Mae Ysgol Tregŵyr yn ysgol 11-18 oed sy’n gwasanaethu ardal ogleddol penrhyn Gŵyr yn Abertawe. Mae'r ysgol yn llawn hanes ac yn ddiweddar dathlodd ei phen-blwydd yn 125 oed. Mae gan yr ysgol tua 1,180 o ddisgyblion ar y gofrestr, ac mae oddeutu 150 ohonynt yn chweched dosbarth yr ysgol.
Mae gan Ysgol Tregŵyr fodel partneriaeth clwstwr cadarn â Phartneriaeth Ysgolion Gogledd Gŵyr. Mae arweinwyr digidol pob rhan o’r clwstwr yn cwrdd sawl gwaith y flwyddyn i gydweithio ar fentrau digidol ac elwa o berthnasoedd gwaith cadarn.
Arferai’r ysgol fod yn ysgol arloesi ddigidol a oedd yn cydweithio ar y Fframwaith Cymhwysedd Digidol gwreiddiol a Cwricwlwm i Gymru.
Cydlynydd y Fframwaith Cymhwysedd Digidol am chwe blynedd
Wedi gweithio'n answyddogol cyn hynny am flwyddyn a hanner
Roeddem yn ysgol arloesi, felly bûm yn gweithio ar y cwricwlwm newydd ac yn mynychu cyfarfodydd amrywiol ledled Cymru trwy gydol 2018 a 2019
Rwyf wedi gweithio yn Ysgol Gyfun Tregŵyr ers wyth mlynedd
Rwy'n addysgu Cyfrifiadureg hyd at Safon Uwch ac Astudiaethau Cyfrifiadur yng Nghyfnod Allweddol 3
Arwain grŵp Arweinwyr Digidol Partneriaeth Gogledd Gŵyr
Mae’r astudiaeth achos yn dilyn fformat y strategaeth sgiliau trawsgwricwlaidd chwe cham a rannwyd yn nigwyddiad y Fframwaith Cymhwysedd Digidol a gynhaliwyd ym mis Chwefror 2023 (Defnyddiwyd y cyflwyniad ar y dde yn y digwyddiad).