Y Gymraeg: Astudiaeth Achos y Siarter Iaith
Rhesymeg
Mae’r Siarter Iaith yn cyfrannu at strategaeth Cymru 2050 trwy annog ac ysbrydoli plant a phobl ifanc i ddefnyddio a mwynhau’r Gymraeg ymhob agwedd o’u bywydau, mewn sefyllfaoedd anffurfiol. Mae’r Siarter Iaith ar gyfer pawb ac mae gan bob aelod o’r gymuned ysgol rôl i chwarae.
Nod y Siarter Iaith yw annog defnydd o’r iaith Gymraeg yn gymdeithasol mewn ysgolion ar draws Cymru.
Mae’r Fframwaith Siarter Iaith yn sicrhau cysondeb ar draws Cymru, gan hybu a chynyddu’r defnydd o’r Gymraeg gan blant a phobl ifanc yn yr ysgol a’r gymuned leol.
Er mwyn cyflawni’r weledigaeth hon, gofynnir i ysgolion ddilyn gwerthoedd y Siarter Iaith, sef:
bod pawb yn mwynhau siarad Cymraeg;
bod pawb yn falch o’r iaith Gymraeg a’r Siarter Iaith ac yn perchnogi holl elfennau’r rhaglen;
bod pawb yn cydweithio i hybu’r Gymraeg tra’n gweithredu’r Siarter Iaith;
bod pawb yn dathlu llwyddiant, fel unigolion, ysgolion, neu gymunedau, ar bob lefel.
Bydd llwyddiant yn edrych yn wahanol ymhob sefydliad, gan fod tirlun ieithyddol Cymru yn amrywio’n eang o ardal i ardal, ysgol i ysgol ac ymysg gwahanol gylchoedd cymdeithasol.