Gwybodaeth ac Ymchwil Pellach

National Centre for Excellence in the Teaching of Mathematics

Tystiolaeth, enghreifftion ac eglurebau i egluro’r arddull ‘Meistrolaeth’, gan gynnwys deunyddiau. Datblygiad o wybodaeth bynciol. 

(Cyfrwng Saesneg yn unig) 

Ffês: CS-CA3

Mynediad am ddim i rai adnoddau / hyfforddiant / astudiaethau achos (Tanysgrifiad yn angenrheidiol ar gyfer Adnoddau Premiwm)

Problem y Dydd am ddim + chasgliad wedi’u archifo 

(Cyfrwng Saesneg yn unig)

Ffês: CS-CA4

Arf asesu arloesol (am ddim) sy’n darparu mewnwelediadau manwl i ddealltwriaeth disgyblion mewn ffracsiwn o’r amser. O ganlyniad, mae hyn yn lleihau eich baich gwaith yn ogystal â gwella hyder a pherfformiad disgyblion.

 Fideo sy’n cynnig esboniad manwl o sut gall athrawon ddefnyddio gwefan www.diagnosticquestions.com yn effeithiol o fewn eu gwersi er mwyn ymateb i ddisgyblion yn y dosbarth, ond hefyd yn dangos swmp y data sy’n cael ei gadw ar y wefan er mwyn galluogi athrawon i gynllunio ar gyfer y camsyniadau. 

(Cyfrwng Saesneg yn unig)

Ffês: CA2-CA4

Angen cofrestru (am ddim) i lawrlwytho’r adnoddau sydd yn rhad ac am ddim : blogiau, ymchwil (problemau geiriol, rhesymu, rhuglder, modelu bar…)

(Tanysgrifiad yn angenrheidiol ar gyfer Adnoddau Premiwm)

(Cyfrwng Saesneg yn unig)

Ffês: CS-CA4

Cyfres o gyfweliadau 1 awr sy’n ffocysu ar adnoddau anhygoel ar-lein sydd ar gael am ddim i athrawon Mathemateg ymhob man.

Yn cael eu cyflwyno a’u egluro gan y crewyr, a pham, pryd a sut i’w defnyddio!

(Cyfrwng Saesneg yn unig)

Ffês: CA2-CA5

Angen cofrestru (am ddim) i gael mynediad i hyfforddiant (rhai am ddim)

Y bwriad yw i “adael athrawon gyda phethau y gallant ddefnyddio yn y dosbarth yfory, ynghŷd â strategaethau ar arddulliau am oes” 

(Cyfrwng Saesneg yn unig)

Ffês: CA2-CA4

Trinolion ar-lein, gan gynnwys :

Sgwâr 100, Dîs, Darnau arian, Cardiau / Cownteri Gwerth Lle, Ffon Gyfri, Blociau Dienes, Rhodenni Cuisenaire, Modelu Bar, Datryswr Hafaliad, Teils Algebra 

Ffês: CA2-CA5

Mae DrFrostMaths yn darparu llwyfan dysgu ar-lein, adnoddau addysgu, fideos a banc o gestiynau arholiad – i gyd am ddim. 

(Cyfrwng Saesneg yn unig)

Ffês: CA2-CA5

Adnoddau ar gyfer astudio mathemateg o flwyddyn 7 i flwyddyn 13. Cliciwch "Mewngofnodi fel ymwelydd" i gael mynediad i unrhyw gwrs. Ar y safle cewch lawrlwytho pecynnau gwaith, wylio fideos adolygu, ceisio cwisiau adolygu neu geisio hen bapurau arholiad. 

Ffês: CA2-CA5

Webinar ar ddefnyddio ‘Teils Algebra’ – gall rhain trawsnewid eich adddysgu! Maent yn hynod o effeithiol ac o gymorth i disgyblion oresgyn camsyniadau algebra yn ogystal â chefnogi eu dealltwriaeth gysyniadol.

Ffês: CA2-CA5