Trwy mewngofnodi gyda eich enw defnyddiwr Hwb gallwch gael mynediad i amrywaieth o gyrsiau er enghraifft cyrsiau ar Teams , Flipgrid, Minecraft a.y.b. Trwy gwblhau y cyrsiau rydych yn derbyn bathodyn digidol a phwyntiau sydd yn medru cael eu gweld yn eich proffil.
Hyd: Amrywio
Cynulleidfa darged: Arweinwyr digidol, addas i unrhyw aelod o staff
Ffês - Bydd yr achrediad yma yn fanteisiol i unrhyw aelod o staff.
Eto gallwch mewngofnodi gan ddefnyddio eich enw defnyddiwr Hwb a chael mynediad i amrywiaeth o gyrsiau am Adobe Spark a rhagor o offer Adobe Creative Cloud. Wrth weithio drwy y cyrsiau rydych yn medru derbyn bathodynnau digidol Adobe Creative Educator.
Hyd: Amrywio
Cynulleidfa darged: Arweinwyr digidol, addas i unrhyw aelod o staff
Ffês - Bydd yr achrediad yma yn fanteisiol i unrhyw aelod o staff.
Wrth fewngofnodi gyda eich enw defnyddiwr Hwb byddwch yn cael mynediad i gyrsiau am offer Google sydd wedi eu gwahaniaethu ar lefelau gwahanol, o ddysgu sgiliau sylfaenol yn y cwrs 'Fundamentals' i ddatblygu eich sgiliau yn bellach yn y cwrs 'Advanced'.
Hyd: Amrywio
Cynulleidfa darged: Arweinwyr digidol, addas i unrhyw aelod o staff
Ffês - Bydd yr achrediad yma yn fanteisiol i unrhyw aelod o staff.
Mae 'Apple Teacher' yn raglen dysgu proffesiynol sydd am ddim a mae wedi 'i gynllunio i gefnogi addysgwyr sy'n defnyddio offer Apple ar gyfer dysgu ac addysgu.
Hyd: Amrywio
Cynulleidfa darged: Arweinwyr digidol, addas i unrhyw aelod o staff
Ffês - Bydd yr achrediad yma yn fanteisiol i unrhyw aelod o staff.
Mae yna dri cwrs ar gael i'w cwblhau. Yn y cwrs 'Master the Screencast' byddwch yn dysgu sgiliau sylfaenol defnyddio Screencastify. Mae'r hyfforddiant 'Skilled Submitter' yn adeiladu ar beth a ddysgwyd yn yr hyfforddiant cyntaf a dangos sut allwch ddefnyddio Screencastify i glywed wrth ddisgyblion , cydweithwyr â'r gymuned ysgol ehangach. Mae'r hyfforddiant 'Genius' yn dangos sut mae plethu recordiad Screencastify gyda apiau Google wrth baratoi a chynnal gwers.
Hyd: Amrywio
Cynulleidfa darged: Arweinwyr digidol, addas i unrhyw aelod o staff
Ffês - Bydd yr achrediad yma yn fanteisiol i unrhyw aelod o staff.