Mae’r Llwybr Pontio Blwyddyn 12 yn becyn o gyrsiau Lefel 2 ar gyfer ein myfyrwyr Blwyddyn 12. Bwriad y Llwybr Pontio ym Mlwyddyn 12 yw rhoi cyfle i ddisgyblion sy’n uchelgeisiol ac yn awyddus i barhau i astudio trwy gyfrwng y Gymraeg.
Mae’r Llwybr Pontio Blwyddyn 12 yn addas ar gyfer myfyrwyr sydd ag uchelgais i astudio cyrsiau Lefel 3 ond nad ydynt, yn anffodus, wedi llwyddo i dderbyn cymwysterau sy’n eu galluogi nhw i astudio cyrsiau Lefel 3 ym mlwyddyn 12.
Disgwylir y bydd myfyrwyr sy’n dilyn y Llwybr Pontio yn awyddus i barhau i astudio yng Nghwm Rhymni ar ddiwedd Blwyddyn 12 gan ddechrau astudio cyrsiau Lefel 3 yn y mis Medi canlynol .
Craidd y cwrs Pontio fydd Astudiaethau Galwedigaethol gyda datblygu dealltwriaeth o feysydd Busnes yn ganolog i’r cwricwlwm.
Fe fydd pawb yn astudio:
Dyfarniad Lefel 1/2 mewn Busnes Adwerthu
Dyfarniad Lefel 1/2 mewn Gweithrediadau Digwyddiadau
Tystysgrif Estynedig Lefel 2 Mewn Sgiliau Defnyddwyr TG Mewn Systemau Agored a Menter
Cymraeg
Saesneg
Mathemateg
Mae’r cyrsiau wedi eu cynllunio i alluogi myfyrwyr i ddatblygu dealltwriaeth a pheth gwybodaeth, o lwybr galwedigaethol penodol. Trwy barhau i astudio’r pynciau allweddol (Cymraeg/Saesneg/Mathemateg) fe roddir cyfle i fyfyrwyr ail sefyll arholiadau TGAU os oes angen gwella eu gradd TGAU neu i barhau i wella eu sgiliau llythrennedd a rhifedd os ydynt eisoes wedi derbyn gradd A*- C TGAU.
Mae graddio cyrsiau galwedigaethol yn wahanol i’r modd y caiff TGAU ei raddio; fodd bynnag, maent gyfwerth â TGAU.
Cymhwyster gradd Alwedigaethol:
Rhagoriaeth = A
Teilyngdod = B
Llwyddiant Lefel 2 = C
Llwyddiant Lefel 1 = D-G
Yn gyffredinol bydd disgyblion sy’n dymuno dilyn Llwybr Pontio ym Mlwyddyn 12 yn dilyn cyrsiau galwedigaethol Lefel 3 ym mlwyddyn 13 ac 14 ar yr amod eu bod wedi ennill o leiaf Teilyngdod yn eu cwrs galwedigaethol ym Mlwyddyn 12.
The Year 12 Transition Pathway is a package of courses that are available to our Year 12 students. The aim is to enable well motivated and ambitious students to continue their studies through the medium of Welsh.
The Year 12 Transition Pathway is suitable for those students who would wish to follow Level 3 courses but, unfortunately, have not yet achieved a suitable level of achievement to enable them to study Level 3 courses in year 12.
It is expected that those students who choose to follow the Year 12 Transition Pathway will wish to continue their studies at Cwm Rhymni at the end of year 12 by starting Level 3 course the following September.
Vocational Studies will be at the core of the course with developing further understanding of a variety of fields of Business being central to the curriculum
Everybody will study:
Level 1/2 Award in Retail Business
Level 1/2 Award in Event Operations
Level 2 Extended Certificate in IT User Skills in Open Systems and Enterprise
Welsh
English
Mathematics
These courses are designed to enable the students to develop understanding and some knowledge of particular vocational pathways. By continuing to study the key core subjects (Welsh/English/Mathematics) we aim to enable pupils to re sit GCSE examinations to improve their GCSE grades if required or to continue to improve their literacy and numeracy skills if they have achieved GCSE grades A*-C.
Vocational courses are graded in a different manner in which GCSE courses are graded; however they are equivalent to a GCSE.
Vocational Qualification Grades:
Distinction = A
Merit = B
Level 2 Pass = C
Level 1 Pass = D-G
In general, students who follow the Transition Pathway curriculum in Year 12 will follow Level 3 vocational courses in years 13 and 14 on the understanding that they have achieved at least a Merit in the relevant vocational course in Year 12.
Iaith a Llenyddiaeth Gymraeg /
Welsh Language and Literature
Iaith a Llenyddiaeth Saesneg /
English Language and Literature
Mathemateg a Rhifedd /
Mathematics and Numeracy
Gweithredu Digwyddiadau /
Event Operations
Cynhyrchu Digidol /
Digital Production
Adwerthu /
Retail