Croeso
Yn ystod y misoedd nesaf byddwch yn gwneud penderfyniadau pwysig ynglŷn â’r pynciau rydych am eu hastudio ym Mlwyddyn 10 ac 11. Yn ystod y cyfnod yma byddwch yn gwneud ymarferion mewn gwersi tiwtorial i’ch galluogi i ddod i adnabod eich hunain yn well ac i ddarganfod o ble i gael cymorth a gwybodaeth berthnasol am yrfâu a dewisiadau.
Mae’r penderfyniad yma yn un pwysig at ddyfodol eich plentyn ac felly hoffwn ddatgan bod yr ysgol yma i gynorthwyo ac i helpu trwy gydol y broses.
Gobeithiwn y bydd y wefan yma yn eich cynorthwyo i wneud penderfyniadau. Bydd yna hefyd noson ymgynghori pan gewch gyfle pellach i drafod eich dyfodol gydag aelodau o’r staff.
Mae fwy o wybodaeth a chyngor ar safwe Gyrfa Cymru www.gyrfacymru.com
Trosglwyddo i gyrsiau TGAU
Gwelir isod grynodeb o’r broses yn cynnwys dyddiad pwysig i nodi. Bwriad y cynllun hwn yw sicrhau bod pob disgybl yn cael y cyfle gorau posib i astudio’r pynciau maent yn dymuno ac er mwyn i ni osod y staffio addas ar gyfer y ddarpariaeth.
Neges gan y Pennaeth - Mr Geoff Evans
Mae'r ffaith eich bod yn darllen y wefan yma yn dangos eich bod yn awr yn wynebu dewisiadau fydd yn penderfynu pa destunau y byddwch yn eu hastudio dros y ddwy flynedd nesaf.
Mae angen i chi ddarllen y wybodaeth yn ofalus er mwyn dewis y cyfuniad gorau posibl o'r dewisiadau sydd ar gael. Cofiwch ein bod yn disgwyl i holl ddisgyblion wneud eu gorau ac i gyrraedd eu potensial llawn, felly, dewiswch yn ddoeth, nid yr opsiwn hawsaf!
Byddwch yn astudio eich pynciau dewisol dros dwy flynedd ym Mlwyddyn 10 ac 11, felly dewiswch gyrsiau a phynciau y byddwch yn eu hoffi, y byddwch yn llwyddo ynddynt ac sydd ar lefel addas.
Yr unig gyfyngiad sydd gennym yw ein bod yn mynnu bod eich dewisiadau yn caniatáu i chi astudio cwricwlwm eang, cytbwys a pherthnasol, felly darllenwch y nodiadau yn ofalus.
Mae’n bwysig nad ydych yn poeni am y dewisiadau. Bydd cadarnhau’r dewisiadau terfynol yn digwydd pan fyddwn ni’n hyderus bod disgyblion wedi derbyn digon o wybodaeth a phrofiadau.
Diolch,
Mr. Geoff Evans
Pennaeth.