Cyflwyniad
Ffocws canolog Bagloriaeth Cymru Cenedlaethol/Sylfaen yw darparu cyfrwng i ddysgwyr atgyfnerthu a meithrin sgiliau cyfannol a thrawsgwricwlaidd. Bydd y cymhwyster yn helpu dysgwyr i baratoi ar gyfer y dyfodol drwy feithrin sgiliau, priodoleddau a mathau o ymddygiad a gaiff eu gwerthfawrogi gan addysgwyr a darpar gyflogwyr. Mae pwyslais Bagloriaeth Cymru ar ddysgu cymhwysol h.y. caffael a defnyddio amrywiaeth o sgiliau trosglwyddadwy. Bydd y dysgwyr yn meithrin sgiliau yng nghyd-destun tasgau pwrpasol a gwybodaeth a dealltwriaeth briodol. Bydd Bagloriaeth Cymru Cenedlaethol/Sylfaen yn annog y dysgwr i werthfawrogi'r broses o feithrin sgiliau fel agwedd allweddol ar addysg a dysgu gydol oes. Mae'n cwmpasu ac yn cydgrynhoi dibenion craidd y Cwricwlwm i Gymru, gan gefnogi dysgwyr i ddod yn:
ddysgwyr uchelgeisiol, galluog sy'n barod i ddysgu gydol eu bywydau
gyfranwyr mentrus, creadigol sy’n barod i chwarae rhan lawn mewn bywyd a gwaith
ddinasyddion egwyddorol, gwybodus yng Nghymru a’r byd
unigolion iach, hyderus sy'n barod i fyw bywyd cyflawn fel aelodau gwerthfawr o gymdeithas.
Cynnwys y Cwrs
Rhennir y cymhwyster i dri phroject wedi'u cynllunio i sicrhau y gall dysgwyr arfer ymreolaeth a dewis personol wrth ddethol meysydd astudio sydd o ddiddordeb iddynt neu sy'n berthnasol i'w llwybrau cynnydd yn y dyfodol.
Mae'r Dystysgrif Her Sgiliau yn cynnwys pedair cydran:
Project Unigol
Her Menter a Chyflogadwyedd
Her Dinasyddiaeth Fyd-eang
Her y Gymuned
I ennill y cymhwyster, rhaid i ddysgwyr gwblhau'r Project Unigol a dwy o'r cydrannau Her. Bydd canlyniadau cyfunol y tair cydran a ddewisir yn penderfynu a yw'r Dystysgrif Her Sgiliau yn cael ei dyfarnu ar lefel Genedlaethol neu Sylfaen.
Asesu
Mae’r cymhwyster yn ddi-arholiad a chaiff dysgwyr eu hasesu ar y gwaith cwrs a chyflwynir trwy gydol y ddwy flynedd.
Mae'r Dystysgrif Her Sgiliau Cenedlaethol wedi'i graddio A* - C. Rhoddir gradd Llwyddiant Sylfaen neu Lwyddiant Sylfaen* am y Dystysgrif Her Sgiliau Sylfaen.
Bwrdd Arholiad
Cyswllt Ysgol
Miss Rachel Williams