Mathemateg a Rhifedd (dwyradd)
Yn TGAU Mathemateg a Rhifedd, bydwch yn adeiladu ar y wybodaeth a’r ddealltwriaeth sydd gennych o destunau o fewn rhif, algebra, geometreg a data. Byddwch yn dysgu agweddau ariannol allweddol bywyd bob dydd oedolyn, fel ymdrin â slipiau cyflog, biliau a chynilion. Mae dealltwriaeth dda o gynnwys y cymhwyster hwn yn llwyfan perffaith i'r rhai sy’n gobeithio dilyn gyrfa STEM.
BETH FYDDAF YN EI ASTUDIO?
Mae 3 uned i'r cwrs:
UNED 1: Mathemateg Ariannol a Chymwysiadau Eraill o Rifedd
Yn yr uned hon byddwch yn dysgu gwersi bywyd a fydd yn eich helpu i ddod yn oedolyn hyddysg iawn yn ariannol. Meddyliwch am dermau neu acronymau y gallech fod wedi clywed amdanynt fel ‘Ysiwrant Glwadol’, ‘TAW’ neu ‘AER’- bydd y rhain yn dod yn gyfarwydd i chi. Bydd cyfleoedd a pheryglon ariannol yn cael sylw, a byddwch yn dysgu sut i ddarllen dogfennau pwysig fel slipiau cyflog, biliau a chyfriflenni banc. Bydd pob math o gyd – destunau'r byd go iawn hefyd yn cael eu haddysgu a’u hasesu, gan wneud yr uned hon yn berthnasol ac yn diddorol.
Uned 2: Digyfrifiannell
Byddwch yn archwilio cysyniadau lle na fydd angen eich cyfrifiannell arnoch yn yr uned hon. Byddwch yn dyfnhau eich dealltwriaeth o debygolrwydd ac yn archwilio syniadau newydd o fewn algebra a geometreg, fel graffiau cwadratig a theoremau cylch.
Uned 3: Caniateir Cyfrifiannell
Mae llawer o drin data ac ystadegau yn yr uned hon yn ogystal â chysyniadau geometreg newydd fel Theorem Pythagoras a Thrigonometreg.
Yn ystod y cwrs TGAU, bydd myfyrwyr yn sefyll tri arholiad;
Uned 1: Mathemateg Ariannol a Chymwysiadau Eraill o Rhifedd
Ar gyfer yr Haen Uwch, hyd yr arholiad yw 1 awr 45 munud ac yn werth 80 marc, tra bod yr Haen Sylfaenol yn 1 awr 30 munud ac yn werth 65 marc.
Mae’r uned hon yn cyfrif am 30% o’r cymhwyster terfynol.
Uned 2: Heb Gyfrifiannell
Ar gyfer yr Haen Uwch, hyd yr arholiad yw 1 awr 45 munud ac yn werth 80 marc, tra bod yr Haen Sylfaenol yn 1 awr 30 munud ac yn werth 65 marc.
Mae’r uned hon yn cyfrif am 30% o’r cymhwyster terfynol.
Uned 3: Defnyddio Cyfrifiannell
Ar gyfer yr Haen Uwch, hyd yr arholiad yw 2 awr ac yn werth 90 marc, tra bod yr Haen Sylfaenol yn 1 awr 45 munud ac yn werth 75 marc.
Mae’r uned hon yn cyfrif am 40% o’r cymhwyster terfynol.
Mrs Lynwen Lewis