Yn gynwysedig yn y rhaglen mae 30 o wersi i'w trosglwyddo i grwpiau bach o dri i bedwar disgybl, dros gyfnod o bymtheg wythnos gan ddefnyddio Microsoft OneNote. Mae pob gwers yn tua 45-60 munud o hyd ac wedi eu rhannu i 4 prif is-ran.
Strwythur Gwers
Isod gweler darlun o un wers RILL, sy’n dilyn yr un strwythur bob tro. Mae hyn yn helpu’r plentyn i ddod i adnabod y rhythm ac i ddechrameithrin cyfarwydddeb a hyder wrth i’r cwrs fynd yn ei flaen.
Trosolwg o bedwar is-ran y gwersi
1. Geiriau a Stori
2. Gemau Sain
3. Gemau Sillafu
4. Naratif
Mwy o fanylder
1. Geiriau a Stori
Geiriau'r Dydd
Mae'r cynllun yn canolbwyntio ar gyflwyno ac addysgu geiriau haen 2, sef geiriau mwy heriol sy’n fwy cyfarwydd i ni mewn testunau print neu mewn iaith ffurfiol (e.e cyfaddef, canmol, cyhoeddi). Gan nad ydym yn clywed y geiriau hyn yn ddyddiol, mae'n bwysig ein bod yn eu haddysgu a'u cysylltu â geirfa sydd eisoes yn gyfarwydd er mwyn datblygu geirfa gadarn a fydd yn y pendraw yn cefnogi darllen llwyddiannus (Beck et al., 2002).
Er mwyn addysgu'r geiriau hyn dilynir dull strwythuredig a ddefnyddir yn y Reading and Vocabulary Intervention (REVI; Duff et al., 2008), sy’n seiliedig ar Beck et al., 2002). Mae'n dilyn y camau canlynol:
Mae’r hyfforddwr yn cyflwyno'r gair a'i ddefnyddio mewn brawddeg.
Gofynnir i'r disgybl ailadrodd y gair.
Mae'r hyfforddwr a'r disgybl yn dadgodio'r gair gyda'i gilydd.
Mae’r hyfforddwr yn diffinio’r gair a'i gysylltu â geiriau cyfarwydd.
Gofynnir i'r disgybl yn diffinio'r gair.
Trafodir symudiad corfforol sy'n cyd-fynd â'r gair.
Darparir brawddeg enghreifftiol newydd gan yr hyfforddwr.
Gofynnir i'r disgybl ddefnyddio'r gair mewn brawddeg.
I orffen, gofynnir i'r disgybl ddweud y gair a darparu diffiniad unwaith eto.
Stori'r Dydd
Ar ôl cyflwyno'r ddau air newydd, bydd yr hyfforddwr yn symud ymlaen i gyflwyno stori'r dydd. Mae'r cyflwyniad yn un hyblyg sy'n golygu y gellir annog y disgyblion i ddarllen y stori yn uchel ac yn annibynnol, neu gall y disgybl a'r hyfforddwr rannu'r gwaith darllen. Yn ogystal, cynigr tri fersiwn o bob stori (anodd, anos ac anoddaf) er mwyn cyrraedd gallu pob disgybl. Mae’r storiâu hefyd yn cynnwys yr eirfa newydd a ddysgwyd, a roddir cyfle i’r disgybl weld y geiriau hyn o fewn testun ac atgyfnerthu eu dealltwriaeth.
Er mwyn cefnogi'r disgybl yn ystod y rhan yma, bydd yr hyfforddwr yn trafod a datgodio unrhyw eiriau anhysbys. Yn ogystal, anogir yr hyfforddwr i ofyn cwestiynau ynglŷn â chynnwys y testun i sicrhau dealltwriaeth ac ar ddiwedd y stori rhoddir cwis sy'n fwriadol hawdd er mwyn hybu hyder y disgyblion.
2. Gemau Sain
Yn yr adran hwn, mae'r disgyblion yn canolbwyntio ar ynganu'r seiniau (h.y., cyfuno'r ffonemau a gyflwynir yn unigol i gynhyrchu’r gair targed), bydd o hyd at bum gair yn cael ei gynnwys yn y wers. Mae’r weithgaredd hwn yn dilyn strwythur systematig. Mae ymwybyddiaeth ffonemau yn elfen allweddol o ddatblygiad llythrennedd. Mae’n cyfeirio at allu plentyn i adnabod a thrin yr unedau sain lleiaf mewn gair (ffonemau). Mae’r sgil hwn yn sail i ddadgodio geiriau wrth ddarllen, ac yn hanfodol ar gyfer sillafu. Gall ymwybyddiaeth ffonemau gryfhau dealltwriaeth o’r berthynas rhwng llythrennau a’u synau, gan alluogi plant i ddarllen yn fwy hyderus ac effeithiol.
3. Gemau Sillafu
Yma byddwn yn canolbwyntio ar sicrhau gwybodaeth am lythrennau'r wyddor a'u defnydd mewn geiriau (ar gyfer darllenwyr ac ysgrifenwyr iau neu lai medrus; gweler Byrne, 1998). Yna mae’r ffocws yn symud i edrych ar lythyren neu gyfuniad o lythrennau penodol (y llafariaid, y llythrennau dwbl, y llafariaid clwm, 'si') gan ddefnyddio gweithgareddau darllen ac adeiladu geiriau. Mae fersiynau anodd ac anoddaf wedi eu cynnwys er mwyn ateb gofynion unigol y plentyn ac ar ddiwedd yr adran bydd cwis syml i adolygu ac atgyfnerthu geirfa'r dydd.
4. Naratif
Gweithgredd olaf pob gwers ydy cyfansoddi naratif, neu adeiladu brawddegau. Mae pob gwers yn canolbwyntio ar un sgil allweddol (er enghraifft, treigladau, amrywio dechrau brawddegau, berfau, ansoddeiriau) ac mae'r ffordd y mae'r tasgau wedi'u strwythuro'n golygu bydd sgiliau'r plentyn yn cynyddu o un wythnos i'r llall. Unwaith eto mae fersiynau Anodd ac Anoddaf yn yr adran yma hefyd, yn dibynnu ar allu a sgiliau'r plentyn.
Mae’r adran hon yn parhau â thema’r adrannau eraill y wers gan alluogi’r disgybl i dynnu ysbrydoliaeth o’r stori a’r gweithgareddau blaenorol a defnyddio'r eirfa newydd a ddysgwyd ar ddechrau'r wers.
Trosolwg o'r Trideg Gwers
Cyfeirnodau
Beck, I. L., McKeown, M. G., & Kucan, L. (2002). Bringing Words to Life: Robust Vocabulary Instruction [Dod â Geiriau’n Fyw: Girfa Cyfarwydd Cadarn] (2il arg.). Guildford Press / Childcraft International.
Byrne, B. (1998). The Foundation of Literacy: The Child’s Acquisition of the Alphabetic Principle [Sylfeini Llythrennedd: Caffael Egwyddor Aleffaidd gan y Plentyn] (1af arg.). Psychology Press. https://doi.org/10.4324/9781315804484
Duff, F. J., Fieldsend, E., Bowyer-Crane, C., Hulme, C., Smith, G., Gibbs, S., & Snowling, M. J. (2008). Reading with Vocabulary Intervention: Evaluation of an Instruction for Children with Poor Response to Reading Intervention [Darllen gyda Ymyriad Eirfa: Gwerthusiad o Gyfarwyddyd i Blant gyda Ymateb Gwan i Ymyriad Darllen]. Journal of Research in Reading, 31(3), 319–336. https://doi.org/10.1111/j.1467-9817.2008.00376.x