Mae addysg cydberthynas a rhywioldeb yn ofyniad statudol yn fframwaith y Cwricwlwm i Gymru ac yn fandadol i bob dysgwr rhwng 3 ac 16 oed. 

Mae addysg cydberthynas a rhywioldeb yn y cwricwlwm yn canolbwyntio ar dri llinyn cyffredinol: Cydberthnasau a hunaniaeth, Iechyd rhywiol a lles, Grymuso, diogelwch a pharch. Yn wahanol i’r MDaPh, nid oes yna camau cynnydd. Yn hytrach, mae yna dri chyfnod datblygu bras fel a ganlyn:

Cyfnod 1: o 3 oed

Cyfnod 2: o 7 oed

Cyfnod 3: o 11 oed

Yn debyg i’r disgrifiadau dysgu, mae canllawiau CiG yn rhoi arweiniad ar gyfer cynnydd pob cyfnod o fewn pob llinyn bydd yn gallu lliwio eich cynlluniau. Gweler yr adnodd yma.

Mae‘r Padlet ACaRh yma yn rhoi arweiniad pellach i chi hefyd.