Croeso i'r 6ed
Croeso cynnes iawn i Chweched Dosbarth, Ysgol Gyfun Cwm Rhymni.
Dyma'r unig ganolfan yn y Sir ble cewch barhau eich addysg ôl 16 drwy gyfrwng y Gymraeg.
Yma, cewch y wybodaeth angenrheidiol ar yr amrywiaeth o gyrsiau Safon A a BTEC sydd ar gynnig yma. Mae pob adran yn cyflwyno eu cyrsiau ar ffurf linc fidio. Cewch hefyd wybodaeth yn ysgrifenedig ar gynnwys pob cwrs ynghyd a'r cynllun asesu.
Cyn dechrau, gwyliwch fy nghyflwyniad i ar sut i wneud dewisiadau doeth a chael esboniad llawn o'r broses. Mi fydd angen lleiafswm o 5 A* - C arnoch i fedru dechrau ar gyrsiau Safon A, Lefel 3, Diploma neu BTEC Lefel 3.
Edrychaf ymlaen yn fawr at eich croesawu i gymuned agos Chweched Dosbarth Cwm Rhymni ble y cewch eich magu a'ch harwain bob cam o'r ffordd gan dim profiadol iawn CA5.
Cofion Cynhesaf,
Mrs Skevington (Pennaeth y Chweched Dosbarth)
A very warm welcome to the Sixth Form at Ysgol Gyfun Cwm Rhymni.
This is the only centre in the County where you are able to continue your education post 16 through the medium of Welsh.
Here you will find all the information you will need on a wide range of A level and BTEC courses that we offer. Each department have a presentation on the course content via a video link. You will also find written information on the course content and the assessment criteria.
Before you begin, listen to my presentation on how to make wise and informed choices and a full explanation of the process. You will need a minimum of 5 GCSE grades A* - C in order to study A level, Level 3, Diploma or BTEC Level 3 courses.
I very much look forward to welcoming you into the close knit community of Cwm Rhymni's Sixth Form where you will be nurtured and guided every step of the way by a very experienced KS5 team.
Best Wishes,
Mrs Skevington (Head of Sixth Form)
DEWIS DOETH / Top tips
Dewiswch bynciau rydych chi’n gryf ynddynt ac ry’dych chi’n mwynhau.
Peidiwch a ffocysu yn ormodol ar yrfa. Os dewiswch chi bynciau nad ydych chi yn gryf ynddynt nac yn eu mwynhau i ddiwallu gofynion mynediad, yna ry’ chi’n mynd ar hyd trywydd anodd a diflas. Ffocyswch ar yr hyn ry’ chi’n mwynhau ac mi ddaw gyrfa i ddilyn.
Croeso i chi ddewis 4 pwnc ym mis Medi i roi cyfle i chi gael blas o’r pynciau. Bydd angen i chi benderfyn ar y 3 terfynol erbyn hanner tymor Hydref. Ni fyddwn yn medru caniatau newid pynciau yn dilyn hanner tymor Hydref.
Derbyniwch gyngor gan benaethiaid adran a phenaethiaid blwyddyn sydd yn brofiadol. Mae pawb yma i sicrhau cyfuniad doeth o bynciau sydd yn debygol o’ch gweld yn llwyddo.
Peidiwch a dewis pynciau yn seiliedig ar gylch ffrindiau nad ar sail hoffter neu beidio o athrawon unigol.
Edrychwch yn fanwl ar gynnwys pob cwrs ar y wefan a sut mae’r cwrs yn cael ei asesu.
Os nad eich cryfder yw arholiadau, yna edrychwch ar gyrsiau Lefel 3 sydd yn cynnwys 50% o waith cwrs.
Nid realiti gyrfa yw’r hyn rydych chi’n gweld ar y teledu!
Gofynnwch am gyngor! Rydyn ni yma i helpu.
Ebostiwch: Blwyddyn12@ygcwmrhymni.net
Choose subjects that show your strengths and that you enjoy.
Do not focus too much on careers. If you choose subjects that you struggle with and don’t enjoy only to fulfil entry requirements, then you are setting a difficult and miserable path for yourself. Focus on what you enjoy and a career will follow.
You are welcome to choose 4 subjects in September to have a taste of each before deciding on the final 3 by October half term. We will not be able to change subject choices after October half term.
Accept advice from experienced heads of department and heads of year who are here to ensure that you have a sensible combination of subjects that is likely to see you succeed.
Do not choose subjects based on friendship groups or likes / dislikes of individual teachers.
Look at the detail of each course on the website and how each course is assessed. If your strength isn’t exam based, look at some Level 3 options that include 50% coursework.
The reality of careers is not what you see on television!
Ask for advice! We are here to help.
Email: Blwyddyn12@ygcwmrhymni.net
Llwybrau
Paratoi i'r Dyfodol / Preparing for the Future
Mae paratoi’n drylwyr i’r dyfodol, naill ai i gyflogaeth, hyfforddiant neu Addysg Uwch yn rhan hanfodol o gyfrifoldeb canolfan Gwenallt i’w myfyrwyr. Mae hyn yn cynnwys:
Rhaglen o Addysg Bersonol a Chymdeithasol
Dilyn cymhwyster Bagloriaeth Cymru
Ysgrifennu datganiadau personol a CV
Ymgynghorydd Gyrfaoedd o Yrfa Cymru ar y safle
Siaradwyr gwadd
Ffair addysg uwch
Cyngor a chefnogaeth i baratoi am gyfweliadau
Cyfweliadau ffug
Ystod eang o gyfleodd allgyrsiol
Paratoadau trylwyr i broses UCAS
Cymorth i gwblhau ceisiadau UCAS ac eraill
Cyswllt agos gyda’r tiwtoriaid bob dydd
Monitro manwl o waith y myfyrwyr
2 Adroddiad ym Mlwyddyn 12 a 13
Nosweithiau rhieni
Rhwydwaith Seren
Thorough preparation for the future, whether it be in employment, training or Higher Education, is an essential part of Canolfan Gwenallt’s responsibility to its students. This includes:
Personal and Social education programme
The Welsh Baccalaureate qualification
Personal statement and CV writing
Careers guidance adviser from Careers Wales on site
Visiting speakers
Higher education fair
Advice and assistance in preparing for interviews
Mock interviews
Wide range of extra-curricular opportunities
Thorough preparation for the UCAS process
Assistance with completing UCAS and other applications
A close link with form tutors every day
Close monitoring of students’ work
2 Reports in Year 12 and 13
Parents’ evenings
Seren Network
Rhwydwaith Seren / Seren Network
Crëwyd y Rhwydwaith Seren gan Lywodraeth Cymru i gefnogi myfyrwyr mwyaf disglair Cymru i gyflawni eu potensial academaidd. Gan gynnig amrywiaeth o weithgareddau academaidd, bydd y Rhwydwaith Seren yn rhoi gwybodaeth, profiad a chefnogaeth i helpu myfyrwyr gyflwyno ceisiadau llwyddiannus i'n prifysgolion gorau.
Bydd athrawon o ysgolion a cholegau yr ardal yn cydweithio i gyflwyno rhaglen gydlynol o weithgareddau i fyfyrwyr ein ysgol a myfyrwyr lleol eraill. Bwriad y rhain yw ymestyn a herio y tu hwnt i'r cwricwlwm safon uwch, a rhoi cyfle i wella gwybodaeth pynciol gyda grŵp cyfoedion o fyfyrwyr eraill. Bydd staff o brifysgolion blaenllaw'r DU, gan gynnwys Rhydychen a Chaergrawnt, yn sicrhau fod myfyrwyr yn cael y wybodaeth, cyngor a'r gefnogaeth ddiweddaraf wrth wneud penderfyniadau am brifysgolion a chyrsiau.
The Seren Network was created by the Welsh Government to support Wales' brightest students in achieving their academic potential. Offering a variety of academic activities, the Seren Network will provide knowledge, experience and support to help students make successful applications to our top universities.
Teachers from schools and colleges in the area will work together to deliver a coherent program of activities for our pupils and other local high achievers. These are intended to extend and challenge beyond the A-level curriculum, and give opportunities to improve subject knowledge with a peer group of other students. Staff from leading UK universities, including Oxford and Cambridge, will ensure that students have the latest information, advice and support when making university and course decisions.