Mae TGAU Gwyddoniaeth (Dwyradd) yn ymwneud ag astudio’r dair gwyddor. Bydd y rhain yn cael eu hasesu mewn unedau ar wahân ond byddan nhw’n arwain at un cymhwyster sy’n werth dau gymhwyster TGAU. Bydd y cwrs yn datblygu’ch dealltwriaeth o sawl maes gwyddoniaeth a bydd hefyd yn datblygu’ch sgiliau ymarferol a datrys problemau.
Blwyddyn 10
Uned 1: Bioleg 1- Celloedd a symudiad ar draws cellbilenni - Resbiradaeth a’r systemau resbiradol mewn bodau dynol - Treuliad a’r system dreulio mewn bodau dynol - Y system cylchrediad gwaed mewn bodau dynol - Planhigion a ffotosynthesis - Ecosystemau, cylchredau maetholion ac effaith dyn ar yr amgylchedd
Uned 2: Cemeg 1 - Natur sylweddau ac adweithiau cemegol - Adeiledd atomig a’r Tabl Cyfnodol - Dŵr - Y Ddaear sy’n newid yn barhaus - Cyfradd newid cemegol
Uned 3: Ffiseg 1 - Cylchedau trydanol - Cynhyrchu trydan - Defnyddio egni - Trydan domestig - Nodweddion tonnau
Blwyddyn 11
Uned 4: Bioleg 2 - Homeostasis a Micro-organebau. Dosbarthiad a bioamrywiaeth - Cellraniad a chelloedd bonyn - DNA ac etifeddiad - Amrywiad ac esblygiad - Ymateb a rheoleiddio - Arennau a homeostasis - Micro-organebau a’u cymwysiadau - Clefydau, amddiffyniad a thriniaeth
Uned 5: Cemeg 2 - Bondio, adeiledd a phriodweddau - Asidau, basau a halwynau - Metelau ac echdynnu metelau - Adweithiau cemegol ac egni - Olew crai, tanwyddau a chemeg organig
Uned 6: Ffiseg 2 - Pellter, buanedd a chyflymiad - Deddfau Newton - Gwaith ac egni - Sêr a phlanedau - Mathau o belydriad - Hanner oes
Mae Uned 7 yn asesiad ymarferol rydych yn ei wneud yn y dosbarth. Mae hwn yn seiliedig ar y sgiliau ymarferol rydych chi wedi’u dysgu yn unedau 1 i 6.
Blwyddyn 10
Uned 1: Arholiad (15% o gyfanswm y marciau) Haen Uwch neu Sylfaenol
Uned 2: Arholiad (15% o gyfanswm y marciau) Haen Uwch neu Sylfaenol
Uned 3: Arholiad (15% o gyfanswm y marciau) Haen Uwch neu Sylfaenol
Blwyddyn 11
Uned 4: Arholiad (15% o gyfanswm y marciau) Haen Uwch neu Sylfaenol
Uned 5: Arholiad (15% o gyfanswm y marciau) Haen Uwch neu Sylfaenol
Uned 6: Arholiad (15% o gyfanswm y marciau) Haen Uwch neu Sylfaenol
Uned 7: Asesiad dan reolaeth (10% o gyfanswm y marciau)
Mr Arwyn Lloyd