Disgrifir y Maes Dysgu a Phrofiad Iechyd a Llesiant yn un sy’n seiliedig ar lythrennedd corfforol. Nododd arweinydd Partneriaeth ar gyfer y Maes hwn, Sophie Flood, fod yna angen dysgu proffesiynol ar gyfer ymarferwyr mewn ysgolion.
Cydweithiodd Sophie â Rachel Hellier, Arweinydd Iechyd a Llesiant yn Ysgol Gynradd Gymunedol St Thomas, i ddatblygu rhaglen hyfforddi ddeuddydd a oedd wedi’i hanelu at ddatblygu arferion addysgu sy’n galluogi dysgwyr i ddod yn ysgogwyr gydol oes, yn enwedig yn yr ystafell ddosbarth. Cafodd y sesiynau eu datblygu a'u cynllunio i ddarparu cyfleoedd ymarferol i wella agweddau ymarferwyr at lythrennedd corfforol, ac maent yn addas ar gyfer unrhyw athro yn y sector cynradd.
Mae'r diwrnod cyntaf yn canolbwyntio ar beth yw llythrennedd corfforol a'r modd i'w ymgorffori yn Cwricwlwm i Gymru. Gydol y dydd, cyflwynir cyfranogwyr i bwysigrwydd llythrennedd corfforol yn ystod plentyndod cynnar, ac maent yn cymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau corfforol sy'n darparu ffyrdd o sicrhau bod llythrennedd corfforol yn cael ei ddwyn i mewn i'r ystafell ddosbarth ac yn rhan annatod o'r diwrnod ysgol. Mae'r cyfranogwyr yn creu cynllun gweithredu i'w roi ar waith yn eu hysgolion. Yn ystod yr ail ddiwrnod, mae’r cyfranogwyr yn rhoi adborth o’u cynlluniau gweithredu, yn edrych ar gynllunio sy’n seiliedig ar ddata, ac yn mynd ati i gynllunio'r modd i roi llythrennedd corfforol ar waith ledled yr ysgol gyfan.
Cliciwch yma i ddarllen am y modd y mae Ysgol Gynradd Wirfoddol a Reolir yr Eglwys yng Nghymru Dinbych-y-pysgod wedi treialu’r strategaethau llythrennedd corfforol o fewn lleoliad meithrin.
Hoffai Partneriaeth ddiolch i bennaeth Ysgol Gynradd Gymunedol St Thomas am gefnogi’r cydweithrediad ac i bennaeth a staff Ysgol Gynradd Wirfoddol a Reolir yr Eglwys yng Nghymru Dinbych-y-pysgod am gyfrannu at yr adnodd rhanbarthol sy'n tyfu.