicrhau ymateb effeithiol i adborth

  • Gallu rhoi eu hamser a'u hegni i addysgu, a chydnabod bod cymryd amser i siarad â dysgwyr a gwrando arnynt, yn asesu gwerthfawr.

  • Gallu asesu’r dysgwr trwy ddefnyddio data mwy ansoddol, gan ddefnyddio dull mwy cyfannol o adolygu cynnydd a nodi camau nesaf. Dylid canolbwyntio ar les a metawybyddiaeth yn ogystal â chynnydd academaidd. Er enghraifft, ystyried gwaith dysgwyr, eu datblygiad fel dysgwyr a derbyn mewnbwn gan rieni / staff cymorth / asiantaethau allanol.

  • Yr amser i gymryd rhan mewn deialog broffesiynol effeithiol a rheolaidd ar gynnydd dysgwyr gyda chydweithwyr eraill ac arweinwyr yr ysgol a, phan fo’n berthnasol, rhwng ysgolion. Er enghraifft, ymgysylltu â chymheiriaid, deialog broffesiynol, cyfarfodydd trosglwyddo.

Beth sydd ei angen ar arweinwyr ysgolion?

  • Prosesau syml, effeithiol ar gyfer nodi cynnydd dysgwyr a chael darlun clir o addysgu a dysgu. Dylent wedyn ddefnyddio’r wybodaeth hon i gynllunio cyfeiriad strategol effeithiol ar gyfer yr ysgol a rhannu’r wybodaeth yn briodol â gwahanol randdeiliaid a chynulleidfaoedd.

  • Meithrin amgylchedd sy’n seiliedig ar gyd-ymddiriedaeth a pharch, yn hytrach nag ar gydymffurfio ac adrodd.

  • Sicrhau dysgu proffesiynol effeithiol i'r holl staff er mwyn iddynt ddatblygu arferion asesu ffurfiannol cryf.

  • Trafodaethau rheolaidd a gwybodus ar asesu rhwng arweinwyr canol, uwch arweinwyr a llywodraethwyr, er mwyn cefnogi cynllunio strategol ar gyfer datblygu’r ysgol.

Beth sydd ei angen ar rieni/gofalwyr?

  • Derbyn gwybodaeth a sicrwydd am gynnydd eu plentyn/plant a dathlu ei lwyddiannau academaidd a’i lwyddiannau fel person ifanc.

  • Bod yn rhan o gyfathrebu amrywiol a rheolaidd gyda'r ysgol i rannu gwybodaeth am gynnydd eu plentyn/plant a gwybod sut orau i gefnogi dysgu pellach a chynnydd.

Darllen pellach: