Mae amrywiaeth yn cyfeirio at adnabod a dathlu natur amrywiol grwpiau cymdeithasol a chymunedau a sicrhau bod y cwricwlwm yn adlewyrchu'r amrywiaeth honno a'i fod yn gallu ymateb i brofiadau'r grwpiau a'r cymunedau hynny. Yn ei hanfod, mae'n golygu bod yn ymwybodol o nodweddion pobl eraill a'u trin â thrugaredd, empathi, dealltwriaeth a thegwch, er gwaethaf y nodweddion hynny. Wrth i ddysgwyr wneud cynnydd, dylen nhw ddod yn gynyddol ymwybodol o'r ystod o nodweddion penodol a all ddiffinio ein hunaniaeth, gan gynnwys rhyw, rhywedd, hil, crefydd, oedran, anabledd a rhywioldeb. 

Beth yw DARPL?

Mae DARPL (Dysgu Proffesiynol Amrywiaeth a Gwrth-Hiliol) yn ganolfan dysgu ac adnoddau i'r rhai sy'n gweithio ym myd addysg a gofal plant i ddatblygu dealltwriaeth a datblygiad o ymarfer gwrth-hiliol. Ein gweledigaeth yw sicrhau bod y rhai sy'n gweithio o fewn addysg, gofal plant a chwarae yn datblygu'r offer ac yn cynnal arferion gwrth-hiliol sy'n cefnogi'r nod o fod yn Gymru wrth-hiliol erbyn 2030.


Toolkit for DARPL Stakeholders CYM.docx