Gwahoddwn holl ysgolion RILL i gymryd rhan mewn gwerthusiad o'r rhaglen.
Mae'r gwerthusiad yn broses strwythuredig sy’n asesu pa mor effeithiol yw’r rhaglen o ran gwella sgiliau darllen, geirfa, a darllen a deall disgyblion. Mae’n ystyried pa mor dda mae’r rhaglen yn gweithio, sut mae’n cael ei chyflwyno, a pha effaith mae’n ei chael ar ddysgwyr. Mae hyn yn cynnwys dadansoddi cynnydd mewn sgiliau llythrennedd y disgyblion.
Nodir fod dim gorfodaeth ar unrhyw ysgol sy'n derbyn hyfforddiant ac adnoddau RILL i gymryd rhan yn y gwerthusiad.
Sut Fyddwn yn Gwerthuso'r Rhaglen??
Er mwyn ein cynorthwyo wrth werthuso effeithiolrwydd y rhaglen, gofynnwn i ysgolion adnabod hyd at 16 o ddisgyblion i gymryd rhan mewn treial â rhestr aros rheoledig (wait-list control trial). Golygai hyn y byddwn yn creu dau grŵp o 8; Grŵp A a Grŵp B. Byddwn yn gofyn am ganiatâd gan rhieni/gwarchodwyr pob disgybl fydd yn cymryd rhan.
Grŵp A
8 o ddisgyblion
Derbyn RILL yn syth
Grŵp B
8 o ddisgyblion
Derbyn RILL ar ôl grŵp A
Tra bydd Grŵp A yn derbyn y rhaglen bydd Grŵp B yn derbyn y cwricwlwm traddodiadol yn unig.
Mae creu Grŵp B (y grŵp aros) yn hanfodol gan ei fod yn darparu grŵp cymhariaeth sydd ddim wedi derbyn ymyrraeth RILL. Bydd hyn yn caniatáu i ni gymharu effeithiolrwydd y cwricwlwm traddodiadol yn unig â’r cwricwlwm traddodiadol wedi’i gyfuno â gwersi RILL. Mae’r treial wedi’i ddylunio i brofi’n ddibynadwy a yw’r rhaglen yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol. Gan fod y grwpiau wedi’u dewis ar hap, gall ymchwilwyr sicrhau bod y canlyniadau’n deg ac nad ydynt wedi’u dylanwadu gan ffactorau eraill.
Byddwn yn asesu’r un ar bymtheg disgybl dair gwaith dros gyfnod y prosiect. Yn ystod yr asesiadau hyn, byddwn yn defnyddio profion llythrennedd safonol i fesur sgiliau llythrennedd y disgyblion. Gweinyddir y profion gan athro neu athrawes RILL eich plentyn.
Ar ddiwedd y flwyddyn, byddwn yn darparu adroddiad fer ar ddatblygiad yr ysgol ac disgyblion unigol (wedi'i anonomeiddio). Bydd yr adroddiad yn rhoi canlyniadau dros dri pwynt amser, ac yn cynnwys scoriau cywirdeb darllen geiriau Cymraeg a Saesneg a hefyd scoriau adnabod geirfa haen dau Cymraeg.
Nodir na fydd y profion hyn yn cael eu defnyddio fel offerynnau i ddiagnosio anawsterau llythrennedd gan yr ymchwilwyr nac yr ysgol.
Bydd y staff yn derbyn hyfforddiant ar wyddoniaeth darllen ac ar sut i gyflwyno gwersi RILL.
Bydd y tîm yn cydweithio â'r ysgol i ddyrannu'r disgyblion ar hap i ddau Grŵp A (arbrofol) a Grŵp B (aros).
Bydd yr athro/athrawes RILL ac aelod o'r dîm RILL yn gweinyddu'r asesiadau i grwpiau A a B. Bydd yr asesiadau hyn yn ein galluogi i sefydlu lefel sgiliau llythrennedd gwaelodlin y disgyblion.
Bydd athro/athrawes RILL yn trosglwyddo'r rhaglen i'r Grŵp A ac yn cadw log byr o'r gwersi. Bydd y tîm ar gael i ddarparu cymorth parhaol drwy gynnal sesiynau galw heibio ar lein yn wythnosol ac yn ymweld â'r ysgol yn achlysurol. Bydd Grŵp B yn derbyn y cwricwlwm traddodiadol.
Bydd yr athro/athrawes RILL ac aelod o'r tîm yn gweinyddu'r holl asesiadau i Grŵp A a B eto. Bydd hyn yn ein galluogi i adnabod y sgiliau sydd wedi gwella fwyaf yn Grŵp A a'u cymharu â gwelliannau a wneir wrth dderbyn y cwricwlwm traddodiadol yn unig (Grŵp B).
Bydd yr athro/athrawes RILL yn trosglwyddo'r rhaglen i grŵp B ac yn cadw log byr o'r gwersi. Yn ystod y cyfnod hwn bydd y tîm ar gael i ddarparu cymorth parhaol drwy gynnal sesiynau galw heibio ar lein yn wythnosol ac yn ymweld â'r ysgol yn achlysurol.
Gweinyddir yr asesiadau i Grŵp A a B unwaith eto gan athro/athrawes RILL ac aelod o'r tîm. Bydd hyn yn ein galluogi i adnabod y sgiliau sydd wedi datblygu fwyaf.
Ar ddiwedd y rhaglen, bydd y tîm yn darparu adroddiad fer ar gyfer yr ysgol fydd yn amlinellu'r sgiliau a ddatblygwyd.