Parhau i ddatblygu Arweinyddiaeth Ddigidol 

Sesiwn 2

Chwefror 2024

Beth yw 'Disgwyliadau Cymhwysedd Digidol' 

eich ysgol chi?

Disgwyliadau Cymhwysedd Digidol

Mae rhai ysgolion yn defnyddio dull o osod 'isafswm o ddisgwyliad'. Golyga hyn eich bod chi'n troi'r gwaelodlin targed yn rhywbeth mesuradwy. I wneud hyn, byddai angen i chi osod disgwyliad ar gyfer pob llinyn o'r Fframwaith. 


Er enghraifft, efallai y byddwch yn gosod y disgwyliadau canlynol ar gyfer pob grŵp blwyddyn:


Cynlluniau Gwersi Dinasyddiaeth Bl 1 - 13


Gall y gwaelodlin darged hon yn cael ei haddasu’n rheolaidd i wneud yn siŵr eich bod wedi taro cydbwysedd rhwng bod yn uchelgeisiol a chyraeddadwy. Byddai angen i’r arweinydd digidol reoli gweithrediad hyn yn ofalus, gan sicrhau bod y gweithgareddau o safon uchel a lle defnyddir cymhwysedd digidol i wella’r dysgu a’r deilliannau yn draws-gwricwlaidd. Mae hefyd yn bwysig ystyried a chynllunio ar gyfer dilyniant, er mwyn caniatáu lefel ddigonol o her sy'n datblygu sgiliau dysgwyr yn gynyddol.


Cliciwch YMA i lawrlwytho'r ffeil yma

Er mwyn lawrlwytho ffeil fel Excel bydd rhaid mynd i File > Download > Microsoft Excel

Awgrymiadau


Dyma enghraifft o'r ddogfen mapio wedi'i lenwi

CC1

CC2

CC3

CC4

Neu, gall One Note fod yn opsiwn i fapio'r Fframwaith Cymhwysedd Digidol

gweler fan hyn sut fedrwch osod dolenni i enghreifftiau o'r gwaith yn y tabl

Awgrym?


Beth am ddefnyddio Google Sites i greu portffolio digidol er mwyn cadw cofnod / tystiolaeth o ddilyniant dysgu digidol.


Cynllunio ar gyfer cynnydd

Cliciwch ar y lluniau i agor y gwefannau.

Y model 'SAMR'

Mae amryw o fodelau y mae modd eu defnyddio i ddatblygu dysgu digidol effeithiol. Un enghraifft y gallai ysgolion ei hystyried yw’r model SAMR.  Cafodd y model ei greu yn wreiddiol gan Dr. Ruben Puentedura gyda’r bwriad o amlinellu  yr arferion gorau i ddefnyddio dysgu digidol yn y dosbarth. 

Enghreifftiau o ddefnyddio SAMR / AAAA

SAMR gyda thasgau gwahanol:

Tasg wreiddiol: Creu pamffled teithio gyda thoriadau o gylchgronau a thestun mewn llawysgrifen.

Amnewid

Disodli'r toriadau cylchgrawn a thestun trwy ychwanegu delweddau a thestun at raglen ddylunio fel Microsoft PowerPoint,  Adobe Express, sleidiau Google neu J2e5.

Adio

Creu cyflwyniad amlgyfrwng gan ddefnyddio e.e. Gwefan Adobe express, MS Sway, J2e5 ac ati i ymgorffori fideo, mewnosod dolenni ac ychwanegu mwy o ddyfnder i'r llyfryn digidol.

Addasu

Offer meddalwedd lluosog a ddefnyddir i adeiladu tudalen we amlgyfrwng e.e. Gofynnwch i'r dysgwyr greu hysbyseb fideo ar gyrchfan gwyliau a'i fewnosod o fewn tudalen y cyflwyniad. Creu map anodedig/rhyngweithiol o’r cyrchfannau a chreu gwahanol adrannau/tudalennau ar gyfer y cyflwyniad gan ddefnyddio e.e. Google sites /Adobe Express - webpage / sleidiau google wedi'u mewnosod gyda map anodedig ac ati

Ailddiffinio

Creu gwefan gydweithredol gyda thudalennau lluosog gan ddefnyddio e.e. Gwefannau Google gyda nifer o lwyfannau meddalwedd yn cael eu defnyddio i greu cynnwys y wefan a'i fewnforio / ei fewnosod i'r wefan.


Tasg wreiddiol: Dyluniwch eich cartref delfrydol mewn llyfr braslunio.

Amnewid

Amnewid y dasg llyfr braslunio drwy ddefnyddio pecyn dylunio siapiau sylfaenol yn e.e. word, powerpoint, J2e5, Google docs ac ati

Adio

Defnyddiwch nodweddion ychwanegol o ddyluniad siâp sylfaenol e.e. eiconau, llinellau, delweddau, golygu delweddau i wella dyluniad siâp sylfaenol.

Addasu

Defnyddiwch becyn dylunio 3D penodol i greu model 3D o'ch cartref delfrydol gan ddefnyddio e.e. Tinkercad, Google sketch up ac ati

Ailddiffinio

Defnyddiwch Minecraft i greu dyluniad rhyngweithiol o'ch cartref delfrydol a chofnodwch daith gerdded yn egluro'r nodweddion amrywiol. Allforio ac mewnosod y fideo mewn pecyn meddalwedd golygu fideo e.e. Adobe express video, Adobe rush, imovie a rhannu gyda chynulleidfa e.e. dosbarth arall, rhieni, grŵp blwyddyn ac ati


Tasg wreiddiol: Creu rhestr o deganau i werthu yn eich siop teganau a chyfrif y costau (yn eich llyfrau)

Amnewid: 

Amnewid i deipio'r wybodaeth allan ar word  - Creu tabl a gosod y costau lawr yn erbyn bob eitem gyda chyfanswm.

Adio: 

Rhowch y rhestr o eitemau mewn taenlen e.e. Google sheets, Excel ar-lein, taenlen J2 Office a defnyddio'r nodwedd 'autosum' i gyfrifo costau

Addasu: 

Defnyddiwch fformiwlâu o fewn taenlen i gyfrifo e.e. cost eitemau, maint yr elw, yn ogystal ac addasu'r daenlen i gadw costau stoc o dan gyllideb benodol.

Ailddiffinio:

Ychwanegu at y daenlen flaenorol drwy gyflwyno dalennau eraill sy'n cyfrifo e.e. stoc a brynwyd / a werthwyd, cyfansymiau gwerthiant yr wythnos ac ati.

Hefyd, gellid creu ffurflen archebu ar-lein gan ddefnyddio MS Forms neu Google Forms ac efallai creu poster digidol i hysbysebu'r siop newydd.

Prosesau monitro, gwerthuso ac adolygu

Taflen cofnodi Sgiliau Traws 2024.docx




Y disgwyliad yw mai dim ond ychydig o linellau ymholi y byddwch yn eu dewis sy’n caniatáu i’ch gosodiadau, polisïau, gweithdrefnau, gweledigaeth a gwerthoedd digidol gryfhau a ddatblygu. Dylai gweithgareddau Monitro, Gwerthuso ac Adolygu fod yn strwythuredig, yn bwrpasol a’ch cefnogi i adolygu camau gweithredu tuag at eich gweledigaeth ddigidol.

Ar y dde ac isod mae llinellau ymholi enghreifftiol sy’n seiliedig ar y meysydd ffocws a ganlyn, gellid eu defnyddio i’ch cefnogi wrth i chi werthuso ac adolygu cymhwysedd digidol yn eich lleoliad.

Arweinyddiaeth

Diwylliant

Safonau

Systemau

Gwybodaeth

Addysgu

Cynllunio

Dulliau monitro, gwerthuso ac adolygu

Craffu'r dysgu

Beth?

Wrth graffu ar waith byddwch yn edrych dros waith dysgwyr dros gyfnod o amser. Gallwch ganolbwyntio ar drawstoriad o blant drwy'r ysgol neu ar ystod oedran arbennig. Mewn rhai achosion byddwch yn gwneud hyn ochr yn ochr â'r dysgwyr. Gall hyn fod yn fanteisiol er mwyn eich galluogi i gael mwy o wybodaeth am y tasgau dan sylw. Gallwch graffu ar waith mewn llyfrau a hefyd drwy gyfrwng digidol. Mae'n bwysig cofio fod angen y darlun cyflawn o gyflawniad y dysgwyr a gall hyn olygu eich bod angen mynediad i nifer o wahanol wasanaethau (e.e Google Classroom, Flipgrid, Adobe CC Express etc.)

Manteision?


Cwestiynau procio Llinyn1 Fframwaith CD.docx
Cwestiynau procio Llinyn2 Fframwaith CD.docx
Cwestiynau procio Llinyn3 Fframwaith CD.docx
Cwestiynau procio Llinyn4 Fframwaith CD.docx

Sgyrsiau cynnydd

Beth?

Byddwch yn cyfweld trawstoriad o ddysgwyr. Gall hyn fod ar draws ystod o oedrannau. Gallwch gyfweld pawb ar unwaith, ond gall hefyd fod yn effeithiol cyfweld nhw fesul blwyddyn / dosbarth. Wrth gyfweld bydd cyfle i chi drafod gwaith y dysgwyr gyda nhw, a byddwch yn gobeithio fod y dysgwyr yn gallu egluro'r hyn maent wedi ei gyflawni, a hynny drwy ddefnyddio terminoleg bynciol ac iaith dechnegol yn gywir. Byddwch yn gallu gweld hyder y dysgwyr wrth iddynt ddod o hyd i wahanol dasgau yn ogystal â gweld os oes cysondeb yn y ffordd mae eu gwaith yn cael ei rannu a'i storio. Gallwch drafod yr adborth y maent yn ei dderbyn a sut y mae hwn yn ei helpu i ddysgu ac i godi safon eu gwaith.

Manteision?


Sgwrs gynnydd Llinyn1 Fframwaith CD.docx
Sgwrs gynnydd Llinyn2 Fframwaith CD.docx
Sgwrs gynnydd Llinyn3 Fframwaith CD.docx
Sgwrs gynnydd Llinyn4 Fframwaith CD.docx

Taith Ddysgu

Beth?

Mewn taith ddysgu byddwch yn teithio drwy wahanol ddosbarthiadau er mwyn gweld yr addysgu a'r dysgu ar waith. Gallwch alw i mewn ac allan o'r dosbarthiadau er mwyn datblygu dealltwriaeth o'r gwersi sy'n cael eu cynnal ar y pryd. Byddwch yn sgwrsio gyda dysgwyr er mwyn cael darlun llawn o'r broses ddysgu yn ogystal â dysgu am eu barn nhw o'r gwaith a'u hyder wrth fynd ati i'w gwblhau. Gall taith ddysgu gael ei chynnal drwy'r ysgol gyfan, neu gall ganolbwyntio ar ystod oedran neu adrannau penodol. Mewn rhai achosion, mae'n effeithiol rhagrybuddio athrawon o'r maes sy'n cael ei adolygu cyn cynnal taith ddysgu er mwyn iddynt sicrhau fod y maes hwnnw ar waith yn ystod y cyfnod. Byddai hyn yn sicrhau eich bod yn gallu arsylwi mwy o ffactorau i gyfrannu at eich ymholiad ac yn eich helpu i ddod i farn ar yr hyn y byddwch yn ei arsylwi.

Manteision?


Cwestiynau procio Taith ddysgu Llinyn1 Fframwaith CD.docx
Cwestiynau procio Taith ddysgu Llinyn2 Fframwaith CD.docx
Cwestiynau procio Taith Ddysgu Llinyn3 Fframwaith CD.docx
Cwestiynau procio Taith ddysgu Llinyn4 Fframwaith CD.docx

Adolygu Cynlluniau

Beth?

Wrth adolygu cynlluniau byddwch yn edrych drwy holl gynlluniau'r ysgol sy'n cynnwys agweddau o ddysgu digidol. Fel arfer bydd hyn yn digwydd yn gymharol fuan yn y flwyddyn er mwyn sicrhau fod profiadau cymhwysedd digidol yn cael eu mapio. Mae mapio yn broses o edrych ymlaen dros gyfnod o amser er mwyn sicrhau fod amrywiaeth a chydbwysedd yn bodoli drwy'r maes. Rhaid sicrhau fod y profiadau sy'n cael eu cynllunio o safon uchel ac yn datblygu pob agwedd o gymhwysedd digidol a hynny ar draws yr holl gwricwlwm.

Manteision?


Awdit Staff

Beth?

Fedrwch rhannu awdit sy'n mesur sgiliau digidol staff, a'i hyder i addysgu sgiliau a chynnig profiadau gan sicrhau lefel briodol o her.

Dyma dolenni i dempled holiaduron fedrwch chi addasu a rhannu. 

Gallwch ei ddefnyddio yn y cam hwn i adnabod y waelodlin, a'i ailadrodd ymhen amser er mwyn mesur effaith eich gweithredu.  

Ar gyfer y ddolen gyntaf bydd angen i chi glicio ac yna dewis yr opsiwn i ddyblygu. I gwblhau yr holiadur yn y Gymraeg rhaid mynd i'r opsiynau iaith ar rhan uchaf y sgrîn a dewis 'Cymraeg'. 


Holiadur Staff (Microsoft Forms)

Holiadur Staff (Google Forms) (Cymraeg) 


Unrhyw fater arall