Cefndir
Yn ôl Canllawiau Cwricwlwm i Gymru,
‘mae dealltwriaeth gyffredin o gynnydd, wedi'i meithrin drwy ddeialog proffesiynol, yn rhan annatod o'r gwaith o gynllunio cwricwlwm a gwella dysgu ac addysgu.’
Yr angen yma i annog clystyrau i ddod at ei gilydd i sefydlu cyd-ddealltwriaeth o gynnydd ar hyd y continwwm dysgu 3-16 oed oedd y sbardun ni, fel rhanbarth Partneriaeth, i sefydlu gweithgor o arbenigwyr Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu o ysgolion clystyrau Bro Preseli a Chaer Elen.
Nod y Prosiect
Yn draddodiadol, trafodaethau o amgylch y broses bontio yn nhermau lles y dysgwyr yw ffocws llawer o’r trafodaethau rhwng ysgolion cynradd ac uwchradd. Mae dogfen ‘Cymorth ar gyfer dylunio a chyflwyno’r Cwricwlwm’ Estyn yn nodi
‘yn y gorffennol, mae’r gwaith hwn wedi canolbwyntio gormod ar bontio bugeiliol a ddim yn ddigon cryf ar gynorthwyo disgyblion i adeiladu ar eu dysgu o’r ysgol gynradd a chyflymu cynnydd yn ystod yr ysgol uwchradd.’
Datblygu cyd-ddealltwriaeth o sut mae addysgu da yn edrych a sut olwg sydd ar gynnydd
Sicrhau adnabyddiaeth o waith ei gilydd
Adeiladu continwwm dysgu o amgylch rhyw sgil
Bod y clwstwr yn dod yn hunangynhaliol a’r trafodaethau’n parhau
Ein bwriad yn y prosiect hwn oedd dod â chlwstwr at ei gilydd i siarad am y broses bontio academaidd gan ganolbwyntio ar y Gymraeg yn benodol o fewn Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu. Roeddem yn awyddus iddyn nhw lunio continwwm dysgu eu hunain o amgylch agwedd o’u dewis nhw er mwyn i’r disgwyliadau a’r daith fod yn glir i bawb yn y clwstwr.
"Mae rhain wir wedi bod yn ddiddorol ac wedi pwysleisio pa mor bwysig yw sgiliau gwrando 3-16. Fel athrawes C.S, mae wedi bod yn agoriad llygad i glywed beth sy’n ddisgwyliedig o ddisgyblion hynaf yr Uwchradd."
‘... fel athrawes uwchradd mae deall ‘o le mae’r plant wedi dod’ yn sobor o ddefnyddiol... mae’r dull o weithio fel ffram yn un y gellid ei ddefnyddio eto mewn unrhyw gyd-destun o waith prosiect gyda’r clwstwr. Ddwlen i weithio fel hyn eto wrth barhau â’r cynllunio.’
Camau nesaf
Yn dilyn y prosiect, mae’r clwstwr wedi parhau i gydweithio ar lefel Maes Dygu a Phrofiad. Maent wedi cynnal cyfarfodydd cyson ac wedi mynd ati i edrych ar y sgiliau eraill gan ddilyn yr un syniad o benderfynu ar ddilyniant a rhannu syniadau o ran sut mae sicrhau’r dilyniant hwn trwy weithgareddau a phrofiadau ysgogol.
Mae Partneriaeth yn parhau yn rhan o’r trafodaethau, ond erbyn hyn, mae’r clwstwr yn hunangynhaliol ac yn arwain y trafodaethau eu hunain.