Sesiwn 1
Creu Gweledigaeth Ddigidol
![](https://www.google.com/images/icons/product/drive-32.png)
Beth yw gweledigaeth?
Eich gweledigaeth yw'r asgwrn cefn sy'n sail i strategaeth yr ysgol. Bydd y weledigaeth yn cyfuno'r amcanion â'r gwerthoedd y bydd yr ysgol yn ceisio eu cyflawni dros y tymor hir. Bydd eich gweledigaeth yn creu cyfeiriad clir ac ymdeimlad o bwrpas wrth i chi ddechrau adeiladu momentwm.
Ffurfio gweledigaeth - Ystyriaethau
Isod fe welwch chi ystyriaethau pellach ac enghreifftiau o’r galluogwyr allweddol hynny sy’n mynd i ganiatau i’r agwedd dan sylw weithredu.
Bydd y rhain yn ddefnyddiol wrth i chi gynnal trafodaethau gyda'ch rhanddeiliaid. Maent wedi’i rhannu yn bedwar maes i gyd-fynd â strwythur y DDPD.
Arweinyddiaeth
Cwestiynau i’w hystyried:
Sut bydd eich strwythur ar gyfer arweinyddiaeth ddigidol yn gyrru safonau dysgu digidol?
A oes dealltwriaeth o rolau a chyfrifoldebau?
A oes / a fydd gwaelodlin o ddisgwyliad ac a yw'r holl staff yn ymwybodol o hyn?
Sut fydd yr holl randdeiliaid yn cymryd rhan yn natblygiad y maes dysgu digidol?
Sut y bydd y cylch adolygu a gwerthuso yn bwydo cynlluniau ar gyfer gwella?
Sut y bydd uwch arweinyddiaeth yr ysgol yn cefnogi datblygiadau?
A oes unrhyw agweddau di-amod yr ydych am i bob aelod o staff eu hymgorffori yn yr addysgu?
Sut y bydd datblygiadau dysgu digidol yn cael eu cynllunio a'u hadolygu?
Sut y byddwn yn sicrhau bod pawb yn deall eu rôl wrth weithredu ein gweledigaeth?
Pwy sy'n gyfrifol am ffurfio a monitro strategaeth dysgu digidol yr ysgol?
Beth yw amcanion allweddol y strategaeth dysgu digidol?
Galluogwyr allweddol
Strwythur arweinyddiaeth - dealltwriaeth glir o rolau a chyfrifoldebau a sicrhau cefnogaeth lawn gan yr uwch dim arwain
Atebolrwydd - disgwyliadau clir ar gyfer y profiadau dysgu sy'n cael eu darparu
Cynllunio strategol - adolygiad o'r safonau a'r ddarpariaeth bresennol (360 Digi Cymru) a chynllun strategol clir i wella pob maes dros y tymor canolig i'r tymor hir
Technoleg Addysg
Cwestiynau i’w hystyried:
Sut ydyn ni'n cyfathrebu'n effeithiol â'n partneriaid cymorth TG?
Sut allwn ni wneud ein partneriaid cymorth TG yn ymwybodol o'n gweledigaeth ar gyfer dysgu digidol fel y gallant ein cynorthwyo i gyflawni ein amcanion?
Beth allwn ei wneud i gryfhau ein dealltwriaeth o ddiogelu data a diogelwch digidol?
Sut allwn ni sicrhau bod ein holl benderfyniadau ynghylch datblygu technoleg addysg yn cael eu llywio gan ein gweledigaeth?
Rôl pwy fydd cynllunio datblygiadau seilwaith yn strategol?
Sut allwn ni sicrhau bod cynllun ar waith i adnewyddu offer hŷn?
Pa lwyfannau dysgu y byddwn yn eu defnyddio?
Pwy fydd yn goruchwylio'r trwyddedu ac yn sicrhau diogelwch?
Galluogwyr allweddol
Diogelwch a diogelu data - sicrhau bod gan yr holl staff ddealltwriaeth gyfredol am ddiogelwch a rheolaeth o ddata a'u bod yn mynd ati i reoli'r risgiau yn briodol
Partner Cymorth TG - datblygu perthynas gryf a dealltwriaeth o rôl y naill a'r llall wrth ymgorffori'r weledigaeth
Llwyfannau dysgu - ystyried dull 'Hwb yn gyntaf' i sicrhau cyfleoedd dysgu cyfartal i bob dysgwr a sicrhau cydymffurfiad trwyddedu a diogelwch cywir unrhyw wasanaeth sydd y tu allan i Hwb.
Dysgu Proffesiynol ac Arloesi
Cwestiynau i’w hystyried:
Sut allwn ni gefnogi anghenion dysgu proffesiynol yr holl staff?
A allwn ni gydweithio ag ysgolion eraill i wneud y mwyaf o bosibiliadau dysgu proffesiynol?
Sut allwn ni gefnogi cydweithredu mewnol?
Sut allwn ni adnabod a rhannu arferion effeithiol?
Sut ydyn ni'n cynllunio dysgu proffesiynol i sicrhau bod lefel cymhwysedd staff yn caniatáu i ni ymgorffori ein gweledigaeth ar gyfer dysgu digidol yn llawn?
Pwy sy'n gyfrifol am drefnu a rheoli dysgu proffesiynol?
I ba raddau ydyn ni'n dathlu arloesedd?
Sut allwn ni rymuso staff i reoli eu datblygiad eu hunain?
Sut allwn ni ddatblygu diwylliant o arloesi lle mae staff yn mynd ati i chwilio am gyfleoedd newydd i ddatblygu addysgu a dysgu digidol?
Sut allwn ni sicrhau bod arferion newydd yn cael eu gwerthuso a'u lledaenu'n effeithiol?
Galluogwyr allweddol
Adnabod anghenion DP - Datblygu dealltwriaeth o anghenion dysgu proffesiynol yr holl staff
Strategaeth PL - Sicrhau bod dysgu proffesiynol yn rhan allweddol o strategaeth ddigidol yr ysgol a'i fod yn seiliedig ar anghenion y staff
Cydweithio - Creu cyfleoedd i ganiatáu i staff gydweithredu yn yr ysgol a thu hwnt
Cwricwlwm, Darpariaeth ac Addysgeg
Cwestiynau i’w hystyried:
I ba raddau y mae cymhwysedd digidol wedi'i ymgorffori ar draws y cwricwlwm ar hyn o bryd?
Sut allwn ni sicrhau bod cymhwysedd digidol wedi'i ymgorffori'n llawn ar draws y cwricwlwm?
Sut allwn ni sicrhau bod cymhwysedd digidol yn cael ei ddatblygu'n bwrpasol trwy'r ysgol gyfan?
A yw'r profiadau rydyn ni'n eu cynnig yn bwrpasol ac a ydyn nhw'n cael eu tanategu gan bedwar pwrpas Cwricwlwm Cymru?
A yw cymhwyso a datblygu cymhwysedd digidol yn rhan naturiol o gynllunio'r cwricwlwm yn hytrach na 'atodol'?
Beth sy'n bwysig i ni fel ysgol o ran darpariaeth?
A oes unrhyw ffactorau lleol a allai yrru / llywio ein darpariaeth a'n profiadau?
Galluogwyr allweddol
Cynllunio - Mae cymhwysedd digidol yn rhan naturiol o gynllunio'r cwricwlwm ac mae pedwar diben Cwricwlwm i Gymru yn sail iddo ac nid yw'n cael ei ystyried yn ymarfer 'atodol' neu 'ticio bocs’.
Cyd-destun bywyd go iawn - Cyflwynir profiadau dysgu digidol mewn ystod o gyd-destunau cyffrous a phriodol lle gellir trosglwyddo'r dysgu rhwng meysydd dysgu a'r gwahanol gamau ar hyd y daith ddysgu
Addysgeg - Mae addysgu a dysgu o ansawdd uchel yn cael ei danategu gan egwyddorion addysgegol ac mae cyfleoedd i ddatblygu cymhwysedd digidol yn cael eu defnyddio'n effeithiol ac yn cael eu harwain yn annibynnol gan y dysgwyr
Gweler dau enghraifft Gweledigaeth Ddigidol islaw
![](https://www.google.com/images/icons/product/drive-32.png)
![](https://www.google.com/images/icons/product/drive-32.png)
360 Safe Cymru
Sesiwn Ymwybyddiaeth (Mwy o fanylder)
Cylchred monitro, gwerthuso ac adolygu
Yn unol â’r Adnodd Cenedlaethol: Gwerthuso a Gwella dylai ysgolion ystyried yr agweddau yma wrth fonitro, gwerthuso ac adolygu dysgu digidol;
Dylai ysgolion hefyd ceisio cwmpasu’r egwyddorion a amlinellir yn yr Adnodd Cenedlaethol sy’n cynnwys:
ffocws ar gyflawni'r gorau i bob dysgwr
aliniad â gwaith yr holl sefydliadau/mentrau eraill
hyblygrwydd ac ymatebolrwydd i gyd-destun yr ysgol
cysylltiadau clir â dysgu proffesiynol
proses barhaus ac nid ‘ciplun’
cynaliadwyedd a hylaw
tryloywder a gonestrwydd.
Sut?
Taith Ddysgu
Beth?
Mewn taith ddysgu byddwch yn teithio drwy wahanol ddosbarthiadau er mwyn gweld yr addysgu a'r dysgu ar waith. Gallwch alw i mewn ac allan o'r dosbarthiadau er mwyn datblygu dealltwriaeth o'r gwersi sy'n cael eu cynnal ar y pryd. Byddwch yn sgwrsio gyda dysgwyr er mwyn cael darlun llawn o'r broses ddysgu yn ogystal â dysgu am eu barn nhw o'r gwaith a'u hyder wrth fynd ati i'w gwblhau. Gall taith ddysgu gael ei chynnal drwy'r ysgol gyfan, neu gall ganolbwyntio ar ystod oedran neu adrannau penodol. Mewn rhai achosion, mae'n effeithiol rhagrybuddio athrawon o'r maes sy'n cael ei adolygu cyn cynnal taith ddysgu er mwyn iddynt sicrhau fod y maes hwnnw ar waith yn ystod y cyfnod. Byddai hyn yn sicrhau eich bod yn gallu arsylwi mwy o ffactorau i gyfrannu at eich ymholiad ac yn eich helpu i ddod i farn ar yr hyn y byddwch yn ei arsylwi.
Manteision?
Cyfleoedd i adolygu a gwerthuso'r addysgu a'r dysgu
Digon o gyfleoedd i sgwrsio â dysgwyr
Cyfle i weld os yw lefel yr her yn cynnig dilyniaint ar draws yr ystod oedran dan sylw
Cyfleoedd i adnabod arferion effeithiol i'w rhannu
Cylfle i werthuso cysondeb
Cael blas o sut mae'r maes yn edrych ar draws yr ystod oedran / adrannau dan sylw
Craffu ar waith
Beth?
Wrth graffu ar waith byddwch yn edrych dros waith dysgwyr dros gyfnod o amser. Gallwch ganolbwyntio ar drawstoriad o blant drwy'r ysgol neu ar ystod oedran arbennig. Mewn rhai achosion byddwch yn gwneud hyn ochr yn ochr â'r dysgwyr. Gall hyn fod yn fanteisiol er mwyn eich galluogi i gael mwy o wybodaeth am y tasgau dan sylw. Gallwch graffu ar waith mewn llyfrau a hefyd drwy gyfrwng digidol. Mae'n bwysig cofio fod angen y darlun cyflawn o gyflawniad y dysgwyr a gall hyn olygu eich bod angen mynediad i nifer o wahanol wasanaethau (e.e Google Classroom, Flipgrid, Adobe CC Express etc.)
Manteision?
Cyfle i chi wirio nifer o agweddau: cysondeb, safonnau, addysgeg, addysgu
Cyfle i weld cyflawniad dysgwyr dros gyfnod mwy estynedig o amser
Cyfle i gymharu safonau a sicrhau dilyniant ar draws yr ysgol
Cyfle i weld ystod y profiadau
Cyfweld dysgwyr
Beth?
Byddwch yn cyfweld trawstoriad o ddysgwyr. Gall hyn fod ar draws ystod o oedrannau. Gallwch gyfweld pawb ar unwaith, ond gall hefyd fod yn effeithiol cyfweld nhw fesul blwyddyn / dosbarth. Wrth gyfweld bydd cyfle i chi drafod gwaith y dysgwyr gyda nhw, a byddwch yn gobeithio fod y dysgwyr yn gallu egluro'r hyn maent wedi ei gyflawni, a hynny drwy ddefnyddio terminoleg bynciol ac iaith dechnegol yn gywir. Byddwch yn gallu gweld hyder y dysgwyr wrth iddynt ddod o hyd i wahanol dasgau yn ogystal â gweld os oes cysondeb yn y ffordd mae eu gwaith yn cael ei rannu a'i storio. Gallwch drafod yr adborth y maent yn ei dderbyn a sut y mae hwn yn ei helpu i ddysgu ac i godi safon eu gwaith.
Manteision?
Cyfle uniongyrchol i sgwrsio gyda dysgwyr am y gwaith
Cyfle i ddysgu am farn y dysgwyr am y gwaith
Cyfle i drafod sut mae'r addysgu wedi arwain at gynnydd yn eu safonau
Cyfleoedd i drafod y sgiliau hyn mewn cyd-destun bywyd go iawn - e.e mewn pa sefyllfaoedd y gall y sgiliau hyn fod yn ddefnyddiol etc.
Cyfle i drafod materion diogelwch ar-lein gyda'r dysgwyr
Adolygu Cynlluniau
Beth?
Wrth adolygu cynlluniau byddwch yn edrych drwy holl gynlluniau'r ysgol sy'n cynnwys agweddau o ddysgu digidol. Fel arfer bydd hyn yn digwydd yn gymharol fuan yn y flwyddyn er mwyn sicrhau fod profiadau cymhwysedd digidol yn cael eu mapio. Mae mapio yn broses o edrych ymlaen dros gyfnod o amser er mwyn sicrhau fod amrywiaeth a chydbwysedd yn bodoli drwy'r maes. Rhaid sicrhau fod y profiadau sy'n cael eu cynllunio o safon uchel ac yn datblygu pob agwedd o gymhwysedd digidol a hynny ar draws yr holl gwricwlwm.
Manteision?
Cyfle i ddatblygu syniadau ymhellach
Sicrhau cysondeb a dilynaint yn y profiadau dysgu
Sicrhau fod yr lefel o her yn cael ei osod yn briodol ac yn ymestyn dysgwyr ar draws yr ysgol
Cyfle i adnabod dosbarthiadau / adrannau sydd angen cefnogaeth bellach
Beth? - Llinellau Ymholi
Y disgwyliad yw mai dim ond ychydig o linellau ymholi y byddwch yn eu dewis sy’n caniatáu i’ch gosodiadau, polisïau, gweithdrefnau, gweledigaeth a gwerthoedd digidol gryfhau a ddatblygu. Dylai gweithgareddau Monitro, Gwerthuso ac Adolygu fod yn strwythuredig, yn bwrpasol a’ch cefnogi i adolygu camau gweithredu tuag at eich gweledigaeth ddigidol.
Ar y dde ac isod mae llinellau ymholi enghreifftiol sy’n seiliedig ar y meysydd ffocws a ganlyn, gellid eu defnyddio i’ch cefnogi wrth i chi werthuso ac adolygu cymhwysedd digidol yn eich lleoliad.
Arweinyddiaeth
Diwylliant
Safonau
Systemau
Gwybodaeth
Addysgu
Cynllunio
![](https://www.google.com/images/icons/product/drive-32.png)
Arweinyddiaeth
Sut mae'r arweinydd yn gweithio ochr yn ochr â rhanddeiliaid fel llywodraethwyr?
Sut mae’r ysgol yn defnyddio Monitro Gwerthuso ac Adolygu i hysbysu Cynllun Datblygu’r Ysgol ac ysgogi gwelliant ysgol digidol?
Sut ydych chi'n sicrhau’r darpariaeth, dilyniant a safonau?
Pa gyfleoedd ydych chi wedi’u cael i weithio gydag arweinwyr digidol eraill yn yr ALl/rhanbarth?
Ydych chi wedi bod yn rhan o unrhyw brosiectau i gefnogi datblygiad digidol?
A oes cynllun gweithredu ar gyfer datblygu digidol? A yw hyn yn cynnwys unrhyw gysylltiadau â'r clwstwr?
Sut ydych chi’n darparu cyfleoedd i ddisgyblion lywio’r ffordd y mae digidol yn datblygu yn yr ysgol?
Sut ydych chi'n sicrhau adeiladu gallu? Sut byddai'r ysgol yn gwneud cynnydd pellach pe baech chi'n symud rolau.
Diwylliant
Sut ydych chi'n sicrhau bod disgyblion yn cael llwyfan i rannu a dathlu llwyddiant?
A oes gweledigaeth ar gyfer digidol o fewn yr ysgol? Sut mae'n cael ei rannu?
Sut mae addysgu a dysgu yn adlewyrchu'r weledigaeth?
I ba raddau mae pobl yn barod i fentro ac arbrofi gyda digidol?
Sut mae gwell sgiliau staff wedi dylanwadu ar arfer ôl-covid?
Sut ydych chi'n hyrwyddo arloesedd?
A oes agweddau ar ddysgu digidol lle mae staff yn teimlo diffyg hyder?
Safonau
Beth yw safon gwaith y dysgwyr? Yw hyn yn gyson uchel ar draws yr ysgol?
Yw'r dysgwyr yn cyflawni yn unol â'r disgwyl?
Yw safonau'r gwaith yn dangos dilyniant drwy'r ysgol? h.y. yw dysgwyr yn datblygu eu sgiliau fel y maent yn symud drwy'r ysgol?
A yw gwaith digidol y dysgwyr yn gyson ar draws y MDaPh?
I ba raddau mae'r dysgwyr yn gallu trafod eu sgiliau ar hyn y maent wedi ei gyflawni? e.e defnyddio terminoleg pynciol yn effeithiol, defnyddio geirfa technegol yn gywir wrth egluro
Yw'r dysgwyr yn arddangos sgiliau gweithio annibynnol? e.e yn unol a'r disgwyliad am yr oedran / lefel gallu dan sylw
Yw'r dysgwyr yn gallu gwneud penderfyniadau addas wrth ddewis pa dechnoleg neu wasanaethau digidol i'w ddefnyddio i gwblhau'r gwaith?
Systemau
Sut mae’r systemau a’r prosesau yn yr ysgol yn cefnogi gwelliant?
Sut mae darpariaeth caledwedd yn cael ei chynllunio a'i monitro?
A ydych chi'n gwybod sut olwg sydd arnoch chi am i'r FfCD edrych yn yr ysgol a sut mae hyn yn cael ei fonitro.
A yw'r ysgol yn defnyddio portffolios i olrhain/tystiolaeth darpariaeth a dilyniant?
A oes pwynt cyswllt clir ar gyfer staff sydd angen cymorth?
Gwybodaeth
A yw cydweithwyr wedi datblygu dealltwriaeth glir o ble mae dysgu digidol yn ffitio i mewn i ddiwygio’r cwricwlwm?
A yw dogfennaeth y Fframwaith yn cael ei defnyddio ar gyfer cynllunio ac a yw'n hysbys ymhlith yr holl athrawon?
Sut ydych chi'n cwmpasu'r Fframwaith yn yr ysgol? A oes llinynnau penodol sy'n gryf neu sydd angen eu datblygu?
Sut mae cydweithwyr wedi bod yn barod i gyflawni pob un o'r meysydd hyn?
Ble ydych chi'n dod o hyd i gefnogaeth a dysgu proffesiynol?
A yw aelodau staff yn ymwybodol o'r meysydd yr hoffent eu gwella trwy ddysgu proffesiynol?
Addysgu
I ba raddau y mae athrawon yn gwybod eu rôl o ran datblygu FfCD?
Sut byddech chi'n disgrifio cryfder y ddarpariaeth ar draws pob llinyn yn yr ystafelloedd dosbarth? Pa elfennau sy'n peri'r her fwyaf i staff?
Ydych chi'n gweld dilyniant a chwmpas ym mhob dosbarth? A yw adrannau / grwpiau blwyddyn yn canolbwyntio ar raglenni ac apiau cyffredin neu amrywiaeth gynyddol?
Sut mae athrawon yn datblygu’r meysydd hynny yr effeithiwyd arnynt gan y pandemig?
Ym mha ffyrdd y gellid gwella addysgeg mewn dysgu digidol?
Pa mor hyderus yw athrawon wrth arwain dysgu ar gyfer data a meddwl cyfrifiadol / cydweithio ac ati?
I ba raddau mae athrawon/staff yn modelu disgwyliadau i'r dysgwyr? Yw hyn yn arwain at safonau uwch?
I ba raddau mae'r meini prawf llwyddiant yn cefnogi'r dysgwyr i lwyddo?
Beth yw rôl y dechnoleg wrth gefnogi'r addysgu? Yw'r athrawon yn gwneud defnydd effeithiol / effeithlon o'r dechnoleg?
Oes cysondeb ar draws yr ysgol mewn perthynas a dysgu digidol? e.e defnydd o blatfformau, cysondeb storio, defnydd o sgrin, craffwr etc.
Oes adborth adeiladol yn cael ei roi ar waith digidol, ac yw hwn o'r un safon ac adborth mewn meysydd/pynciau eraill, neu ar waith sydd ddim yn ddigidol?
I ba raddau mae'r dechnoleg a gwasanaethau digidol yn cefnogi asesu? Yw hyn yn effeithlon ac oes arferion ble ellir eu gwella?
Cynllunio
Yw'r cynlluniau yn arddangos uchelgais, a hynny'n gyson drwy'r ysgol?
Pa mor eang yw'r ystod o brofiadau sy'n cael eu cynllunio / darparu?
Oes cydbwysedd rhwng y medrau cymhwysedd digidol?
Yw'r tasgau sy'n cael eu cynllunio o ansawdd uchel ac yn debygol o osod y lefel cywir o her ir dysgwyr?
Yw'r tasgau sydd wedi eu cynllunio yn caniatáu i'r dysgwyr arwain y dysgu? h.y. dysgwyr yn dewis dyfais/meddalwedd i gwblhau'r gwaith, cyfleoedd i ddysgwyr ddatrys problemau, cyfleoedd i gefnogi cymheiriaid.
Beth? - Awdit Staff
Mae'n bosib casglu gwybodaeth wrth staff mewn sawl ffordd.
Fedrwch rhannu awdit sy'n mesur sgiliau digidol staff, a'i hyder i addysgu sgiliau a chynnig profiadau gan sicrhau lefel briodol o her.
Dyma dolenni i dempled holiaduron fedrwch chi addasu a rhannu.
Gallwch ei ddefnyddio yn y cam hwn i adnabod y waelodlin, a'i ailadrodd ymhen amser er mwyn mesur effaith eich gweithredu.
Ar gyfer y ddolen gyntaf bydd angen i chi glicio ac yna dewis yr opsiwn i ddyblygu. I gwblhau yr holiadur yn y Gymraeg rhaid mynd i'r opsiynau iaith ar rhan uchaf y sgrîn a dewis 'Cymraeg'.
Holiadur Staff (Microsoft Forms)
Holiadur Staff (Google Forms) (Cymraeg)
Strwythur a Chyfrifoldebau Staff
![](https://www.google.com/images/icons/product/drive-32.png)
Modelau a Pholisiau Cwricwlwm
Templed Polisi a Pholisiau Atodol Diogelwch Ar-lein i Ysgolion
Mae’r portffolio hwn o dempledi Polisi Diogelwch Ar-lein ar gyfer ysgolion neu leoliad addysg. Bwriad y templed yma yw i helpu arweinwyr lunio Polisi Diogelwch Ar-lein addas sy’n ystyried yr holl faterion presennol a pherthnasol, mewn cyd-destun ysgol gyfan, a'u cysylltu â pholisïau perthnasol eraill, megis polisïau diogelu, ymddygiad a gwrth-fwlio yr ysgol.
Mae'r polisïau templed yn awgrymu datganiadau polisi a fyddai, ym marn Llywodraeth Cymru, yn hanfodol mewn unrhyw Bolisi Diogelwch Ar-lein ysgol, yn seiliedig ar arfer da.
Rhaid teilwra'r Polisi ar gyfer eich ysgol a bydd y drafodaeth a'r ymgynghoriad sydd yn digwydd yn ystod ysgrifennu neu adolygu'r polisi yn rhan bwysig o'r broses. Bydd hyn yn helpu i sicrhau bod y polisi yn cael ei berchnogi a'i dderbyn gan gymuned gyfan yr ysgol.
Dilysu Aml-Ffactor
Ystyriaethau erbyn y cwrs Arweinyddiaeth Ddigidol nesaf - 31/01/2024
- Dechrau ffurfio / ystyried gweledigaeth
- Cyfarwyddo / Adolygu teclyn hunan werthuso 360 Safe a 360 Digi Cymru
- Adolygu prosesau monitro
- Gwirio polisi Diogelwch Ar-lein