Gwyddom fod athrawon yn aml iawn yn siaradwyr da! Ond yn anaml y byddwn yn neilltuo amser i oedi a rhannu'r gwaith da a wnawn. Mae Sgwrs Partneriaeth yn gasgliad o bodlediadau sy'n cipio sgyrsiau o bob cwr o'n rhanbarth ynghylch addysgu a dysgu, ac yn rhannu'r gwaith gwych sy'n mynd rhagddo yn ein hysgolion. Os hoffech gymryd rhan yn ‘Sgwrs Partneriaeth’, byddem wrth ein bodd yn clywed oddi wrthych.
Cysylltwch â jenna.gravelle@partneriaeth.cymru
Wales Collaborative for Learning Design with Ysgol Greenhill, Pembroke Dock Community School and Penyrheol Comprehensive School
Mae Cydweithredfa Cymru ar gyfer Dylunio Dysgu (WCLD) yn brosiect a ariennir gan Lywodraeth Cymru. Mae'n herio ysgolion i feddwl y arloesol am y modd y maent yn cynllunio dysgu a'r modd y gall technoleg ddigidol gefnogi hyn.
Research & Enquiry across the school with Chris Shaw, Assistant Headteacher, Bryntawe
Mae'r Pennaeth Cynorthwyol a Phennaeth Saesneg yn Ysgol Gyfun Gymraeg Bryn Tawe yn Abertawe yn rhannu taith yr ysgol i ddatblygu ymchwil ac ymholiad ledled yr ysgol. Wedi'i recordio yn Gymraeg ac yn Saesneg.
Creativity and Innovation with Professor Christian Byrge
Mae'r Athro o Ddenmarc, Christian Byrge, yn trafod sgiliau hanfodol creadigrwydd ac arloesedd, sy'n sail i'r pedwar diben ac y mae angen eu meithrin yn ein hystafelloedd dosbarth mewn amrywiaeth eang o'n dulliau dysgu ac addysgu. Wedi'i recordio yn Saesneg.
Metacognition with educational trainer and consultant Mike Gershon
Mae'r hyfforddwr a'r ymgynghorydd addysgol, Mike Gershon, yn rhannu ei syniadau am fetawybyddiaeth, ochr yn ochr â rhai o'r ffyrdd symlaf, mwyaf effeithiol y gall unrhyw ysgol ddechrau meddwl a siarad am strategaethau metawybyddol, a'u rhoi ar waith yn yr ystafell ddosbarth.
NPEP with Jai Lewabe, Head of Humanities, Cefn Hengoed
Athro uwchradd ar secondiad sydd ar hyn o bryd yn addysgu Blwyddyn 6 yn Ysgol Gynradd Gellifedw yn Abertawe. Mae Jai yn siarad am ei brofiadau o newid o'r uwchradd i'r cynradd, ac yn amlinellu'r modd y mae'r cyfle hwn wedi siapio ei Ymholiad PYPC 2022-23. Wedi'i recordio yn Saesneg.