Mae'r fersiwn Gymraeg o RILL yn canolbwyntio ar batrymau sillafu a gramadeg sy'n benodol i'r iaith Gymraeg. Yn ogystal, crëwyd y storïau yn arbennig ar gyfer y rhaglen gan awduron Cymraeg.
Prif Nodau RILL Cymraeg
Datblygu a hybu sgiliau iaith a llythrennedd disgyblion
Gwerthuso rhwyddineb ac effeithiolrwydd o weithredu ymyrraeth RILL mewn ysgolion
Cydweithio â chynorthwywyr dosbarth i feithrin eu sgiliau addysgu llythrennedd a TGCH
Cliciwch ar y adrannau isod i ddysgu mwy am brosiect RILL Cymraeg, y rhaglen grwpiau bach, trosolwg o’r rhaglen ddosbarth gyfan (sy’n cael ei datblygu ar hyn o bryd), gwersi cartref gyda chysylltiad fideo, a mwy.
Is-adrannau RILL Cymraeg
Rhagor o Wybodaeth
Sylwch os gwelwch yn dda: Mae’r broses recriwtio ar gyfer y prosiect hwn bellach wedi dod i ben. Ar hyn o bryd, mae data'r gwerthusiad yn cael eu prosesu gyda'r bwriad o'u cyhoeddi ymhen amser. Byddwn yn rhannu’r canlyniadau ar y safle hwn cyn gynted ag bo modd.
Os oes gennych ddiddordeb mewn cyfleoedd ymchwil yn y dyfodol, neu os hoffech gael mynediad at ddeunyddiau RILL, cysylltwch â ni.