Mae Seicoleg yn faes astudio cyffrous a diddorol sydd yn ceisio darganfod sut mae meddwl dynol yn gweithio. Mae'r pwnc yn wyddoniaeth ifanc ond un sydd yn tyfu yn gyflym mewn poblogrwydd, wrth i'r maes gael ei ddefnyddio i esbonio ymddygiad pobl a chael ei gymhwyso i drin amrywiaeth o broblemau a phryderon. Mae seicoleg yn helpu pobl i fabwysiadu gwell dealltwriaeth o'u hymddygiad eu hunain a phobl eraill
Mae Seicoleg yn archwilio amrediad eang o faterion pob dydd fel straen, iechyd, rhyngweithiad cymdeithasol a'r amgylchfyd i enwi ychydig. Rhai o'r cwestiynau sy'n cael eu trafod ar y cwrs yw:
Ydy pwysau cymdeithasol yn cael effaith ar ymddygiad?
Ydy'r gwahaniaethau ymddygiadol rhwng dynion a menywod yn cael eu dysgu neu ydynt yn gynhenid?
Pam ydyn ni'n cael breuddwydion?
Beth ydyn ni'n ei ddysgu am bobl trwy astudio ymddygiad anifeiliaid?
Uned 1: Hanes Seicoleg 1 awr 30 munud (20%)
Bydd rhaid i ymgeiswyr dangos eu gwybodaeth a dealltwriaeth am y 5 prif ymagwedd o fewn seicoleg; Biolegol, Seicodynamig, Gwybyddol, Positif ac Ymddygiadol. Bydd disgyblion yn ymchwilio i bob theori ac ystyried therapiau ac arbrofion gysylltiedig.
Uned 2: Ymchwilio Ymddygiad Seicolegol 1 awr 30 munud (20%)
Bydd yr arholiad yn profi gwybodaeth a gwerthusiad yr ymgeiswyr ar amrywiaeth o dechnegau ymchwil a bydd rhaid trafod unrhyw faterion moesol sydd yn codi o’r arbrofion. Bydd disgyblion hefyd yn trafod dadleuon cyfoes o fewn y pwnc fel moesoldeb niwrowyddoniaeth a dibynadwyedd llygaid dyst.
Uned 3: Goblygiadau seicoleg yn y byd go iawn 2 awr 30 munud (40%)
Bydd yr arholiad yn profi gwybodaeth a gwerthusiad yr ymgeiswyr o amrywiaeth a ymagweddau seicolegol i esbonio ymddygiad penodol fel ymddygiad troseddol a sgitsoffrenia. Bydd ymgeiswyr angen trafod unrhyw faterion moesegol a ddadleuon seicolegol gall codi o fewn ymchwil a thrafod sut i ymdrin y materion yma.
Uned 4: Cymhwyso Dulliau Ymchwil 1 awr 30 munud (20%)
Bydd yr arholiad yn profi gwybodaeth a gwerthusiad yr ymgeiswyr ar amrywiaeth o dechnegau ymchwil. Bydd ymgeiswyr yn cynnal dau arbrawf eu hunain ar destun penodol ac adrodd yn ol ar eu dulliau a ddarganfyddiadau yn yr arholiad.
Gyrfaoedd mewn Seicoleg
Gall seicoleg agor y drws i amrywiaeth o lwybrau gyrfa sy'n gofyn am ryngweithio neu ddealltwriaeth o ymddygiad a datblygiad dynol.
Gall astudio seicoleg arwain at yrfaoedd mewn meysydd fel gofal iechyd, rheolaeth, gwaith cymdeithasol, ymchwil, addysgu, marchnata, hysbysebu ac adnoddau dynol.
Psychology is an exciting and fascinating field of study which attempts to discover how the human mind works. It is a young science which is rapidly growing in popularity, as it is used to explain people's behaviour and to treat a wide variety of phobias and anxieties. Psychology pushes us towards a greater self-knowledge by making us more aware of our own actions and how we relate to others.
Psychology examines a broad range of real-life issues such as stress, health, social interaction and the environment to name a few. Some of the questions discussed during the course are:
Can social pressure make people act 'out of character'?
Are behavioural differences between men and women learnt or inborn?
Why do we dream?
What can we learn about people from studying the behaviour of animals?
Unit 1: Psychology past to present 1 hour 30 minutes ( 20% qualification)
Pupils will be asked questions relating to five psychological approaches; Biological, Cognitive, Behaviourist, Psychodynamic and Positive. Pupils will be required to learn the main assumptions of all approaches, be able to report on therapies related to each approach and report on classic pieces of research.
Unit 2: Psychology Exploring Behaviour 1 hour 30 minutes (20% qualification)
Pupils will study research methods in depth and be able to identify the different methods used within different studies including methodologies, sampling, experimental design, data / statistical analysis and ethics. Pupils will also study contemporary debates in psychology including the ethics of neuroscience, the mother as a primary care giver of an infant and the reliability of eyewitness testimony.
Unit 3: Psychology in the Real World 2 hours 30 minutes (40% qualification)
Pupils will study three nominated behaviours including criminal and schizophrenia. Pupils will also be required to discuss controversies surrounding the subject including cultural bias, the use of animals and the ethical costs found in studies.
Unit 4: Applied Research Methods 1 hour 30 minutes (20% qualification)
Pupils will conduct two of their own studies in a specified field of psychology and be able to report on the research methods used. They will also be required to answer relevant questions on a novel scenario provided.
Careers in Psychology
Psychology can open the door to an array of career paths that requires interaction or an understanding of human behaviour and development.
The study of psychology can lead to careers in areas such as healthcare, management, social work, research, teaching, marketing, advertising and human resources.