Cyd-destunau lleol, cenedlaethol a rhyngwladol

Mae'r cyd-destunau lleol, cenedlaethol a rhyngwladol yn darparu safbwyntiau allweddol i ddysgwyr ac maen nhw o bwys penodol o ran cefnogi dysgwyr i gyflawni'r pedwar diben. Maen nhw’n helpu dysgwyr i wneud synnwyr o'r sgiliau a'r wybodaeth y maen nhw’n eu meithrin drwy greu cysylltiadau ag amgylcheddau, profiadau a digwyddiadau a all fod yn fwy cyfarwydd iddyn nhw. Maen nhw hefyd yn cyflwyno dysgwyr i gyd-destunau llai cyfarwydd, gan ehangu eu gorwelion a chan ymgysylltu â safbwyntiau sy'n wahanol i'w rhai nhw a gwerthfawrogi heriau a materion ehangach. Mae'r cyd-destunau hyn hefyd yn eu helpu i wneud synnwyr o'u perthynas â'u cymunedau, eu hunaniaeth genedlaethol a'r byd ehangach.