Daeth grŵp bach o athrawon ac ymgynghorwyr awdurdodau lleol ynghyd i greu grŵp rhanbarthol i ddatblygu a rhannu arfer orau mewn dysgu ac addysgu ar gyfer cynaliadwyedd yn Cwricwlwm i Gymru.
Ffurfiwyd grŵp yn cynnwys swyddogion yr ALl ac ymarferwyr o chwe ysgol i archwilio’r egwyddor datblygu cynaliadwy [1] sy’n bodoli yn fframwaith Cwricwlwm i Gymru. Cymerodd y grŵp ran mewn sesiwn gweithdy a oedd yn archwilio'r ddealltwriaeth gyfredol o gynaliadwyedd mewn ysgolion, llenyddiaeth gyfredol ar ddatblygu ysgolion cynaliadwy, ac arferion cyfredol mewn systemau addysg eraill.
Rhannodd aelodau'r grŵp syniadau, ond roeddent yn cydnabod hefyd fod gofyn i’w dulliau unigol, o fewn eu hysgol eu hunain, ganolbwyntio ar newid ymddygiadau ac agweddau ymarferwyr a dysgwyr. Byddai gwneud y newidiadau hyn yn ychwanegu gwerth at gymuned yr ysgol. Fodd bynnag, mae newid cynaliadwy yn gofyn am ymrwymiad hirdymor i newid ymddygiad eraill. Roedd yn amlwg o’r gweithdy cyntaf na ellid cyflawni hyn trwy brosiect untro neu gyfres ar wahân o wersi.
Roedd angen i'r grŵp hefyd fod yn glir o ddechrau'r gwaith hwn fod ganddynt gyd-ddealltwriaeth o gynaliadwyedd a sut a pham y mae wedi'i ymgorffori yn Cwricwlwm i Gymru.
Mae ‘Sgiliau sy’n Greiddiol i’r Pedwar Diben’ wrth galon y Cwricwlwm Cymreig newydd ac yn seiliedig ar y dymuniad i greu gwahanol fathau o werth mewn cymdeithas. Mae’r nod hwn yn cyd-fynd â llesiant a meddwl adfywiol, sy’n arbennig o bwysig wrth ystyried materion cynaliadwyedd a'r newid yn yr hinsawdd, heb sôn am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (2015), sy’n torri tir newydd yng Nghymru.
(Penaluna, 2021)
Mae Cwricwlwm i Gymru yn datgan ei bod yn bwysig i ddysgwyr, trwy gyfrwng y sgiliau sy’n rhan annatod o’r pedwar diben, ddechrau gwneud y canlynol:
‘adnabod, defnyddio a chreu mathau gwahanol o werthoedd. Yn y cyd-destun hwn, mae gwerth yn golygu arwyddocâd a phwysigrwydd mewn ystod o gyd-destunau, gan gynnwys gwerth ariannol, diwylliannol, cymdeithasol ac o ran dysgu’.
Mae hyn yn golygu y dylai profiadau dysgu greu gwerth a phwysigrwydd, neu, o fynegi hyn mewn ffordd arall, feddu ar bwrpas. Mae creu gwerth trwy ddysgu yn cryfhau diben craidd addysg, a bydd y dysgwyr yn cael gwell profiad, dealltwriaeth ddyfnach a lefelau uwch o ymgysylltu a mwynhad. Bydd cynnydd yng nghymhelliant y dysgwr yn deillio o'r ymdeimlad o ystyr sy'n gysylltiedig â gwneud rhywbeth a allai ddod yn werthfawr i rywun arall, gan symud o 'rydym yn dysgu hyn am ...’ i sefyllfa o 'sut y gallai'r dysgu hwn fod yn werthfawr i ...’
Dylai adfywio fod wrth wraidd system addysg newydd. Byd cynaliadwyedd, pobl fentrus ac arloeswyr yw ysgogwyr newid, ac mewn byd sy'n newid yn barhaus, mae arnom angen y gallu i ymdrin â materion nad ydym wedi meddwl amdanynt eto.
(Penaluna, 2021)
Mae’r 17 Nod Datblygu Cynaliadwy yn alwad frys i bob gwlad weithredu mewn partneriaeth fyd-eang. Mabwysiadwyd y rhain yn 2015 gan holl Aelod-wladwriaethau’r Cenhedloedd Unedig yn rhan o Agenda 2030 ar gyfer Datblygu Cynaliadwy. Maent yn cydnabod bod yn rhaid i'r gwaith o ddileu tlodi a ffurfiau eraill ar amddifadedd fynd law yn llaw â strategaethau sy’n gwella iechyd ac addysg, yn lleihau anghydraddoldeb, ac yn sbarduno twf economaidd – a hyn i gyd ar yr un pryd â mynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd a gweithio i warchod ein cefnforoedd a’n coedwigoedd.
Bu’r 17 nod hyn yn gatalydd ar gyfer y trafodaethau grŵp ar le a sut y gallai datblygu profiadau cwricwlaidd feithrin meddwl am gynaliadwyedd mewn modd dilys yn achos dysgwyr mewn ysgolion a lleoliadau. Maent hefyd yn amlwg yn cefnogi tri philer cynaliadwyedd, sef cynaliadwyedd cymdeithasol, amgylcheddol ac economaidd.
Roedd archwilio’r 17 Nod Datblygu Cynaliadwy, a'r modd y gallent gefnogi dysgwyr i greu’r gwerth sy’n cyd-fynd â’r sgiliau sy’n rhan annatod o bedwar diben Cwricwlwm i Gymru, wedi darparu ffocws i’r grŵp gyd-awduro dull gweithredu ar gyfer y gwaith a fyddai’n cael ei wneud mewn ysgolion.
Roedd llunio canllaw gair i gall ar gyfer y gwaith yn golygu y byddai ffocws yr ysgol yn cael ei lywio gan anghenion y dysgwyr, y gymuned a chreu gwerth, yn hytrach na bod y ffocws ar gynnyrch neu ganlyniad penodol.
Darparodd diwrnod arall o gynllunio amser a lle i’r grŵp archwilio modelau dysgu ac addysgu, yn ogystal ag amser i gynllunio ar y cyd. Ystyriwyd y 'model pen, calon a llaw' fel dull o gefnogi'r dysgwyr.
Mae'r addysgeg gyfannol o ymgysylltu'r pen, y dwylo a'r galon yn adennill persbectif personol sy'n dwyn cymuned i'r cwricwlwm a'r byd go iawn i fywydau ein hysgolion a'n myfyrwyr. Mae astudiaethau wedi dangos nad yw myfyrwyr yn cymryd rhan weithredol yn eu profiad o ysgol (Puge a Bergin, 2005), ond y gellir trwytho cariad, diben a dilysrwydd i'r cwricwlwm trwy gyd-destun lle. (Singleton, 2015)
Mae'r model beic yn gynrychiolaeth o addysg newid hinsawdd gyfannol sy'n gweithio'r un mor dda wrth ystyried dysgu ar gyfer cynaliadwyedd. Roedd yn bwynt cyfeirio defnyddiol a gefnogodd y grŵp i gysylltu llawer o’u syniadau'n ôl â nodweddion pedwar diben Cwricwlwm i Gymru.
Cantell, H., Tolppanen, S., Aarnio-Linnanvuori, E. & Lehtonen, A. 2019.
Ochr yn ochr â’r model hwn, roedd gan y grŵp hefyd fynediad at y gynrychiolaeth o'r Nodau Datblygu Cynaliadwy mewn diagram o'r tri philer cynaliadwyedd.
Trwy ei gyfarfod Cynhadledd y Partïon (COP) blynyddol, penderfynodd Tîm Gwyrdd Pennar gael ffocws cymunedol i'w waith a gwella bioamrywiaeth yr ardal leol.
Gan weithio gydag ymddiriedolwyr Neuadd Pennar, dechreuodd y dysgwyr gynllunio a dylunio gardd gymunedol ar dir y neuadd. Defnyddiodd y dysgwyr lais y disgybl a holiaduron i ystyried anghenion y gymuned. Gyda chymorth awdurdod y Parc Cenedlaethol, bu'r dysgwyr yn arolygu tir y neuadd ac yna'n creu cynlluniau ar gyfer yr ardd gymunedol. Mae gwaith wedi dechrau ar ddod â'r cynlluniau'n fyw.
Roedd y disgyblion wedi ymgysylltu â'r prosiect a mwynhau, ac yn gallu gweld pwrpas gwirioneddol i'w dysgu
Bu dosbarthiadau/grwpiau eraill yn cefnogi'r prosiect ac yn ymgymryd â mwy o ddysgu yn y gymuned a dysgu ar gyfer pontio'r cenedlaethau
Ysbrydolwyd y disgyblion i godi arian yn ystod eu hamser eu hunain ar gyfer y prosiect
Ar hyn o bryd, mae'r dosbarthiadau'n llunio llyfrau ryseitiau i godi arian ar gyfer Ystafelloedd Cynnes Neuadd Pennar
Rhoddodd Prosiect Big Bocs Bwyd gyfle i'r ysgol edrych ar faterion caffael bwyd a gwastraff bwyd. Mae'r dysgwyr yn dod yn fwy llythrennog mewn bwyd trwy dyfu, coginio a dysgu am fwyd. Cafodd yr ysgol ei chydnabod am ei chyfraniad i arferion cynaliadwy yn y rhestr o 100 o Ysgogwyr Newid Cenedlaethau'r Dyfodol.
Mae 'Dewiniaid Gwastraff' yr ysgol wedi gweithio ar draws yr ysgol i leihau gwastraff. Dechreuodd y dysgwyr archwilio ffyrdd o fynd i'r afael â gwastraff bwyd, ond maent bellach wedi ystyried ffyrdd eraill o leihau gwastraff. Mae siop cyfnewid dillad, Preloved and Proud, nid yn unig wedi helpu i leihau gwastraff, ond hefyd wedi cefnogi'r gymuned.
Yn rhan o ffocws ar ddatblygu i fod yn ysgol bro, agorwyd ‘Cwtch Craigfelen’ yn 2023. Mae'r gofod ar gael i grwpiau a sefydliadau gynnal digwyddiadau yn y gymuned. Mae grwpiau magu plant, grwpiau Mam a'i Phlentyn a'r Caffi Dydd Gwener yn helpu i feithrin perthnasoedd cymunedol cryf.
Fel cymuned ysgol, maent wedi nodi meysydd lle gallant leihau gwastraff. Mae siop cyfnewid gwisg ysgol, siop cyfnewid teganau a bwrdd rhannu ymhlith rhai o'r ffyrdd y maent wedi bod yn fwy cyfrifol yn eu defnydd o nwyddau. Mae tyfu bwyd a dysgu am fwyd, ynghyd â Chlwb Coginio Teuluol, wedi cefnogi teuluoedd i goginio bwyd iach ar gyllideb ac yn galluogi plant i weld pleser coginio a thyfu.
Gan ddefnyddio egwyddorion economi gylchol mae’r ysgol wedi llwyddo i:
Ddylunio gwastraff a llygredd allan o systemau
Cadw cynhyrchion a deunyddiau mewn defnydd
Adfywio systemau naturiol.
Mae bellach yn bwriadu archwilio'r modd y gellir ymgorffori cynaliadwyedd ledled y cwricwlwm.
Roedd yr ysgol eisoes ar daith i ddatblygu ei dysgu yn yr awyr agored ar draws y cwricwlwm. Mae cae’r ysgol, Maes Meithrin, yn darparu amgylchedd dysgu cyfoethog a chyffrous i’w dysgwyr. Roedd cyfranogiad yr ysgol yn y 'Prosiect Gwreiddiau' wedi eu cefnogi i greu mannau ar gyfer tyfu yn yr ardal awyr agored. Mae hyn yn cynnwys ardal ar gyfer llysiau, perllan a thwnnel polythen. Galluogodd prosiect perthi i'r dysgwyr ddatblygu dealltwriaeth o bwysigrwydd coridorau bywyd gwyllt a gwella bioamrywiaeth eu gofod.
Mae’r ysgol wedi cyflwyno nodau datblygu cynaliadwy’r Cenhedloedd Unedig i’w chwricwlwm. Cefnogir athrawon i gynnwys yr 17 Nod Datblygu Cynaliadwy yn eu gwaith cynllunio testun. Mae’r nodau byd-eang a chynaliadwyedd yn themâu allweddol sydd wrth galon cwricwlwm yr ysgol. Mae crynodeb cwricwlwm yr ysgol yn pwysleisio’n glir y modd y mae cymuned yr ysgol gyfan yn gwerthfawrogi pwysigrwydd dysgu ar gyfer cynaliadwyedd.
Yn dilyn y sesiynau gweithdy, cyflawnodd yr athro archwiliad o gwricwlwm yr ysgol ar gyfer y Nodau Datblygu Cynaliadwy. Meithrinodd hyn ymwybyddiaeth ymhlith staff o 17 Nod Datblygu Cynaliadwy y Cenhedloedd Unedig, a’u hannog i chwilio am gyfleoedd i amlygu’r nodau hyn yn y cwricwlwm.
Rhoddodd yr ysgol gefnogaeth hefyd i bum aelod o staff ddilyn hyfforddiant ar lythrennedd carbon. Arweiniodd hyn at ddatblygu gwaith gyda phartneriaid allanol, megis Energy Sparks a Cymbrogi.
Mae tîm Gweithredu ar y Newid yn yr Hinsawdd yr ysgol wedi gweithio ar draws yr ysgol i ystyried ffyrdd o leihau ei hôl troed carbon. Mae'r dysgwyr wedi lleihau gwastraff bwyd, wedi defnyddio data o Energy Sparks i leihau'r defnydd o ynni ac wedi gwahardd cyllyll a ffyrc plastig yn llwyddiannus yn yr ysgol.
Mae datblygu cysylltiadau cymunedol cryf yn hanfodol i lwyddiant prosiectau.
Mae archwilio Nodau Datblygu Cynaliadwy'r Cenhedloedd Unedig yn cefnogi ymarferwyr a dysgwyr i ddeall yr egwyddor datblygu cynaliadwy.
Mae dyfalbarhad yn ofynnol i gael caniatâd tirfeddianwyr neu landlordiaid ar gyfer prosiectau.
Mae ar ymarferwyr angen cymorth wrth weithio mewn amgylcheddau gwahanol, ac mae'n ofynnol iddynt fod yn dawel eu meddwl ynghylch disgwyliadau.
Gwneud cysylltiadau’r cwricwlwm yn eglur i arweinwyr ac ymarferwyr.
Rhoi cyfle i'r dysgwyr wneud penderfyniadau ac ysgwyddo cyfrifoldeb am y prosiectau.
Peidio â cheisio mynd ati ar eich liwt eich hun.
Bod yn garedig wrthych eich hun, ac yn realistig o ran faint o amser y mae ei angen i ddatblygu prosiect. Sicrhau bod eich ymrwymiad yn gynaliadwy.
"Sgwrs anhygoel drwyddi draw gan Tom am Cwricwlwm i Gymru a’i gysylltiadau â chynaliadwyedd. Defnydd gwych o ddyfyniadau gan ryw @AndyPena hefyd. Yn dilyn sgwrs Tom, roeddwn yn llawn brwdfrydedd eto ynghylch y cwricwlwm newydd a’r cyfle sydd gennym ar hyn o bryd!"
"Rhwydwaith rhanbarthol hynod o ddefnyddiol ac iddo botensial cadarnhaol ar gyfer datblygu yn y dyfodol."
"Roedd y sesiwn yn gyfle gwerthfawr i gysylltu’n bersonol â swyddogion ac ymarferwyr yr awdurdod lleol ar lefel ranbarthol. Darparodd y sesiwn amser a lle i rannu a thrafod yr edefyn cyffredin o addysgu a dysgu ar gyfer cynaliadwyedd. Roedd yn gyfle i ystyried y Nodau Datblygu Cynaliadwy mewn perthynas â darpariaeth bresennol yr ymarferwyr ar gyfer y cwricwlwm, a, thrwy drafodaethau pellach, rhannwyd hefyd nifer o gysylltiadau â chyrff anllywodraethol a phartneriaid allanol ar lefel leol."
[1]Geirfa – Cwricwlwm i Gymru – yr egwyddor datblygu cynaliadwy – gweithredu mewn modd sy'n ceisio sicrhau bod anghenion y presennol yn cael eu diwallu heb beryglu gallu cenedlaethau'r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion eu hunain.
Cantell, H., Tolppanen, S., Aarnio-Linnanvuori, E. a Lehtonen, A. 2019. 'Bicycle model on climate change education: presenting and evaluating a model.' Environmental Education Research, DOI: 10.1080/13504622.2019.1570487.
Dixon, D (2022) – Leadership for Sustainability – Saving the Planet One School at a Time; Crown House Publishing; ISBN: 9781781354018
Penaluna, A (2021) – 'Arloesedd mewn Arweinyddiaeth Addysgol yng Nghymru: A ydym yn chwarae er mwyn osgoi colli pan ddylem fod yn chwarae i ennill?' ; Yr Athro Emeritws Andy Penaluna Tachwedd 2021; Yr Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol (NAEL)