Troseddeg yw astudiaeth wyddonol o ymddygiad troseddol, ar lefelau unigol, cymdeithasol a naturiol, a sut y gellir ei reoli a'i atal.
Bydd y cwrs hwn yn galluogi myfyrwyr i ddefnyddio damcaniaethau troseddoldeb i ddadansoddi sefyllfaoedd troseddol a gwneud argymhellion ar gyfer polisïau. Mae myfyrwyr hefyd yn meithrin y wybodaeth a'r sgiliau i ymchwilio i bolisïau ar waith, i asesu ymgyrchoedd dros newidiadau mewn ymwybyddiaeth ac i archwilio gwybodaeth er mwyn adolygu rheithfarnau mewn achosion troseddol.
Uned 1 – Newid Ymwybyddiaeth o Drosedd - Asesiad Mewnol/Dan reolaeth: 8 awr
Mae'r uned hon yn canolbwyntio ar droseddau nad yw pobl yn rhoi gwybod amdanynt a chanlyniadau troseddau o'r fath. Yn yr uned hon hefyd cyflwynir cynrychioliad y cyfryngau o drosedd a sut gall ymgyrchoedd dros newid godi ymwybyddiaeth o droseddau nad yw pobl yn rhoi gwybod amdanynt yn y gymdeithas. Bydd ymgeiswyr yn cymhwyso eu gwybodaeth a'u dealltwriaeth o'r fanyleb at y senario a gyflwynir gan friff yr aseiniad pan fydd yr asesiad dan reolaeth yn dechrau.
Uned 2 – Damcaniaethau Troseddegol - Arholiad allanol: 1 awr 30 munud
Mae'r uned hon yn canolbwyntio ar pam mae pobl yn troseddu ac yn cynnwys astudiaeth o amrywiaeth o ddamcaniaethau ynghylch troseddoldeb.
Uned 3 – O Leoliad y Drosedd i'r Llys - Asesiad Mewnol/Dan reolaeth: 8 awr
Yn Uned 3 canolbwyntir ar y System Cyfiawnder Troseddol o'r adeg y caiff trosedd ei nodi i'r rheithfarn. Bydd yr uned hon yn caniatáu ymgeiswyr i ennill y ddealltwriaeth a'r sgiliau i allu archwilio dilysrwydd rheithfarnau a roddir mewn achosion troseddol.
Uned 4 – Trosedd a Chosb - Arholiad allanol: 1 awr 30 munud
Cymhwyso dealltwriaeth o ddamcaniaethau a phrosesau o ddwyn y sawl a gyhuddwyd ger bron y llys. Gwerthuso effeithiolrwydd rheolaeth gymdeithasol.
Gyrfaoedd gyda Throseddeg
Gall troseddeg agor y drws i amrywiaeth o lwybrau gyrfa sy’n gofyn am ddealltwriaeth o’r sector cyfiawnder troseddol. Gallai’r rhain gynnwys gyrfaoedd yn yr heddlu neu mewn rolau sy’n cefnogi’r heddlu, maes seicoleg fforensig, gwaith cymdeithasol a gwaith y gwasanaeth prawf neu wasanaethau’r carcharau.
Criminology is the scientific study of criminal behaviour, on individual, social and natural levels, and how it can be managed, controlled and prevented.
This course will enable students to use theories of criminality to analyse criminal situations and make recommendations for policy. Students also develop the knowledge and skills to research policy in practice, assess campaigns for changes in awareness and examine information to review verdicts in criminal cases.
Unit 1 - Changing Awareness of Crime - Internal/Controlled assessment: 8 hours
The focus of the unit is on unreported crime and the consequences of such crimes. The unit will also introduce media representation of crime and how campaigns for change can raise awareness of unreported crimes in society. Candidates will apply their knowledge and understanding of the specification to the scenario presented by the unseen assignment brief when the controlled assessment begins.
Unit 2 - Criminological Theories - External examination: 1 hour 30 minutes
This unit focuses on why people commit crime and includes a study of a range of theories of criminality.
Unit 3 - Crime Scene to Courtroom - Internal/Controlled assessment: 8 hours
The focus of Unit 3 is the Criminal Justice System from the identification of the crime through to the verdict. This unit will allow candidates to gain the understanding and skills to be able to examine the validity of verdicts given in criminal cases.
Unit 4 - Crime and Punishment - External examination: 1 hour 30 minutes
Apply understanding of theories and processes of bringing the accused to court. Evaluate the effectiveness of social control.
Careers with Criminology
Criminology can open the door to an array of career paths that require understanding of the criminal justice sector. These may include careers in the police force or in police support roles, the field of forensic psychology, social and probation work or the prison services.