Ym mlwyddyn 10 byddwch yn gweld newid ar eich sefyllfa. Hyd yn hyn buoch yn astudio amrywiaeth eang o bynciau, ond cyn bo hir byddwch yn cael cyfle i astudio rhai o’r pynciau hynny ac yn gollwng eraill. Bydd cyfle hefyd i ddilyn pynciau newydd.
Mae’n rhaid i bawb astudio’r pynciau (craidd) canlynol;
Cymraeg
Saesneg
Mathemateg
Gwyddoniaeth
Addysg Grefyddol / Gorfforol Statudol
Tystysgrif Her Sgiliau
Mae’r cwricwlwm ym mlwyddyn 10 wedi’i gynllunio fel bod gan bob disgybl yr hawl i ddewis tri phwnc ychwanegol i’r pynciau craidd. Bydd yr holl wybodaeth sydd angen arnoch chi ar gyfer y pynciau dewisol ar y wefan yma.
Defyddiwch y wybodaeth o’ch sesiynau boreol i helpu adnabod eich sgiliau
Dewis pynciau byddwch yn mwynhau
Dewis pynciau byddwch yn llwyddo i ennill graddau fydd yn dangos chi ar eich gorau
Dewis pynciau sydd ar y lefel gywir i’ch gallu
Dewis amrywiaeth o bynciau
Siarad gyda staff am gyngor
Peidiwch a dewis pwnc oherwydd bod eich ffrind yn gwneud y pwnc
Peidiwch a dewis pwnc newydd heb wybod dim amdano
Mae cyrsiau TGAU wedi graddio o A* i G. Bydd yr arholiadau nid yn unig yn profi’ch cof a’ch gallu i gyflwyno gwybodaeth ond hefyd yn profi’ch dealltwriaeth, eich sgiliau ymarferol a’ch gallu i gymhwyso gwybodaeth.
Mae gan yr ysgol fwydlen eang o bynciau TGAU. Mae'r pynciau yma yn cael ei asesu'n bennaf trwy arholiadau allanol ar ddiwedd blwyddyn 10 a 11.
Gwelir rhestr o'r pynciau yma trwy ddilyn y ddolen 'Cyrsiau' uchod.
Rydym hefyd yn darparu ystod o gyrsiau galwedigaethol sydd yn rhoi pwyslais ar waith cwrs yn hytrach nag arholiadau ffurfiol yn unig. Mae'r cyrsiau yma yn cael asesu drwy waith cwrs parhaol dros y 2 flynedd yn ogystal ag arholiad allanol sydd fel arfer yn cael ei sefyll ar ddiwedd blwyddyn 10 neu 11.
Mae'r cyrsiau yma yn addas i ddysgwyr sydd yn mwynhau'r her o waith ymchwil a chreu portffolio yn hytrach nag arholiadau ffurfiol yn unig.
Ar ddiwedd eich cyfnod yn astudio cwrs galwedigaethol fe fyddwch yn derbyn cymhwyster Lefel 2 sydd yn cyfateb i TGAU. Mae'r cyrsiau yma yn cael ei graddio ychydig yn wahanol i gyrsiau TGAU ble byddwch yn derbyn;
Anrhydedd* / Distinction* - Sydd yn cyfateb i A*
Anrhydedd / Distinction - Sydd yn cyfateb i A
Teilyngdod / Merit - Sydd yn cyfateb i B
Llwyddiant L2 / Pass L2- Sydd yn cyfateb i C
Os nad yw’r disgybl yn cyrraedd Llwyddiant Lefel 2, yna bydd cyfle ennill Llwyddiant Lefel 1 sy’n gyfateb a radd E TGAU.
Gan amlaf, mae cwrs Lefel 1/2 yn gwrs Galwedigaethol sy’n paratoi chi at y byd Gwaith. Ychydig iawn o gyrsiau Galwedigaethol sydd ag elfen arholiad.
Gwelir rhestr o'r pynciau yma isod ac am fwy i wybodaeth dilynwch y ddolen 'Cyrsiau' uchod;
Twristiaeth
Gwallt & Harddwch
Busnes Adwerthu
Adeiladu
SWEET
Dysgu yn yr Awyr Agored
Bydd rhai cyrsiau ar gael ar lefel mynediad yn ddibynnol ar argaeledd ac ar allu’r disgybl.
Mae cyswllt gyda’r cartref yn bwysig i ni yma yn yr ysgol, ac o ganlyniad bydd bob myfyriwr yn cael ei fonitro yn agos iawn er mwyn sicrhau ei fod yn gweithio i’w botensial.
Bydd hyn y cynnwys;
monitro adrannol
adroddiad interim a blynyddol
noson rhieni
Bydd cymorth ar gael i’r sawl sy’n ei chael hi’n anodd i gyflawni’r pynciau drwy sesiynau mentora unigol.