Diwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel
6/2/2024

Mae Diwrnod Defnyddio'r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel yn cael ei ddathlu’n fyd-eang ym mis Chwefror bob blwyddyn, i hyrwyddo defnydd diogel a chadarnhaol o dechnoleg ddigidol gan blant a phobl ifanc ac i ysbrydoli trafodaeth yn genedlaethol. 

Cyflwyniad i adnoddau 2024

uksic-stakeholder-meeting-wales-cym.pdf

Dyma gyflwyniad a gafodd ei rannu mewn digwyddiad a gynhaliwyd ar y 14eg o  Dachwedd 2023 gyda rhanddeiliaid addysg o bob cwr o Gymru  i gyflwyno adnoddau Diwrnod Defnyddio'r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel 2024. 

Fideo Saeseng yn unig
Cyflwyno'r adnoddau 

Adnoddau defnyddiol

Dyma gasgliad o fideos (yn y Gymraeg a'r Saesneg) gallwch eu defnyddio fel gwasanaeth ddosbarth ar Ddiwrnod Diogelu'r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel 2024.

Dyma gasgliad o syniadau a gweithgareddau (cyfrwng Cymraeg a Saesneg) ar gyfer dysgwyr o bob oed i gyd-fynd gyda thema Diwrnod Defnyddio'r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel 2024.

Dyma gasgliad o adnoddau amrywiol gallwch eu defnyddio i ddysgu am sut i gadw yn ddiogel ar-lein.

Adnoddau i rieni a gwarchodwyr

Sesiynau Dysgu Byw

Cliciwch ar y ddolen YMA i ymuno yn y sesiwn dysgu byw sy'n addas ar gyfer dysgwyr adran iau yr ysgol gynradd ( bl 3 i fl 6).

Yn y sesiwn byddwn ni'n creu clawr cylchgrawn a fideo.

Yn y sesiwn byddwn ni'n creu neges diogelwch ar-lein sydd wedi ei animeiddio a creu ffeithlun am chwarae gemau ar-lein.
Adnoddau - Templed ffeithlun

Yn y fideo bydd Mr Luke Clement o Technocamps yn esbonio sut i greu cwis 'Diwrnod Diogelu'r Rhyngrwyd' gan ddefnyddio Scratch.