Beth yw RILL?
Yn gynwysedig yn y rhaglen hon mae 30 o wersi a luniwyd i gefnogi a datblygu sgiliau iaith a llythrennedd i blant o 7 - 9 oed. Lluniwyd y gweithgareddau yn arbennig i ddatblygu'r sgiliau llythrennedd sy'n hanfodol ar gyfer darllen ac ysgrifennu'n llwyddiannus:
Ymwybyddiaeth ffonolegol
Iaith lafar
Geirfa
Gwybodaeth am lythrennau a'u synau
Patrymau sillafu iaith-benodol
Derbyn rhaglen sydd wedi ei seilio ar dystiolaeth ac sy'n datblygu sgiliau iaith a llythrennedd yn effeithiol
Storïau a gweithgareddau difyr
Datblygu sgiliau a hyder mewn llythrennedd
Cynorthwyo disgyblion ag anawsterau llythrennedd yn y Gymraeg i 'ddal i fyny'
Gellir addasu'r gwersi yn hawdd er mwyn cyrraedd anghenion pob disgybl
Mae gwersi RILL wedi’u cynllunio i fod yn hwyl ac ymgysylltiol, gan ddefnyddio storïau a gweithgareddau rhyngweithiol i annog plant i ddatblygu eu sgiliau darllen ac ysgrifennu mewn ffordd sy’n cadw eu diddordeb.
Sut alla i gefnogi fy mhlentyn?
Gallwch gefnogi eich plentyn drwy annog iddynt siarad am y geiriau a’r storïau y mae’nt yn eu dysgu bob wythnos. Gofynnwch iddynt esbonio unrhyw eirfa newydd yn ei geiriau ei hunain a defnyddio’r geiriau hynny mewn brawddegau yn ystod sgyrsiau dyddiol.
Gall ofyn i athrawes eich plentyn os gallech gael mynediad at yg weithgareddau gwaith cartref.
Yn bwysicaf oll, dangos diddordeb a dathlu eu cynnydd.
Nodwch os gwelwch yn dda nad oes gorfodaeth i'ch plentyn gymryd rhan yn y gwerthusiad er mwyn derbyn gwersi RILL. Cewch dynnu eich plentyn yn ôl o'r prosiect ymchwil ar unrhyw adeg ac mae gan eich plentyn hawl i dynnu nôl o unrhyw weithgaredd pe dymunwch. Os ydi eich plentyn yn tynnu'n ôl o'r ymchwil, gallent barhau i dderbyn gwersi RILL ac elwa o'r deunyddiau.