Mae'r awdurdod lleol wedi rhwystro nodweddion y rhaglen; beth ddylwn i ei wneud?
Cysylltwch â'r tîm gyda manylion yr awdurdod lleol (rhif ffôn a chyfeiriad e-bost) a'r math o gyfrifiadur neu ddyfais oeddech yn gweithio arno pan gawsoch eich rhwystro. Gellir hefyd ceisio defnyddio'r rhaglen RILL gartref i gadarnhau mai Wi-Fi yr ysgol sy'n rhwystro mynediad i weithgareddau penodol.
Pa mor aml ddylwn i drefnu gwersi?
Er mwyn sicrhau'r effaith fwyaf cadarnhaol, rydym yn argymell trefnu 2 wers yr wythnos.
Beth ddylwn i ei wneud os nad yw rhai agweddau ar y wers yn addas ar gyfer fy nisgybl?
Mae'r gwersi wedi'u cynllunio i ganiatáu addasu a gwahaniaethu’n hawdd. Felly, os nad yw gweithgaredd benodol yn addas ar gyfer y disgybl gallwch symleiddio neu gynyddu'r her yn ôl yr angen. Mae’r gwersi wedi’u cynllunio i’ch galluogi i bersonoli’r gwersi ar gyfer pob disgybl yn ôl yr angen, a chaniatáu iddynt ymateb gan ddefnyddio’r offer technoleg hygyrch yn y ffordd sydd fwyaf priodol i ddiwallu eu hanghenion. Gellir newid y gwersi yn hawdd a'u defnyddio wedi'u haddasu eto gyda disgyblion o allu tebyg.
Ni all fy nisgybl ddarllen y stori; beth ddylwn i ei wneud?
Os nad yw’r disgybl yn teimlo’n ddigon hyderus i ddarllen y stori gallwch gymryd tro i ddarllen, cyd-ddarllen, neu ganiatáu i’r disgyblion ganolbwyntio ar ddeall tra byddwch chi yn darllen y stori. Rydym hefyd wedi cynnwys fideo o bob stori a gellir anfon y fideos hyn gartref er mwyn galluogi'r disgybl i wrando ar y stori cyn dod i’r sesiwn. Gall hyn eu galluogi i ganolbwyntio ar fwynhau a deall y stori pan fyddant yn ei chlywed am yr eildro yn y dosbarth.
A all disgyblion weithio trwy'r gwersi yn gwbl annibynnol?
Nid ydym yn argymell bod myfyrwyr yn gweithio trwy'r holl weithgareddau yn annibynnol. Mae iaith lafar yn allweddol yn natblygiad llythrennedd a byddem yn eich annog i drafod yr eirfa, y stori, a defnyddio iaith lafar gyda’r disgybl cyn gymaint â phosibl.
Sawl disgybl ddylid ei gynnwys mewn grwpiau bychain?
Nid ydym yn gosod cyfyngiadau ar nifer y disgyblion mewn grwpiau bach, fodd bynnag, byddem yn argymell tua 4 disgybl ar y mwyaf ym mhob grŵp. Gall rhai disgyblion weithio’n well mewn sefyllfa un-i-un yn dibynnu ar eu hanghenion cymdeithasol a chyfathrebu. Rydym yn argymell eich bod yn ystyried gallu'r plant i gydweithio er mwyn caniatáu i bawb yn y grŵp siarad ac ymarfer defnyddio eu geirfa yn ystod y gwersi. Gall hyn fod yn bwysicach na grwpio disgyblion yn ôl lefel eu gallu llythrennedd.
Pam defnyddio Microsoft OneNote?
Rydym yn defnyddio OneNote gan ei fod yn caniatáu i ni gynnwys llawer o wahanol weithgareddau yn y gwersi y tu hwnt i'r hyn y mae platfformau fel Google Classroom yn eu cynnig. Mae'r rhain yn cynnwys y gallu i addasu gweithgareddau yn hawdd yn seiliedig ar anghenion unigol y disgybl, ac arfau arbennig i gynnwys pawb megis: recordydd llais, offeryn testun i leferydd ac offer ysgrifennu a lluniadu. Yn wahanol i blatfformau megis Google Classroom felly, mae Microsoft yn cynnig mwy o opsiynau hygrychedd yn y Gymraeg, ac felly yn fwy cynhwysol. Yn ogystal, mae'r rhaglen yn rhyngweithiol iawn ac yn caniatáu i'r athro a'r disgybl weithio ar yr un dudalen ar wahanol beiriannau. Mae gan pob disgybl sydd â chyfrif Office 365 fynediad i OneNote a gellir ei lawrlwytho am ddim neu ei ddefnyddio mewn porwyr gwe megis Edge a Chrome.
A allaf ddefnyddio Google Classroom a llwyfannau eraill i gyflwyno'r gwersi?
Mae deunyddiau’r gwersi ar Microsoft OneNote er mwyn caniatáu i’r disgyblion ddefnyddio offer hygyrchedd megis recordio llais, arddywediad, a darllenwyr sgrin yn y Gymraeg a’r Saesneg. Gellir defnyddio Google Classroom i anfon dolenni i'r gwersi OneNote i ddisgyblion, neu gellir cynnal y gwersi o bell gan ddefnyddio Google Meet.
Os oes genych unrhyw gwestiynnau pellach, cysylltwch â ni.
Gweler ein manylion cyswllt yn y nodiadau isod.