Rhaglen Llythrennedd wedi ei selio ar ymchwil ar gael am ddim.
Bydd y tîm ymchwil yn mynychu'r ysgol i gynnig cefnogaeth i'r disgyblion a'r athro/athrawes.
Bydd yr aelod o staff penodedig yn derbyn hyfforddiant a chymorth ychwanegol.
Byddwn yn darparu adroddiad fer ar gyfer yr ysgol ar ddiwedd y rhaglen er mwyn eich galluogi i dracio cynnydd yr ysgol.
Byddwch yn darparu data gwerthfawr er mwyn ein galluogi i gefnogi ysgolion, athrawon a disgyblion yn y dyfodol.
Mae'r asesiadau a ddefnyddir yn y gwerthusiad wedi eu llunio i asesu'r sgiliau penodol a dargedir gan y rhaglen. Bydd eu harchwilio ymhellach yn ein galluogi i sefydlu y math o broffil sgiliau sy'n elwa fwyaf o'r rhaglen a'n galluogi i'w targedu yn y dyfodol.
Paratoi ar Gyfer y Wers
Cyn y wers
Dod o hyd i'r Teams.
Ychwanegu eich disgyblion yn 'Manage Team' gan ddefnyddio eu cyfeiriad e-bost Hwb.
Rhannu'r wers â'r disgyblion gan ddefnyddio'r opsiwn 'Distribute Page'.
Sicrhewch eich bod yn dilyn y camau yma ymlaen llaw.
Yn ystod y wers
Mewngofnodi i Hwb y disgybl ac agor OneNote.
Ceisiwch gadw'r gweithgareddau'n ddifyr a byr (dim mwy na 10 munud i bob adran).
Darparwch adborth bositif a chadarnhaol.
Trafodwch pob gweithgaredd â'r disgybl a'u hannog i feddwl ar lafar.