Parhau i ddatblygu Arweinyddiaeth Ddigidol 

Sesiwn 1

Hydref 2023

1.

Creu Gweledigaeth Ddigidol

Beth mae gweledigaeth yn edrych fel? Pa fath o ddogfen yw hon?

Yw hwn yn baragraff, neu'n ddogfen gyda mwy o fanylder?

Oes angen gweledigaeth ar gyfer y 3 sgil trawsgwricwlaidd neu dim ond ar gyfer Cymhwysedd Digidol?

Fedrai cyfuno’r 3 sgil trawsgwricwlaidd mewn i un weledigaeth?


Pam bod angen gweledigaeth?

Y Sut a'r Beth?

Isod fe welwch chi ystyriaethau pellach ac enghreifftiau o’r galluogwyr allweddol hynny sy’n mynd i ganiatau i’r agwedd dan sylw weithredu

Maent wedi’i rhannu yn bedwar maes i gyd-fynd â strwythur y DDPD. 

Arweinyddiaeth

Cwestiynau i’w hystyried:


Galluogwyr allweddol

Strwythur arweinyddiaeth - dealltwriaeth glir o rolau a chyfrifoldebau a sicrhau cefnogaeth lawn gan yr uwch dim arwain


Atebolrwydd - disgwyliadau clir ar gyfer y profiadau dysgu sy'n cael eu darparu


Cynllunio strategol - adolygiad o'r safonau a'r ddarpariaeth bresennol (360 Digi Cymru) a chynllun strategol clir i wella pob maes dros y tymor canolig i'r tymor hir


Technoleg Addysg

Cwestiynau i’w hystyried:


Galluogwyr allweddol

Diogelwch a diogelu data - sicrhau bod gan yr holl staff ddealltwriaeth gyfredol am ddiogelwch a rheolaeth o ddata a'u bod yn mynd ati i reoli'r risgiau yn briodol


Partner Cymorth TG - datblygu perthynas gryf a dealltwriaeth o rôl y naill a'r llall wrth ymgorffori'r weledigaeth


Llwyfannau dysgu - ystyried dull 'Hwb yn gyntaf' i sicrhau cyfleoedd dysgu cyfartal i bob dysgwr a sicrhau cydymffurfiad trwyddedu a diogelwch cywir unrhyw wasanaeth sydd y tu allan i Hwb.



Dysgu Proffesiynol ac Arloesi

Cwestiynau i’w hystyried:


Galluogwyr allweddol

Adnabod anghenion DP - Datblygu dealltwriaeth o anghenion dysgu proffesiynol yr holl staff


Strategaeth PL - Sicrhau bod dysgu proffesiynol yn rhan allweddol o strategaeth ddigidol yr ysgol a'i fod yn seiliedig ar anghenion y staff


Cydweithio - Creu cyfleoedd i ganiatáu i staff gydweithredu yn yr ysgol a thu hwnt

Cwricwlwm, Darpariaeth ac Addysgeg

Cwestiynau i’w hystyried:


Galluogwyr allweddol

Cynllunio - Mae cymhwysedd digidol yn rhan naturiol o gynllunio'r cwricwlwm ac mae pedwar diben Cwricwlwm i Gymru yn sail iddo ac nid yw'n cael ei ystyried yn ymarfer 'atodol' neu 'ticio bocs’.


Cyd-destun bywyd go iawn - Cyflwynir profiadau dysgu digidol mewn ystod o gyd-destunau cyffrous a phriodol lle gellir trosglwyddo'r dysgu rhwng meysydd dysgu a'r gwahanol gamau ar hyd y daith ddysgu


Addysgeg - Mae addysgu a dysgu o ansawdd uchel yn cael ei danategu gan egwyddorion addysgegol ac mae cyfleoedd i ddatblygu cymhwysedd digidol yn cael eu defnyddio'n effeithiol ac yn cael eu harwain yn annibynnol gan y dysgwyr

Gweler dau enghraifft Gweledigaeth Ddigidol islaw 

Gweledigaeth digidol Ysgol2.pdf
Gwelwdigaeth digidol Ysgol1.pdf

2.

360 Safe Cymru / 360 Digi Cymru

Sesiwn Ymwybyddiaeth (Mwy o fanylder)

3.

Polisi Diogelwch Ar-lein

Mae’r portffolio hwn o dempledi Polisi Diogelwch Ar-lein ar gyfer ysgolion neu leoliad addysg. Bwriad y templed yma yw i helpu arweinwyr lunio Polisi Diogelwch Ar-lein addas sy’n ystyried yr holl faterion presennol a pherthnasol, mewn cyd-destun ysgol gyfan, a'u cysylltu â pholisïau perthnasol eraill, megis polisïau diogelu, ymddygiad a gwrth-fwlio yr ysgol. 

Mae'r polisïau templed yn awgrymu datganiadau polisi a fyddai, ym marn Llywodraeth Cymru, yn hanfodol mewn unrhyw Bolisi Diogelwch Ar-lein ysgol, yn seiliedig ar arfer da. 

Rhaid teilwra'r Polisi ar gyfer eich ysgol a bydd y drafodaeth a'r ymgynghoriad sydd yn digwydd yn ystod ysgrifennu neu adolygu'r polisi yn rhan bwysig o'r broses. Bydd hyn yn helpu i sicrhau bod y polisi yn cael ei berchnogi a'i dderbyn gan gymuned gyfan yr ysgol.


4.

Prosesau monitro, gwerthuso ac adolygu

Y disgwyliad yw mai dim ond ychydig o linellau ymholi y byddwch yn eu dewis sy’n caniatáu i’ch gosodiadau, polisïau, gweithdrefnau, gweledigaeth a gwerthoedd digidol gryfhau a ddatblygu. Dylai gweithgareddau Monitro, Gwerthuso ac Adolygu fod yn strwythuredig, yn bwrpasol a’ch cefnogi i adolygu camau gweithredu tuag at eich gweledigaeth ddigidol.

Ar y dde ac isod mae llinellau ymholi enghreifftiol sy’n seiliedig ar y meysydd ffocws a ganlyn, gellid eu defnyddio i’ch cefnogi wrth i chi werthuso ac adolygu cymhwysedd digidol yn eich lleoliad.

Arweinyddiaeth

Diwylliant

Safonau

Systemau

Gwybodaeth

Addysgu

Cynllunio

Sut? 

Taith Ddysgu

Beth?

Mewn taith ddysgu byddwch yn teithio drwy wahanol ddosbarthiadau er mwyn gweld yr addysgu a'r dysgu ar waith. Gallwch alw i mewn ac allan o'r dosbarthiadau er mwyn datblygu dealltwriaeth o'r gwersi sy'n cael eu cynnal ar y pryd. Byddwch yn sgwrsio gyda dysgwyr er mwyn cael darlun llawn o'r broses ddysgu yn ogystal â dysgu am eu barn nhw o'r gwaith a'u hyder wrth fynd ati i'w gwblhau. Gall taith ddysgu gael ei chynnal drwy'r ysgol gyfan, neu gall ganolbwyntio ar ystod oedran neu adrannau penodol. Mewn rhai achosion, mae'n effeithiol rhagrybuddio athrawon o'r maes sy'n cael ei adolygu cyn cynnal taith ddysgu er mwyn iddynt sicrhau fod y maes hwnnw ar waith yn ystod y cyfnod. Byddai hyn yn sicrhau eich bod yn gallu arsylwi mwy o ffactorau i gyfrannu at eich ymholiad ac yn eich helpu i ddod i farn ar yr hyn y byddwch yn ei arsylwi.

Manteision?


Craffu ar waith

Beth?

Wrth graffu ar waith byddwch yn edrych dros waith dysgwyr dros gyfnod o amser. Gallwch ganolbwyntio ar drawstoriad o blant drwy'r ysgol neu ar ystod oedran arbennig. Mewn rhai achosion byddwch yn gwneud hyn ochr yn ochr â'r dysgwyr. Gall hyn fod yn fanteisiol er mwyn eich galluogi i gael mwy o wybodaeth am y tasgau dan sylw. Gallwch graffu ar waith mewn llyfrau a hefyd drwy gyfrwng digidol. Mae'n bwysig cofio fod angen y darlun cyflawn o gyflawniad y dysgwyr a gall hyn olygu eich bod angen mynediad i nifer o wahanol wasanaethau (e.e Google Classroom, Flipgrid, Adobe CC Express etc.)

Manteision?


Cyfweld dysgwyr

Beth?

Byddwch yn cyfweld trawstoriad o ddysgwyr. Gall hyn fod ar draws ystod o oedrannau. Gallwch gyfweld pawb ar unwaith, ond gall hefyd fod yn effeithiol cyfweld nhw fesul blwyddyn / dosbarth. Wrth gyfweld bydd cyfle i chi drafod gwaith y dysgwyr gyda nhw, a byddwch yn gobeithio fod y dysgwyr yn gallu egluro'r hyn maent wedi ei gyflawni, a hynny drwy ddefnyddio terminoleg bynciol ac iaith dechnegol yn gywir. Byddwch yn gallu gweld hyder y dysgwyr wrth iddynt ddod o hyd i wahanol dasgau yn ogystal â gweld os oes cysondeb yn y ffordd mae eu gwaith yn cael ei rannu a'i storio. Gallwch drafod yr adborth y maent yn ei dderbyn a sut y mae hwn yn ei helpu i ddysgu ac i godi safon eu gwaith.

Manteision?


Adolygu Cynlluniau

Beth?

Wrth adolygu cynlluniau byddwch yn edrych drwy holl gynlluniau'r ysgol sy'n cynnwys agweddau o ddysgu digidol. Fel arfer bydd hyn yn digwydd yn gymharol fuan yn y flwyddyn er mwyn sicrhau fod profiadau cymhwysedd digidol yn cael eu mapio. Mae mapio yn broses o edrych ymlaen dros gyfnod o amser er mwyn sicrhau fod amrywiaeth a chydbwysedd yn bodoli drwy'r maes. Rhaid sicrhau fod y profiadau sy'n cael eu cynllunio o safon uchel ac yn datblygu pob agwedd o gymhwysedd digidol a hynny ar draws yr holl gwricwlwm.

Manteision?


Beth? - Awdit Staff

Mae'n bosib casglu gwybodaeth wrth staff mewn sawl ffordd.


Fedrwch rhannu awdit sy'n mesur sgiliau digidol staff, a'i hyder i addysgu sgiliau a chynnig profiadau gan sicrhau lefel briodol o her.

Dyma dolenni i dempled holiaduron fedrwch chi addasu a rhannu. 

Gallwch ei ddefnyddio yn y cam hwn i adnabod y waelodlin, a'i ailadrodd ymhen amser er mwyn mesur effaith eich gweithredu.  

Ar gyfer y ddolen gyntaf bydd angen i chi glicio ac yna dewis yr opsiwn i ddyblygu. I gwblhau yr holiadur yn y Gymraeg rhaid mynd i'r opsiynau iaith ar rhan uchaf y sgrîn a dewis 'Cymraeg'. 


Holiadur Staff (Microsoft Forms)

Holiadur Staff (Google Forms) (Cymraeg) 

5.

Y model 'SAMR'

Mae amryw o fodelau y mae modd eu defnyddio i ddatblygu dysgu digidol effeithiol. Un enghraifft y gallai ysgolion ei hystyried yw’r model SAMR.  Cafodd y model ei greu yn wreiddiol gan Dr. Ruben Puentedura gyda’r bwriad o amlinellu  yr arferion gorau i ddefnyddio dysgu digidol yn y dosbarth. 

Datblygu dealltwriaeth gyffredin o'r Fframwaith a dilyninat mewn sgiliau digidol

6.

Beth yw 'Disgwyliadau Cymhwysedd Digidol' eich ysgol chi?

Disgwyliadau Cymhwysedd Digidol

Mae rhai ysgolion yn defnyddio dull o osod 'isafswm o ddisgwyliad'. Golyga hyn eich bod chi'n troi'r gwaelodlin targed yn rhywbeth mesuradwy. I wneud hyn, byddai angen i chi osod disgwyliad ar gyfer pob llinyn o'r Fframwaith. 


Er enghraifft, efallai y byddwch yn gosod y disgwyliadau canlynol ar gyfer pob grŵp blwyddyn:



Gall y gwaelodlin darged hon yn cael ei haddasu’n rheolaidd i wneud yn siŵr eich bod wedi taro cydbwysedd rhwng bod yn uchelgeisiol a chyraeddadwy. Byddai angen i’r arweinydd digidol reoli gweithrediad hyn yn ofalus, gan sicrhau bod y gweithgareddau o safon uchel a lle defnyddir cymhwysedd digidol i wella’r dysgu a’r deilliannau yn draws-gwricwlaidd. Mae hefyd yn bwysig ystyried a chynllunio ar gyfer dilyniant, er mwyn caniatáu lefel ddigonol o her sy'n datblygu sgiliau dysgwyr yn gynyddol.


7.

Monitro cysondeb, dilyniant a rhannu arfer ragorol

Gellid ystyried defnyddio Google Sites i greu portffolio digidol.


Neu, gall One Note fod yn opsiwn i greu portffolio digidol

Ffurflen monitro'r ddarpariaeth ar draws y cwricwlwm.

Awgrym

Yma, fedrwch chi rhannu'r ffeil Excel gyda holl athrawon yn eich tîm ysgol gan holi iddynt gwblhau er mwyn i chi gael trosolwg o'r ddarpariaeth bresennol.

Cliciwch YMA i lawrlwytho'r ffeil yma

Er mwyn lawrlwytho ffeil fel Excel bydd rhaid mynd i File > Download > Microsoft Excel

8.

Hyfforddiant

Seibr Ddiogelwch

Diogelwch ar-lein i Staff a Llywodraethwyr - Gosod fel aseiniad trwy Hwb

>

>

Sesiwn 2 - Sganiwch y cod QR neu llenwch y ffurflen i gyflwyno eich ymateb .