Mae'r cwrs Diploma Lefel 3 mewn Cynhyrchu a Pherfformio Cerddoriaeth gan UAL yn gwrs sy'n ymarferol ar y cyfan sy'n eich darparu chi a'r sgiliau angenrheidiol i ddatblygu fel Cerddor proffesiynol. Mae hefyd yn eich galluogi chi i fedru arbenigo yn y meysydd sy'n diddori chi orau mewn cerddoriaeth - boed yn gynhyrchu, perfformio neu gyfansoddi.
Dros y ddwy flynedd o'r cwrs byddwch yn dysgu i ddatblygu eich sgiliau fel perfformiwr i'ch galluogi i gyrraedd eich potensial fel perfformiwr. Byddwch hefyd yn dysgu'r gallu i gynhyrchu cerddoriaeth yn defnyddio caledwedd a meddalwedd megis Logic Pro, sy'n cael ei ddefnyddio gan bobl broffesiynol yn y diwydiant megis Calvin Harris, Ed Sheeran a Billie Eilish. Bydd cyfuno'r sgiliau yma yn eich galluogi i greu recordiadau o safon uchel a chynnal perfformiadau byw penigamp.
Nod penodol cynnig cwrs UAL yn y chweched yng Nghwm Rhymni oedd medru dysgu sgiliau i ddisgyblion oedd yn adlewyrchu'n well gwir brofiadau cerddorion proffesiynol sy'n gweithio o fewn y diwydiant. Gweler yma fideos yn adlewyrchu profiadau myfyrwyr ac athrawon yn dilyn y cwrs UAL.
The UAL Level 3 Diploma in Music Production and Performance is a highly practical course that provides you with the skills necessary to develop as a professional musician. It also allows you to specialise in the areas of music that interest you most - whether it's production, performance, or composition.
Over the two-year course, you will learn to develop your skills as a performer to help you reach your full potential. You will also learn how to produce music using hardware and software such as Logic Pro, which is used by industry professionals like Calvin Harris, Ed Sheeran, and Billie Eilish. Combining these skills will enable you to create high-quality recordings and deliver top-notch live performances.
A specific aim of offering a UAL course in the sixth form in Ysgol Gyfun Cwm Rhymni was to be able to teach skills to students that better reflected the real experiences of professional musicians working within the industry. See the videos above reflecting the experiences of students and teachers following the UAL course.
Mae Diploma Lefel 3 Perfformio a cynhyrchu Cerddoriaeth wedi'i gynllunio i roi gwybodaeth, sgiliau a dealltwriaeth i fyfyrwyr sydd eu hangen i gael mynediad astudio cerddoriaeth ymhellach ac hefyd i'ch paratoi i gyflogaeth yn y diwydiant cerddorol.
Mae'n darparu cyfle i'r rheini sydd â diddordeb mewn cerddoriaeth i archwilio, datblygu a phrofi eu creadigrwydd o fewn strwythur cymhwyster sy'n ysgogi ac yn heriol ac sy'n eich galluogi chi i ymchilio i mewn i'ch diddordebau chi yn y maes.
Gall y cymhwyster hwn eich galluogi i:
Cael ymwybyddiaeth feirniadol a chyd-destunol o wahanol safbwyntiau a dulliau o fewn perfformio a chynhyrchu cerddoriaeth neu bynciau cysylltiedig.
Ymchwilio, dadansoddi a gwerthuso gwybodaeth a syniadau perthnasol er mwyn datblygu atebion creadigol.
Deall, addasu a defnyddio'n ddiogel dulliau a sgiliau priodol ac ymarferol ar gyfer cynhyrchu creadigol.
Datrys problemau cymhleth drwy gymhwyso perfformiad a chynhyrchiad cerddoriaeth neu dealltwriaeth ymarferol, theoretig a technegol.
Adolygu'n feirniadol, effeithiolrwydd a phriodoldeb dulliau, gweithredoedd a chanlyniadau
Defnyddio sgiliau gwerthuso ac adlewyrchol er mwyn cymryd cyfrifoldeb am eich dysgu, datblygiad a phenderfyniadau eich hun
Cymryd cyfrifoldeb am yr ymchwil, y cynllunio, rheoli amser a gweithredoedd i gael mynediad at gyfleoedd dilyniant
Cyflwyno eich hun a'ch gwaith yn effeithiol i gynulleidfaoedd priodol.
The Level 3 Diploma in Music Performance and Production is designed to provide students with the knowledge, skills, and understanding needed to gain entry into further music studies and also to prepare you for employment in the music industry.
It offers an opportunity for those with an interest in music to explore, develop, and test their creativity within a challenging and stimulating qualification framework that allows you to delve into your own interests in the field.
This qualification will enable you to:
Have a critical and contextual awareness of different perspectives and approaches within music performance and production or related subjects of study or work
Research, analyse and evaluate relevant information and ideas in order to develop creative solutions
Understand, adapt and safely use appropriate and practical methods and skills for creative production
Solve complex problems through the application of music performance and production or related practical, theoretical and technical understanding
Critically review the effectiveness and appropriateness of methods, actions and results
Use evaluative and reflective skills in order to take responsibility for own learning, development and decision making
Take responsibility for the research, planning, time‐management and actions to access progression opportunities
Effectively present themselves and their work to appropriate audiences.
Blwyddyn 12
Uned 1: Egwyddorion perfformio a cynhyrchu cerddoriaeth.
Uned 2: Gwrando beirniadol a chyfansoddi cerddoriaeth.
Uned 3: Y diwydiant cerddoriaeth ac ymarfer proffesiynol.
Uned 4: Ymwybyddiaeth feirniadol ac o gyd-destun ar gyfer perfformio a chynhyrchu cerddoriaeth.
Blwyddyn 12 a 13:
Uned 5: Cynhyrchu cerddoriaeth mewn cyd-destun
Uned 6: Perfformio cerddoriaeth mewn cyd-destun
Uned 7: Paratoi ar gyfer astudiaethau arbenigol mewn perfformio a chynhyrchu cerddoriaeth.
Blwyddyn 13:
Uned 8: Prosiect perfformio cerddoriaeth ar y cyd
Year 12:
Unit 1 Principles of music performance and production
Unit 2 Critical listening and music composition
Unit 3 Music industry and professional practice
Unit 4 Critical and contextual awareness for music performance and production
Years 12 and 13:
Unit 5 Music production in context
Unit 6 Music performance in context
Unit 7 Preparation for specialist study in music performance and production
Year 13:
Unit 8 Collaborative music performance project.
Fel myfyriwr ar y cwrs hwn, bydd gennych fynediad at yr offer ac adnoddau sy'n cael eu defnyddio'n rheolaidd yn y diwydiant:
iMacs yn rhedeg y fersiwn diweddara o MacOs yn rhedeg y meddalwedd canlynol:
Logic Pro X
Offerynnau meddalwedd o lyfrgell proffesiynol Spitfire Audio
Kontakt Player a sawl plug in arall gan Native Instruments
Bysellffyrdd M-AUDIO Oxygen Pro 49 a Keystation MINI32
Focusrite Scarlett 18i20 a Behringer Uphoria U-PHORIA UMC204HD
Microffonau RODE, SHURE SENNHEISER
A sawl offeryn cerddorol gan gwmniau megis Squire, Fender Yamaha ac eraill.
As a student on this course, you will have access to the equipment and resources that are regularly used in the industry:
iMacs running the latest version of macOS with the following software:
Logic Pro X
Software instruments from the Spitfire Audio library.
Kontakt Player and several other plugins from Native Instruments.
M-AUDIO Oxygen Pro 49 and Keystation MINI32 keyboards
Focusrite Scarlett 18i20 and Behringer Uphoria U-PHORIA UMC204HD audio interfaces
RODE, SHURE, and SENNHEISER microphones
Various musical instruments from companies such as Squire, Fender, Yamaha, and others.
Pas / Pass: 36
Teilyngdod / Merit: 60
Anrhydedd / Distinction: 84