Crëwyd prosiect RILL yn 2020. Cyllidwyd gan Gyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol, fel ymateb i bandemig COVID-19. Crewyd rhaglen ymyrraeth fyr ar gyfer disgyblion (RILL o bell). Cyflwynwyd y rhaglen o bell i ddau gant o ddisgyblion yn eu cartrefi ledled Lloegr.
Ar ôl llwyddiant y prosiect cychwynnol hwn, cydweithiodd Prifysgol Bangor, gan gynnwys Canolfan Dyslecsia Miles, gydag arbenigwyr ymchwil llythrennedd o Brifysgol Rhydychen a Phrifysgol Efrog, a sicrhau cyllid gan Gymdeithas Nuffield (RILL Saesneg) a Llywodraeth Cymru (RILL Cymraeg).
Yn sgil pandemig COVID-19, mae ysgolion yn parhau i brofi ei ôl-effeithiau ar addysg a llesiant y disgyblion, ond teimlir yr effaith hon yn enwedig ym maes llythrennedd.
Mae llythrennedd yn allweddol i allu cyfathrebu ac yn hanfodol i lwyddiant addysgol. Mae sgiliau llythrennedd yn cynnwys y gallu i feddwl yn feirniadol, darllen, ysgrifennu, siarad a gwrando’n effeithiol. Mae meddu ar sgiliau llythrennedd cryf yn dylanwadu ar agweddau allweddol eraill, megis gwella cymdeithasu, yn ogystal â gwella rhagolygon ar gyfer cyfleoedd addysgol a chyflogaeth.
Mae ysgolion wedi gwneud ymdrechion sylweddol i leihau’r oedi yng ngwaith disgyblion ar sgiliau llythrennedd; fodd bynnag, mae chyllid cyfyngedig wedi gwneud y dasg yn heriol. Dyma lle y gall y prosiect RILL fod yn fuddiol i athrawon a rhienni…
Mae’r rhaglen RILL Cymraeg wedi’i chynllunio ar gyfer disgyblion ym Mlwyddyn 3 a 4 sy’n mynychu ysgolion cynradd prif ffrwd yng Nghymru ac sydd angen cymorth ychwanegol gyda’u sgiliau llythrennedd.
Mae'r rhaglen yn addas i blant sydd yn siarad Cymraeg fel iaith gyntaf ac fel ail iaith neu yn dysgu y Gymraeg.