Yn gynwysedig mae 30 o wersi difyr i'w trosglwyddo i'r dosbarth cyfan, dros gyfnod o bymtheg wythnos. Gan ddefnyddio Microsoft PowerPoint, mae strwythur y gwersi hyn yn annog trafodaeth ar y mat a rhyngweithiad â'r bwrdd gwyn. Mae pob gwers yn tua 30 i 40 munud o hyd ac yn seiliedig ar gynnwys gwersi grwpiau bychan RILL. Gwnaed hyn yn fwriadol fel bo'r disgyblion gwanaf eisoes yn gyfarwydd â'r pwnc ac yn teimlo'n fwy hyderus i gymryd rhan.
Enghraifft o gynnwys y gwersi dosbarth cyfan
Nod
Nod y prosiect hwn yw gwella sgiliau llythrennedd plant. Fel rhan o’r prosiect hwn, bydd yr holl ddisgyblion mewn dosbarth yn derbyn gwersi dosbarth cyfan a byddem yn defnyddio profion i asesu eu cynnydd. Bydd tîm y prosiect yn defnyddio’r data er mwyn archwilio i ba mor effeithiol yw’r deunyddiau dosbarth cyfan o ran gwella cyrhaeddiad disgyblion o ran darllen a sillafu.
Cyfranogaeth Ysgolion
Bydd gofyn i ysgolion wneud y canlynol:
Caniatáu amser i athrawon dosbarth a chymorthyddion gynnal a sgorio’r profion dosbarth darllen a sillafu (DS., bydd athrawon yn derbyn hyfforddiant ac adnoddau gan dîm y prosiect er mwyn cynnal a sgorio’r profion). Bydd y profion yn cymryd oddeutu 45 munud i’w cynnal yn y dosbarth, a thua 10 munud fesul plentyn i’w sgorio.
Rhoi amser i athrawon dosbarth ymgyfarwyddo â’r deunyddiau.
Caniatáu amser i athrawon gynnal y sesiynau yn yr amseroedd a ddynodwyd ar gyfer llythrennedd.
Llenwi taenlen pro-forma yn cynnwys sgorau crai pob disgybl sy’n cymryd rhan yn yr asesiadau, eu rhywedd, mis a blwyddyn eu genedigaeth. Caiff enwau’r plant a’u hysgolion eu cyfnewid am godau a grëwyd ar hap, gan sicrhau bod y data yn gwbl gyfrinachol.
Yr ysgolion fydd yn gweithredu fel y rheolwyr data.